Nadolig - pwy a ŵyr
Ers i mi gael y swydd yn y cylchgrawn dwi'n dod i nabod pwy yw enwogion yr sîn Gwyddelig. Heddiw dwi'n cyfweld Blathnaid Ni Chofaigh o'r rhaglen 'The Afternon Show'. Nos Fawrth, roeddwn i'n yr IFSC yn siop Ciaran Sweeney yn tynnu lluniau i'r cylchgrawn. Er fod na lot o eistedd o gwmpas roedd hi'n phrofiad da bod yno.
Ar hyn o bryd mae bob dim dwi'n gweihthio ar am y Nadolig - 5 peth gorau i gael fel anrhegion, llefydd gorae i siopa ayyb.
Allai'm aros i fynd adra i weld pawb yn Gymru, dwi'n caru'r Nadolig.
16.12.08
Nadolig - pwy a ŵyr
Postwyd gan Melys at 16.12.08 0 comments
5.11.08
Arlywydd newydd, Amser am newid.
Codais am 7 bore 'ma ag troi'r teledu ymlaen i clywed y newyddion fod Barack Obama wedi enill yr etholiad. Roed fy ffrind Americanaidd draw neithiwr yn gwylio yr canlyniadau cyntaf ar Sky News, ag doedd y ddau ohonom ddim yn sicr pwy fuasai'n enill.
Pan welais y lluniau o Jesse Jackson yn crio wrth gwrando i araith Obama wedi ei llwyddiant, wel, roedd yn ddigon i ddod a deigryn i unrhyw lygaid.
Ond, does ddim eisiau rhamantu'r sefyllfa mwy na sydd angen - mae'r waith caled ar fin ddechrau o ailgodi yr Unol Daleithiau'r Amerig ag fel canlyniad economi'r byd. Dwi'n rhagweld fydd blynyddoedd cyntaf Obama yn rhai caled.
Postwyd gan Melys at 5.11.08 0 comments
3.11.08
Cyfnewidiadau
Dwi heb 'di cael amser i sgwennu yn yr hen flog yn diweddar.
Yr wythnos ar ôl gorffen y traethawd hir gefais swydd mewn cylchgrawn ferched fwya Iwerddon. Dwi wedi bod yn gweithio yma ers deu fis nawr, ag hyd yn hyn rwy'n mwynhau'r gwaith. Rwy'n cael y cyfle i sgwennu am bob dim dan haul o chyfweliadau gyda enwogion Gwyddelig a tlysau i'r cartref i clecs am enwogion y byd.
Dwi dal i darllen newyddion Cymraeg drwy'r BBC, ond dwi heb 'di neud taith i'r Hen Wlad ers yr haf...dim ond ychydig wythnosau sydd ar ôl i'r taith Nadoligaidd i Gymru, dwi'n edrych 'mlaen yn barod.
Postwyd gan Melys at 3.11.08 0 comments
9.9.08
Diffyg cwsg
Mae hi wedi chwech y bore ag dwi’n dioddef o diffyg cwsg. Felly dwi’n eistedd yn y gwely yn meddwl am pethau i neud. Dwi ddim yn gallu dod o hyd i llyfr dwi heb di darllen, dwi wedi troi i hen gopi o tu chwith ag darllen ambell stori difyr ag nawr rwyn sgwennu i’r blog.
Mae’r byd yn lle rhyfedd am ugain munud wedi chwech yn y bore. Mae’r dewis o rhaglenni teledu yn mynd o Dr Phil, i pedair sianel yn cynnig newyddion, tair siannel gyda cerddoriaeth ag rhaglenni addysgol ar BBC2 ag cach llwyr fel ‘the peoples jury’ ar Sky One. Mae gennai ddewis o 17 o sianneli diolch i NTL ag fel arfer allai ddod o hyd i rhywbeth Americanaidd i diddori’r meddwl ond y gorau sydd ar gael nawr yw fideo Rhianna ar ddwy sianel wahanol - “Dum dum dum di dum dum…”
Mae’r glaw yn disgyn ag mae’r gwynt yn chwythu, ag mae'n swnio fel bysedd yn taro’r ffenstr. Dydw i ddim eisiau sbio tu ol i'r llenni rhag ofn fod ysbryd yn hofran o flaen fy ffenest lloft yn sbio i fewn o'r tywyllwch. Wrth gwrs dwi ddim yn credu yn y fath beth, ond yn oriau man y bore mae’r meddwl yn hoff o chwarae triciau.
Yn anffodus rhaid i mi mynd i’r llyfrgell yn fuan yforu i chwylio am fwy o lyfrau i helpu gyda’r taethawd hir. Mae gen i wythnos ar ol i orffen yr dadansoddiad o radio Iwerddon ag dwi’n mynd o un emosiwn i’r llall mewn chwinciad…fel heddiw roeddwn i’n pryderi na fyddaf byth yn gorffen cyn Dydd Gwener, ond nawr gallaf weld lle dwi angen neud cydig o newidiadau er mwyn gorffen yr ymchwil.
Beth bynnag, mae hi’n chwarter i saith ag mae’r llyfyrgell yn agor mewn ddwy awr felly mae rhaid i mi o leif ceisio cael awran o gwsg neu fyddai ddim iws i neb!
Postwyd gan Melys at 9.9.08 0 comments
8.9.08
Sunday Times Iwerddon
Yr wythnos hon dwi wedi bod yn gweithio yn y Sunday Times.
O'r diwedd allai postio dolenni i rhai o'r erthyglau sydd wedi cael ei cyhoeddi yn y papur yn diweddar.
Siopau dillad yn codi prisiau uwch yn Iwerddon
Postwyd gan Melys at 8.9.08 0 comments
3.9.08
Facebook Cymraeg Swyddogol wedi cyrraedd
Mae'r Facebook Cymraeg swyddogol wedi cyrraedd.
Mae modd i chi nawr ddewis y Gymraeg o'r rhestr o ieithoedd swyddogol.
Dim ond 22 iaith swyddogol sydd ar Facebook!
Ar waelod pob tudalen, mae dolen bach sy'n eich galluogi i newid yr iaith rhwng y Gymraeg a'r Saesneg (a nifer o iethoedd eraill) yn hawdd.
Ffordd arall o ddewis rhyngwyneb Gymraeg yw trwy fynd i'r adran cyfrif (account) a phwyso ar y tab iaith (language), a dewis y Gymraeg o'r rhestr.
Dolen uniongyrchol yma - http://www.facebook.com/editaccount.php?language
Bydd modd i bobl sy'n ymuno gyda Facebook am y tro 1af nawr hefyd ddewis y Gymraeg pan yn ymuno.
(neges gan Hedd Gwynfor i aelodau Facebook Cymraeg? Welsh Language Facebook?)
Postwyd gan Melys at 3.9.08 0 comments
22.8.08
**PENBLWYDD HAPUS MELYSION**
Mae Melysion yn dyflwydd oed heddiw.
Pan dechreuais sgwennu y blog yma roeddwn i'n byw yn Gogledd Cymru ac yn gweithio i cwmni yn y byd teledu. Nawr dwi yn byw yn Dulyn ag ar fin corffen cwrs MA mewn newyddiaduriaeth.
Y newyddion mwya heddiw yn byd Melys yw fod erthygl dwi wedi sgwennu am siopa am fod yn yr Sunday Times Iweddon Dydd Sul yma. Wnai bostio ddolen i'r stori cyn bo hir.
Melysion i bob un o bobl y byd
Postwyd gan Melys at 22.8.08 0 comments
9.8.08
Y Swyddfa Bost
Mae'r pentref gefais fy magu ynddo heb siop na swyddfa bost ers sawl blynedd. Pryd dwi'n mynd yno i aros efo fy rhieni dwi'n colli cael siop cyfleus i cael llefrith neu bisgedi.
Ar hyn o bryd mae protestio yn cael ei cynnal am cau swyddfeydd post. Mae'n drist i weld nhw'n cau oherwydd mae llawer yn calon pentrefi. Fydd rhaid i pobol teithio i trefi i defnyddio swyddfa bost, sydd yn anheg i rhai ar incwm isel neu i henoed.
Fy hoff swyddfa post yw yr un yn Llanrug. Pan oeddwn i'n gweithio yn Cibyn ger Caernarfon roeddwn i'n defnyddio'r swyddfa yma yn ystod fy awr ginio. Roedd y perchnogion yn gyfeillgar ag roedd digon o amser i gael sgwrs - dim fel yr un mawr yn Caernarfon lle roedd ciw pob amser cinio.
Ond gyda e-bost yn ffordd fwy cyfleus i gyrru negeseuon ag llai o post yn cael ei yrru faint o fywyd sydd arol yn y busnesau yma. Os nad yw pobol am cefnogi ei swyddfa post lleol beth yw'r pwynt cal nhw.
NEWYDDION BBC
Postwyd gan Melys at 9.8.08 0 comments
5.8.08
"Fuoch Chi Rioded Yn Morio?"
Dwi newydd ddod adref wedi penwythnos yn Gymru.
Wnes i gerdded ar hyd y Cob i Borthmadog gyda'm ffrind. Roedd y tywydd yn bendigedig, er nid oedd copa'r Wyddfa i weld oherwydd y cymylau yn isel. Roedd elyrch ar y Glaslyn ag defaid yn porio ar y gwair. Diwrnod perfaith.
Dydd Sul cefais cinio yn Y Sgwar, Tremadog, gyda fwy o ffrindiau ag noson allan ym Mhenrhydeudraeth. Roedd hi’n braf gweld ffrindiau dwi wedi nabod ers 22 flynedd – ers fy mlynyddoedd cynnar Ysgol Cefn Coch. Roedd na Carioci yn y Royal, y tafarn lleol ond doeddwn i ddim digon meddw i ceisio canu, yn enwedig ers i mi gwenud perfformiad erchyl o ‘Don’t Stop Me Now’ gan Queen yn y Village ar nos sul.
Dwi’n gweithio ar hyn o bryd ond dwi dal i chwylio am swydd llawn amser yn y byd newyddiadwrath. Mae gen i traethawd ymchwil i sgwennu erbyn canol mis Medi felly mae pob awr rhydd yn cael ei dreulio o flaen y cyfrifiadur.
Felly dwi'n brin o newyddion ar hyn o bryd. Fe glywais for Gai Toms aka Mim Twm Llai yn Temple Bar un prynhawn - mae Dulyn yn llai nag mae'n edrych!
Postwyd gan Melys at 5.8.08 0 comments
11.7.08
Y Cyfweliad
Yn ystod yr cyfweliad ni ofynodd neb dim am fy mhrofiad nag fy sgiliau. Roedd y chwarter awr roeddwn i yno yn cynnwys cwestiynnau am pobol enwog Gwyddelig ag feithaiu amdanyn nhw.
Postwyd gan Melys at 11.7.08 1 comments
8.7.08
Gwyliau Cymru

Postwyd gan Melys at 8.7.08 0 comments
Y dyn gyda 20 o blant.
Ar ol i mi gyraedd adra o gwaith rhoddais BBC1 ymlaen. Roedd rhaglen ar ei hanner gyda teulu o de Cymru yn siarad. Roedd gan y teulu dwshinau o blant ag roedd pawb yn byw mewn ty bach yn Glyn Ebwy- ag yn yr golygfa cytaf a welais roedd y dŵr ddim yn gweithio. Am dros wythnos roedd y teulu yn byw fel hyn, yn defnyddio dŵr o boteli i coginio ag roedd y sinc yn llawn o lestri budron.
Ro’n i’n meddwl na rhaglen am problemau amddifadiad cymdeithasol roedd hwn, ond na… ro’n i’n gwylio ‘The Man with 20 Kids’ – y fath o rhaglen sa’n neud i Jeremy Kyle cynhyrfu'n lan.
Mae Mike Holpin, 47 o Glyn Ebwy yn byw gyda’i trydydd wraig gyda 9 o blant ag yn cael £27,000 mewn budd-daliadau bob blwyddyn. Mae’r rhaglen yn dilyn y teuly drwy’r nadolig pryd mae Mike yn cael ei arestio am yfed a gyrru. Ia, mae’r teuly yn cael pres gan yr llywodraeth i fyw, ond mae’r tlodi mae’r teuly yn byw ynddo yn uffernol o drist ag yn bywyd caled.
Dwi’n meddwl dylsa Mike cael ‘vasectomy’ neu wbath, ond dwi ddim yn meddwl fod hi’n deg i’r plant bod yn rhan o rhaglen deledu sydd yn ffieiddio gymaint o bobol i’r pwynt lle mae forwmau yn llawn o casindeb tuag at Mike a’i deuly. (e.e. Welsh waster with 20 kids) Dydi o ddim yn hysbyseb da i ardaloedd fel Glyn Ebwy chwaith.
Erbyn diwedd y rhaglen roedd na bach o obaith i teulu Mike - roedd o heb di yfed ers 5 wythnos, roedd y plant yn yr ysgol ag roedd pawb yn tŷ cyngor newydd..ond roedd Mike yn siarad am cael babi arall - o no!
Postwyd gan Melys at 8.7.08 1 comments
24.6.08
Amy Winehouse
Postwyd gan Melys at 24.6.08 0 comments
Gweplyfr yn Gymraeg
Efalli mae lot o bobol wedi gwybod am hyn erstalwm, ond dwi newydd darganfod fod Gweplyfr ar gael yn y Gymraeg!
Nawr allai darllen fy negeseuon, chwylio am ffrindiau ag cael prociadau.
Mae'r rhaglen ar gael yma : www.facebook.com/translations/
Mae Facebook wedi agor eu rhaglen gyfieithu fewnol i’r Gymraeg. Mae’r wefan sydd ag 8 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU yn unig wedi derbyn digon o geisiadau i warantu agor y system gyfieithu ar y cyd i’r Gymraeg. Bydd defnyddwyr yn gallu cyfieithu holl destun y wefan fesul un, a phleidleisio ar y cyfieithiadau gorau, gan geisio cael cytundeb democrataidd ar y ffyurf gorau.
(blog mercator.)
Postwyd gan Melys at 24.6.08 0 comments
23.6.08
Hiraeth
Blwyddyn ynol roeddwn i'n teimlo bach yn 'wan wedi penwythnos yn Gwyl Car Gwyllt.
Y flwyddyn yma roeddwn i'n cerdded strydoedd Dylun yn y glaw.
Heddiw mae gennai bach o hiraeth, yn enwedig ar ol gwylio 'The Edge Of Love'. Mae'r lleoliadau yn Gymru ble mae'r ffilm wedi cael ei wneud yn rhai o fy hoff lefydd - Cei Newydd ag Aberaeron.
Wnes i fwynhau'r ffilm. Dydi Keira K ddim yn fy hoff actores, ond chwarae teg doedd ei acen hi ddim yn uffernol, ag wnaeth hi tro da ar ganu Myfanwy.
Roedd yr adolygiad yn yr 'Sunday Times' yn digon teg yn fy marn i. Ffilm da i wylio ar brynhawn Sul oer ag gwlyb.
Ble mae'r haul wedi mynd?
Postwyd gan Melys at 23.6.08 0 comments
12.6.08
Bod ar Wylie
Postwyd gan Melys at 12.6.08 0 comments
16.5.08
Ydw i'n Gelt?
Dwi yn Gymru am wythnos, ag un llawn o tywydd braf ydi hi hefyd.
Dwi wrth fy modd yn mynd ar y Cob i Borthmadog ar adegau fel hyn, mae'r mynyddoedd yn edrych yn mawreddog ag yn brydferth ar yr un tro.
Dwi wedi gwylio bach o S4C ac roeedwn i'n ffodus i weld O Flaen Dy Lygaid: Ydw i'n Gelt?

Postwyd gan Melys at 16.5.08 0 comments
28.4.08
Milis
Dwi rhy brysyr ar y foment i gwneud gwersi Gaeleg (dwi'n dechrau gwersi yn yr Hydref)
Serch hynny, rwyf wedi bod yn dysgu geiriau Gwyddelig.
Rhaid i mi cyfaddef bod un neu ddau wedi dod o'r hysbyseb yma:
Postwyd gan Melys at 28.4.08 0 comments
20.4.08
8.4.08
AFFRICA I DDOLGELLAU ~ Sesiwn Fawr Dolgellau
Sesiwn Fawr Dolgellau
Gorffennaf 18 & 19, 2008
Mae trefnwyr Seswin Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi rhestr yr artisiaid a fydd yn ymddangos yn yr ŵyl a gynhelir ar Orffennaf 18 ac 19 eleni. Mae’r rhestr gyda’r mwyaf cyffrous eto ac yn restr syn cynnig rhywbeth i bawb o bob oed. Prif fand y Sesiwn Fawr eleni fydd y Gwyddelod anhygoel The Saw Doctors, a’u cerddoriaeth hwyliog hwy fydd yn dod a gweithgareddau i ben ar nos Sadwrn, hyn yn benllanw i ddeuddydd o gerddoriaeth anhygoel.
Bydd thema Affricanaidd i’r Sesiwn eleni gyda dim llai na phedwar band o’r cyfandir yn ymddangos ar y llwyfannau. Daw’r Bedouin Jerry Can Band ardal anialwch y Sahara a maent yn creu eu cerddoriaeth trwy ddefnyddio, ymysg pethau eraill, deunyddai wedi ei darganfod yn yr anialwch. Rhyddhawyd y cd Soul Science gan Justin Adams a Juldeh Camara yn ddiweddar a derbyniodd froliant mawr yn y wasg ac yn sicr bydd yn un o cd y flwyddyn yn siartiau cerddoriaeth byd. Daw Juldeh Camara o Ghana tra mae Justin Adams wedi gwneud enw mawr iddo’i hun trwy chwarae’i gitar gyda, ymhlith eraill, yr enwog Robert Plant. Datgeinydd ar y kora, y delyn Affricanaidd, yw N’Faly Kouyate sy’n enwog am ei ran yn y band Afro Celt Sound System, ond eleni daw N’faly a’i fand Dunyakan i’r Sesiwn. Bydd y gantores o’r Aifft Natacha Atlas yn uchafbwynt ar y prif lwyfan nos Wener. Bu Natacha Atlas yn prif leisydd y band Transglobal Undergroud tan yn ddiweddar
Pob blwyddyn daw cerddoriaeth y byd i Ddolgellau a dyw eleni ddim gwahanol yn ogystal a’r seiniau Affricanaidd gallch fwynhau rhythmau salsa gan Grupo Fantasma o Texas a’r Buena Risca Social Clwb o Gaerdydd ac os mae bluegrass sy’n mynd a’ch ffansi peidied a methu’r Coal Porters, neu’r blues, yna Lisa Mills amdani.
Ond fel arfer mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn cynnig y gorau o gerddoriaeth y sin yng Nghymru ac eleni cewch fwynhau Huw Chiswell, Bryn Fôn, Sibrydion, Gwibdaith Hen Fran, Steve Eaves, Lowri Evans, Cowbois Rhos Botwnnog a Celt. Efallai mai’r pluen fwyaf yn het y Sesiwn Fawr elni yw’r ffaith eu bod wedi preswadio Endaf Emlyn i berfformio’n fyw unwaith eto. Bu’r cerddor yn dawel ers dyddiau Jip yn yr 80au. Yn ei set ar gyfer y Sesiwn eleni bydd yn perfformio caneuon oddi ar ei albym ddylanwadol Salem, albym na chafodd ei pherffromio’n fyw o’r blaen. Bydd perfformaid o Salem yn sir Feirionnydd nid yn unig yn ddigwyddiad cerddorol o bwys ond yn un hanesyddol, digwyddiad y byddwch eisiau dweud ‘roeddwn i yno.’
Uchafbwynt arall yn sicr fydd ymddangosiad yr hen rocyrs Man sydd wedi bod yn gigio ers 40 mlynedd. Mwynhaodd y band o ardal Abertawe a Llanelli gryn enwogrwydd yn y 70au a braf fydd eu gweld ar lwyfan y Sesiwn.
Dros y blynyddoedd mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi ymfalchio mewn datblygiadau cyffrous i’r wyl ac eleni fe welir llwyfan dawns am y tro cyntaf yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Bydd amrywiol wethgareddau i’w mwynhau yma. Yn y prynhawn gallwch fwynhau twmpath efo’r Bandarall ond gyda’r nos bydd y rhythmau yn newid ac yn cynhyrfu cryn dipyn gyda setiau dj gan Dyl Mei a’r Byd Mawr a set gan yr anhygoel Skilda o Lydaw.
Bydd tocynnau ar gyfer y Sesiwn Fawr yn mynd ar werth dydd Mawrth, Mawrth 25ain a gellir eu sicrhau o’r wefan ar www.sesiwnfawr.com neu trwy ffonio 08712301314. Mae’r tocynnau ar werth ar yr un pris a llynedd sef dydd Gwener £22, dydd Sadwrn £25 a thocyn penwythnos am £42.
Postwyd gan Melys at 8.4.08 0 comments
3.4.08
Ffarwel Bertie
Mae Patrick Bartholomew "Bertie" Ahern yn mynd...ar y 6ed o Mai.
Mae Bertie wedi bod yn pennaeth Fianna Fáil ers 1994 ag yn Taoiseach ers 1997 ag, chwarae teg, yn yr amser yna mae'r gwlad wedi mynd o nerth i nerth.
Yn y misoedd diwethaf mae storiau am twyll ac arferion llwgr yn cyfrifon Bertie wedi bod ar dudalen blaen bob papur newydd Gwyddelig.
Yn ei araith o flaen yr 'Government Buildings' dywedodd:
Postwyd gan Melys at 3.4.08 0 comments
20.3.08
Campus
Hwre! Cymru'n cael y Gamp Llawn!!
Cymru: 29 Ffrainc : 12
(NEWYDDION)
Roeddwn i yn gwylio'r gem mewn tafarn yn Dulyn. Roedd pawb yn cefnogi Cymru, er dim ond 2 ohonom oedd yn gwysgo coch.
Roedd dathlu yn mynd ymlaen i'r oriau man y bore.
Postwyd gan Melys at 20.3.08 0 comments
19.1.08
Croeso i 2008
Wnes i treulio 5 diwrnod wych yn Gymru dros yr Nadolig. Penderfynais mynd ynol i Dulyn am y Flwyddyn Newydd - gyd wnai ddweud am y noson yw fod rhaid i mi treulio Ionawr 1af yn fy ngwely.
Wnaeth yr amser adra rhoi bach o hiraeth i mi - blwyddyn ynol roeddwn i'n byw mewn pentref ag yn gweithio mewn theatr. Nawr dwi mewn ddinas ag er fy mod i yn gweithio mewn theatr unwaith eto dio'm cweit run fath a gweithio mewn theatr bach sy'n ganol cymdeithas gwledig. Dwi'n mynd ynol i Gymru yr wythnos hon gyda ffrind Gwyddelig iddi gweld lle ges i fy magu.
Dwi'n edrych 'mlaen i'r cystadlaeaeth Y Chwe Gwlad 2008 - dwi'n meddwl fod Gymru am wneud yn dda y flwyddyn hon!
Postwyd gan Melys at 19.1.08 0 comments