MELYSION MELYSION MELYSION »

6.12.10

Cyllideb caled

Dim ond oriau sydd i fynd tan fydd yr llywodraeth yma yn Iwerddon yn cyhoeddi yr cyllideb. Mae hyn yn cyllideb sydd angen arbed arian i dalu am y llanast economaidd sydd yn Iwerddon - ac mae hyn yn swm sylweddol. Un peth sy'n sicr, bydd hyn yr fydd o arbed arian yn cosbi y tlawd ag yn effeithio dyfodol Iwerddon.


1.12.10

Eira mawr

Mae eira trwm wedi disgyn dros y dyddiau diwethaf ac mae Dulyn mewn anhrefn o ganlyniad. Roeddwn i gartref heddiw ac dyma'r llun tynnais o'r eira tu allan i'r tŷ. Ar hyn o bryd dwi'n caru'r eira, ond mae'r eira i fod i bara am wythnos arall felly gawn ni weld os fydda'i mor hoff ohono wedi 7 diwrnod o annibendod.