MELYSION MELYSION MELYSION »

3.6.10

Chwarae o gwmpas

Mae'r tymor 'tag rygbi' wedi dechrau unwaith eto. Pedair gêm i fewn i'r tymor ag mae'r Cymru Ddulyn wedi enill un, cael dwy gêm gyfartal ag wedi colli un.
Gallwch dilyn ein tîm ar y wefan IRFU Tag Rugby

28.5.10

Cwmwl aur

Rwy'n teithio i Gymru yn ddigon amal ag gan fod fy ngartref yn yr gogledd, y cwch yw'r ffordd fwya' addas i mi defnyddio.

Mae'r cwmwl o lwch a lludw wedi cynhyddu yr nifer o bobol sydd yn teithio o Iwerddon i Gymru wedi cynhyddu'n sylweddol ag ar fy siwrne diweddar roedd yr cwch yn llawn.

Roedd o'n amser eithaf drwg i ddod a'r 'vomit comet' sef yr Stena Lynx ynol i Caergybi. Dim ond 500 o bobol mae'r Lynx yn dal, felly gyda'r nifer o teithwyr yn cynhyddu roedd yn amser i'r HSS Stena Explorer dychwelyd.

Mae'r HSS yn ffordd gwych o teithio dros yr môr, gyda digon o le ag yn weddol cyffyrddus tra roedd yr Lynx yn fach ag yn fwy fel bws nag cwch. Ond, fel y dywediad "Mae gan pob cwmwl leinin arian" mae gan yr cwmwl o lwch un aur!

15.5.10

Yr capel Cymraeg

Does ddim llawer o pobol yn gwybod am yr Capel Cymraeg sy'n Talbot Street yn ganol Dulyn - yr unig gapel Gymraeg a fu yn Iwerddon. Erbyn hyn mae'r capel yn siop, er mae'n bosib gweld gweddillion yr hen capel (fel a welwch uchod).

Adeiladwyd capel yn Talbot Street yn 1838 i gwasanaethu yr forwyr Cymreig ag daeth y capel o dan awdurdod Henaduriaeth Môn. Am gyfnod bu'r adeilad yn siop esgidiau, wedyn yn neuadd snwcer, ond erbyn hyn mae’r adeilad mewn adfeiliad ag mae’r Chymdeithas Cymraeg yn Iwerddon, Y Draig Werdd, yn gobeithio cael yr adeilad ar yr rhestr o adeiladau rhestredig.

I darllen mwy ewch i FACEBOOK

8.3.10

Noson Croeso Cymru

Bydd Côr Meibion Cymry Dulyn yn cynnal eu "Noson Croeso Cymru" ar nos Wener, 12 Mawrth, y noson cyn y gêm rygbi rhwng Iwerddon a Chymru. Bydd hon yn cymryd lle yng ngwesty'r Grand Canal, Grand Canal Street, Dulyn 4. Cynnigir adloniant yn y Gasworks Bar o 9yh ymlaen. Mae'r pris mynediad yn 8 Ewro, sydd yn cynnwys un ddiod am ddim.
Croeso cynnes i bawb!

Os ydych chi wedi gwella ar ôl holl weithgareddau'r noson gynt, gallwch glywed Jonathan Davies cyn y gêm yn rhoi sesiwn Holi ac Ateb am ddim yng Ngwesty'r Arlington, wrth Bont O'Connell am 11yb ar fore'r Sadwrn, 13 Mawrth.

http://www.draigwerdd.org/Cymraeg.htm

5.3.10

Siglo'r rhyngrwyd

Dwi wedi bod yn defnyddio Twitter ers diwedd 2009, ag dwi wrth fy modd.
Dwi'n meddwl am beth dwi am bostio ar wahanol adegau yn ystod y dydd: wrth aros am fws, mynd i'r arfarchnad - hyd yn oed yn gwaith. Yr foment yma, wrth sgwennu'r geririau yma, dwi'n meddwl am pethau i ddweud.
(Bach yn sad ella)

Diolch byth fy mod i wedi blino arno ychydig, ag yn defnyddio Twitter mwy fel lle i gweld be sy'n digwydd yn y byd ag yn enwedig beth sydd yn digwydd yn Iwerddon.

Un o'r pethau fwya' ym myd Twitter Iwerddon yw Crystal Swing.
Mae'n debyg fydd rhan fwyaf o bobol heb 'di clywed o'r band yma, ond mae nhw'n dechrau cael sylw tu allan i'r Y
nys Werdd - mae hyd yn oed Ellen DeGeneres wedi postio linc iddyn nhw! Gallwch fwynhau Crystal Swing ar You Tube neu darllen amdanynt yma: www.crystalswing.com

4.3.10

Strancio!

Mae gwleidyddiaeth yn Iwerddon wedi bod yn llawn blerwch ag sgandal yn yr wythnosau diwethaf. Yn gyntaf wnaeth George Lee ymadael y plaid Fine Gael. Roedd Lee wedi gadael ei swydd fel golygydd economaidd yn RTÉ i rhedeg fel TD (Teachta Dála) ag enillodd ei sedd yn hawdd. Roedd Lee yn teimlo fod o ddim yn cael dylanwad ar polisiau economaidd y plaid ag gadewodd llawn ysblander. Roedd yr wasg wedi cynhyrfu gyda'r newyddion, felly pan dechreuodd fwy o pobol gadael roedd nhw wrth eu bodd. Ers hynny, mae'r Plaid Werdd wedi colli Déirdre de Búrca, Willie O'Dea [am awgrymu fod cysylltiadau rhwng cynghorydd Sinn Féin ag puteindy] ag wedyn Trevor Sargent [dros llythyr sgwenodd i gardaí ynglyn a ymchwyliad troseddol]. Mae pawb nawr yn gofyn pwy fydd nesa?

1.3.10

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!!

Wnes i gwenud cyfweliad bore' ma gyda BBC Radio Cymru am sut dwi'n dathlu draw yn Iwerddon ag am dathliadau Sant Pádraig.

Yma yn Nulyn, cafwyd noson llawn hwyl ar Nos Wener pan daeth y cymdeithas Cymraeg (www.draigwerdd.org) at ein gilydd mewn tafarn wrth ochor y camlas i dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Roedd adloniant ar y noson yn Côr Meibion Cymry Dulyn, ag wedyn eisteddodd pawb i wylio gêm Ffrainc v Cymru (wnawn ni ddim sôn am hynny). Roedd criw o tua 10 o'r rhai ifanc (gan gynnwys minnau) wedi gorffen y noson mewn clwb gerllaw ag wnes i wir fwynhau'r noson.

I weld lluniau rhai o'r Cymru yn Iweddon ewch i weld lluniau Aled Thomas:
www.flickr.com

3.2.10

Barry Tobin & Croagh Patrick

Mae cwmni teledu yn bwriadu gwneud rhaglen ar gyfer S4C sy'n dilyn aelod y Ddraig Werdd, Barry Tobin, ar bererindod yn dringo Croagh Patrick yn Mayo. Mae nhw'n chwilio am Gymro (neu am Gymraes) Cymraeg sy'n byw yn Iwerddon i gymryd rhan yn y rhaglen i ddringo'r mynydd gyda Barry.

Os oes diddordeb gennych, neu os ydych chi'n nabod rhywun sydd â diddordeb yn y cynllun, anfonwch eich manylion i info@draigwerdd.org



9.1.10

Gwlad o iâ

8.1.10

Hwyl fawr 2009...Croeso i 2010

Roeddwn i wedi dechrau sgwennu'r nodyn yma dros yr Nadolig, ond gan fod na gymaint o hwyl a sbri i'w gael wnes i anghofio y blog.

"Mae 2009 bron ar ben ag fydd degawd newydd yn dechrau."
Wel, mae 2010 wedi dechrau ag mae hi'n un oer hyd yn hyn.

"Mae'r 'naughties' wedi bod yn 10 mlynedd diddorol yn fy mywyd ag yn hanes y byd."
Gwir iawn, gwir iawn. Ond amser edrych ymlaen. Dwi heb 'di neud addunedau Blwyddyn Newydd ar gyfer 2010, ond dwi wedi sgwennu rhestr o bethau dwi eisiau cyflawni yr flwyddn yma. Er engraifft, cael stamp arall yn y pasport ag fynd i cerdded fwy. Dwi eisiau flogio'n amlach, ond mae'n haws deud na' neud!

"Pwy fuasai'n meddwl pan daeth hanner nos yn 1999 fod pethau fel y maent. Mae gan yr Unol Dalethau arlywydd du, yn 2002 daeth yr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i bodolaeth..."
ag dyna lle orffenais. Mae'r degawd diwethaf wedi bod yn un diddorol, er roedd 2009 yn flwyddyn 'anodd iawn i lawer o bobol. Roeddwn i yn Gymru dros yr Nadolig ag yr Flwyddyn Newydd ag roedd llawer yn dweud bod nhw wedi colli swydd yn 2009. Mae rhai wedi symyd yn ôl i'r Gogledd fel canlyniad ag er bod rhai wedi cael swyddi newydd mae llawer dal yn chwylio am waith. Mae rhai wedi mynd am newid gyrfa neu mynd nôl i'r coleg i astudio. Dwi'n gobeithio fydd 2010 yn blwyddyn lot fwy ffeind.

Beth bynnag, dyma llun o gig yn Tŷ Newydd, Sarn. Noson i'w gofio!