
9.10.07
Lle mae Melys?

Postwyd gan Melys at 9.10.07 0 comments
9.8.07
Siarc! Siarc! Siarc!
Roeddwn i wedi dechrau sgwennu blog am y Morgi mawr gŵyn yn Cernyw ag heb 'di cael cyfle i orffen o eto.
Yn y newyddion - Morgi mawr gŵyn wedi cael ei weld yn Gernyw. Diolch byth dydi hwn heb di bod yn brathu syrfyrs fel yr un yn gan Mr Huw (er yn meddwl am rhai o'r syrfyrs anfoesgar wnes i gyfarfod yn Ynys Môn fasa cael gwared ag un neu ddau ddim yn beth ddrwg.)Os oedd o'n wir na Morgi mawr gŵyn oedd y peth yn y llun ma’ siŵr oedd y peth bach 'di dychryn mwy na'r bobol ...
Ond heddiw dwi'n darllen na chelwydd oedd yr holl beth:
A man who claimed to have photographed a Great White Shark swimming dangerously close to the Cornwall coast has reportedly admitted he took the snap in South Africa.
Does gan bobol ddim byd gwell i neud na chreu storïau (neu flogio amdanyn nhw!)
Postwyd gan Melys at 9.8.07 0 comments
1.8.07
Sarn + Sambuca = syniad drwg!
Wnes i neud y daith gyda ffrindiau i Pen Llyn pell i fwynhau bach o gerddoriaeth fyw - mewn noson allan post SF. Cerddoriaeth yn wych - Plant Duw, Derwyddon Dr. Gonzo ag Cowbois Rhos Botwnnog. Dwi heb ‘di cael noson allan yn Sarn ers sbel ac roedd hi’n braf gweld y lle yn llawn o bobol yn mwynhau.
Roedd y gemau yfed gyda Sambuca ddim yn syniad da ~ o leiaf ddim fi oedd yn dioddef fwyaf y diwrnod nesa (dwi’m yn enwi neb)!
Postwyd gan Melys at 1.8.07 0 comments
24.7.07
Sesiwn Fawr Iawn
Dwi wedi blino ar y glaw ma. Am 4 o'r gloch ar brynhawn dydd Gwener roeddwn i wedi digalonni. Roedd y nefoedd wedi agor unwaith eto ac roedd drysau Sesiwn Fawr yn agor mewn awr a hanner. Roedd fy meddwl i'n llawn o ddelweddau o Sesiwn Fach iawn gyda minnau yn blaen y dorf yn ceisio creu awyrgylch o barti. Ond, fe ddaeth y bobol er gwaethaf y glaw. Ar y nos Wener daeth dros 1,500 o bobl i fwynhau’r perfformiadau syfrdanol. Erbyn dydd Sadwrn roedd y glaw wedi cilio a daeth 3,500 i fwynhau'r ŵyl.
Mae'n nyts i feddwl mai dim ond flwyddyn ynol roeddwn i wedi cael lliw haul yn y Sesiwn a threuliais y diwrnod yn eistedd tu allan. Y flwyddyn hon roedd y swyddfa docynnau, Tŷ Siamas a'r ystafell werdd yn cael gorchwyl rhag y glaw.
Dwi'n edrych ymlaen at Sesiwn Fawr 2008 yn barod!
Postwyd gan Melys at 24.7.07 0 comments
15.7.07
Tesco ~ Dyw tipyn bach ddim digon da!
Ddoe, wnes i ymuno ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn Tesco Porthmadog.
Dydw i ddim yn ffan fawr o Tesco - mae gan y cwmni fonopoli yn Prydain ag yn tyfu bob diwrnod. Mae yna arwyddion Cymraeg yn Tesco Porthmadog, ond, mae'r arwyddion gyda'r cynigon arbennig, pamffledi'r siop, gwefan, labeli cynnyrch ddim ar gael yn ddwyieithog - ag yn wir dyw tipyn bach ddim digon da!
Mae rheolwyr Tesco Porthmadog i gyd yn Saesneg ac wedi symud i mewn i'r ardal tra mae pobol leol yn gweithio yn y swyddi sydd yn talu llawer llai. Mae 'na lawr o fewnfudwyr yn gweithio ar y tiliau ag ddim yn trio siarad Cymraeg - fel dwedes i mewn hen flog dwi dal i siarad efo nhw yn y Gymraeg (a la Ifor ap Glyn). Dwi yn credu fod Tesco wedi dod a swyddi i mewn i’r ardal, ond dwi hefyd yn credu fod o yn cael niwed ar siopau bach lleol ac felly yn affeithio ar swyddi pobol eraill.
Ella wneith y protest ddim owns o wahaniaeth, ond o leiaf mae yna dal bobol yn barod i sefyll i fyny am y pethau maent yn creu mewn.
Postwyd gan Melys at 15.7.07 1 comments
10.7.07
Dawnsio yn y glaw..
Dwi ddim yn dallt pam dwi’n deffro bob bore ‘di blino! Fel arfer mae un yn rhoi pethau felly lawr i’r tywydd - ag pwy all beio fi. Does ddim synnwyr i gael - glaw, haul, glaw, haul…
Mae yna digon o gythrwfl yn fy mywyd ar hyn o bryd - symud tŷ, edrych ar ôl gath sydd yn mynd ar goll bob nos sydd yn meddwl fy mod i allan yn fy slipas am hanner nos yn chwilio amdani, a dwi wedi cymerid y penderfyniad i symud I Ddulyn ym mis Medi. Dwi wrth fy modd yn byw nôl yn Gogledd Cymru, ond er mwyn ehangu fy ngyrfa fel newyddiadurwr fydd rhaid i mi fynd yn nol i’r coleg - ac mae cyrsiau llawer rhatach yn fanno nag yn Prydain (yr £ i’r Euro).
Felly Ffarwel iti, Gymru Fad - ond mae’r haf dal i ddod! (ag Sesiwn Fawr wrth gwrs)
Postwyd gan Melys at 10.7.07 0 comments
16.5.07
Blwyddyn yn Gymru...
Ia wir,
dwi wedi bod yn nol yn Gogledd Cymru am flwyddyn.
Yn yr amser yna dwi wedi…
Cael 4 swydd
Symud Tŷ
Gwneud ffrindiau newydd
Gweld hen ffrindiau
Helpu trefnu Sesiwn Fawr
Ysgrifennu erthyglau Cymraeg
Dechrau Blog Cymraeg : )
Bod i lefydd newydd
Wedi bod yn rhan Un Diwrnod Mewn Hanes
Ceisio neud popeth yn Gymraeg
Bod yn greadigol
Dringo mynydd
Cael car
Dawnsio gyda mynachod o Tibet
Cael digon o anturiaethau i sgwennu llyfr a hanner!
Postwyd gan Melys at 16.5.07 0 comments
20.4.07
SESIWN FAWR DOLGELLAU 2007
Mae prif ŵyl cerddoriaeth byd Cymru, Sesiwn Fawr Dolgellau, wedi cyhoeddi ei rhestr o artisitiad am eleni, un o’r mwyaf cyffrous erioed gyda’r newyddion y bydd Steve Earle, The Dubliners, Damien Dempsey, Trans-Global Undreground, Davy Spillane a Paul Dooley, The Ukelele Orchestra of Great Britain ynghŷd â llu o artistiaid Cymreig a rhyngwaldol eraill oll yn diddannu’r miloedd ar 6 llwyfan yr ŵyl.
Artisitiaid rhyngwladol eraill a fydd yn ymddangos yw’r ddwy gantores canu gwlad Tia Mcgraff a Allison Moorer, a’r deuawd gwerin gwefreiddiol Shona Kippling a Damien O’Kane. Hefyd eleni bydd y chwedlonol Meic Stevens a’r actor a chanwr gwerin Ryland Teifi yn arwain rhestr o dalent Cymreig hen a newydd.
Mae artisitiad gŵyl eleni yn cynnwys rhai o enwau mwyaf y sin roc Cymraeg gan gynnwys Mattoidz, Radio Luxembourg, Cowbois Rhos Botwnnog a’r Genod Droog a fydd yn perfformio efo Sinfonia Cymru
Bydd un grwp arall o Gymru yn ymuno yn y parti wrth i wrandawyr BBC Radio Cymru bleidleisio am eu hoff artist i gloi’r Sesiwn Fawr nos Wener.
www.sesiwnfawr.com
Postwyd gan Melys at 20.4.07 0 comments
11.4.07
Gweld y gwahaniaeth...
**Mae un cael ei yrru ar gyflymder ucha’ o 30 milltir yr awr yn ganol ffyrdd cul gan fod y perchennog heb di gyrru ar lonydd cefn gwlad - tra bod y llall yn cael ei defnyddio gan ffermwyr ar ledled y wlad, yn fwd i gyd ac wedi cael ei addasu i weithio gyda nifer o beiriannau eraill.
Allwch chi ddyfalu pa sydd wedi bod yn fy ngwylltio wrth fynd i siopa dros ŵyl y banc?
Postwyd gan Melys at 11.4.07 0 comments
3.4.07
Haul braf y gwanwyn.
Mae’r haul allan ac mae’n rhy braf i fod yn y swyddfa.
Mae’r tywydd wedi bod yn fendigedig dros y pythefnos diwethaf a dwi wedi bod yn cerdded ag yn garddio. Dwi ddim yn giamstar ar dyfu pethau, ond mae gen i un planhigyn dwi wedi gallu cynnal ers tair blynedd!
Roeddwn i ddigon ffodus i fynd i gig Griff Rhys yng Nghaergybi. Dwi heb di weld Griff heb y Furry’s o’r blaen felly doeddwn i ddim yn siŵr beth i ddisgwyl. Yn fyr - roedd hi’n noson wych ag yn werth y daith.
Postwyd gan Melys at 3.4.07 0 comments
