MELYSION MELYSION MELYSION »

19.1.08

Croeso i 2008

Wnes i treulio 5 diwrnod wych yn Gymru dros yr Nadolig. Penderfynais mynd ynol i Dulyn am y Flwyddyn Newydd - gyd wnai ddweud am y noson yw fod rhaid i mi treulio Ionawr 1af yn fy ngwely.

Wnaeth yr amser adra rhoi bach o hiraeth i mi - blwyddyn ynol roeddwn i'n byw mewn pentref ag yn gweithio mewn theatr. Nawr dwi mewn ddinas ag er fy mod i yn gweithio mewn theatr unwaith eto dio'm cweit run fath a gweithio mewn theatr bach sy'n ganol cymdeithas gwledig. Dwi'n mynd ynol i Gymru yr wythnos hon gyda ffrind Gwyddelig iddi gweld lle ges i fy magu.

Dwi'n edrych 'mlaen i'r cystadlaeaeth Y Chwe Gwlad 2008 - dwi'n meddwl fod Gymru am wneud yn dda y flwyddyn hon!

24.12.07

Atgasedd tuag at papur lapio

Mae gas gen i lapio anrhegion.

Dwi ddim yn un o bobol ‘ma sydd yn gallu neud anrheg edrych yn anhygoel.
Does gennai ddim digon o amynedd i dreulio oriau yn torri’r papur yn berffaith, rhoi'r selotep yn y lle iawn ag rhoi clymau del i orffen. Fel arfer fydd mwy o bapur selotep wedi cael ei gwastraffu nag beth dwi wedi defnyddio a fydda i wedi cael ‘paper cut’ erbyn i mi orffen.


Os fydd y teledu ymlaen fyddai’n gallu gwneud yr anrhegion i gyd mewn un rhaglen ond maen nhw’n edrych fel trychineb, neu fod rhyw blentyn 5 oed sydd wedi cael y swydd o lapio anrhegion y teulu.

Ond diolch byth…ma’r BBC yma i helpu pobol fel fi.

11.12.07

Nadolig ~ Nollaig

Mae Dulyn yn edrych yn Nadoligaidd iawn!

Dwi wedi bod yn canu carolau wrth gerdded drwy Grafton Street.

Mae dolig yn meddwl taith ar yr Stena HSS nol i Gymru. Dwi'n edrych 'mlaen i weld fy ffrindiau unwaith eto ag y teulu wrth gwrs. Dwi’n gobeithio bydd y tywydd yn ffeind a ddim yn chwythu gormod.

Ond fyddai’n methu Dulyn – dwi’n teimlo’n gartrefol iawn yma.



3.12.07

"Nothing Sticks To Teflon"

Ers i mi symyd i Dulyn dwi wedi bod yn darllen am anturiaethau y Taoiseach, Bertie Ahern.

Mae’r dyn wedi osgoi cael ei llychwino gan sgandalau di-ri:
o'r ‘rhoddion’ o €50,000 gan perchnogion amryw o fusnesau i benthygiad gan AIB gafwyd Bertie heb unrhyw gwarant.

Mae’r bwrdd iechyd (Health Service Executive) mewn trafferthion ag mae’r gwenidog iechyd Mary Harney dal yn ei swydd er fod bron i 100 o ferched wedi gorfod cael ei ail-profi am cancr wedi nhw cael yr ‘all clear’.

Byr amser fydd hi cyn i fwy o'r "dark deeds" o gorffenol Bertie yn dod i'r golwg, ond mae'n glir fydd y "Teflon Taoiseach" dal yn agos at calon Iwerddon.

1.12.07

Tair mis ar yr Ynys Werdd!

Mae bywyd yn Dulyn yn …difir!

Dwi wedi mynd nol i’r coleg i neud MA ac dwi wrth fy modd efo bod yn stiwdant eto. Mae fy nosbarth yn llawn o wahanol bobol, y rhan fwyaf yn dod o’r ynys werdd, ac mae pawb yn ffrindiau; hyd yn hyn!

Roeddwn i wedi cael swydd mewn tafarn pan wnes i symyd yma ond pan ges i ty ar ochor arall y dinas doedd hi ddim yn cyfleus i weithio yna. Ers hynny dwi’n ddi waith a wedi ceisio am oleiaf 30 o swydd heb ddim lwc. Ond dwi dal i fyw mewn obaith.

Mae fy Ngymreg i wedi dirywio yn y tair mis dwi wedi bod yma, ond dwi wedi darganfod y draig werdd – cymdeithas Cymraeg Iwerddon. Ella gaf i’r cyfle i ymarfer iaith y nefoedd, derbynnu os yw’r tafarn lleol yn gwenud cynnig arbennig ar cwrw i atynnu myfyrwyr fel fi.

9.10.07

Lle mae Melys?

Dwi wedi gadael mynyddoedd Cymru i byw yn Dulyn!!!

9.8.07

Siarc! Siarc! Siarc!

Roeddwn i wedi dechrau sgwennu blog am y Morgi mawr gŵyn yn Cernyw ag heb 'di cael cyfle i orffen o eto.

Yn y newyddion - Morgi mawr gŵyn wedi cael ei weld yn Gernyw. Diolch byth dydi hwn heb di bod yn brathu syrfyrs fel yr un yn gan Mr Huw (er yn meddwl am rhai o'r syrfyrs anfoesgar wnes i gyfarfod yn Ynys Môn fasa cael gwared ag un neu ddau ddim yn beth ddrwg.)Os oedd o'n wir na Morgi mawr gŵyn oedd y peth yn y llun ma’ siŵr oedd y peth bach 'di dychryn mwy na'r bobol ...

Ond heddiw dwi'n darllen na chelwydd oedd yr holl beth:

A man who claimed to have photographed a Great White Shark swimming dangerously close to the Cornwall coast has reportedly admitted he took the snap in South Africa.

Does gan bobol ddim byd gwell i neud na chreu storïau (neu flogio amdanyn nhw!)

1.8.07

Sarn + Sambuca = syniad drwg!

Wnes i neud y daith gyda ffrindiau i Pen Llyn pell i fwynhau bach o gerddoriaeth fyw - mewn noson allan post SF. Cerddoriaeth yn wych - Plant Duw, Derwyddon Dr. Gonzo ag Cowbois Rhos Botwnnog. Dwi heb ‘di cael noson allan yn Sarn ers sbel ac roedd hi’n braf gweld y lle yn llawn o bobol yn mwynhau.

Roedd y gemau yfed gyda Sambuca ddim yn syniad da ~ o leiaf ddim fi oedd yn dioddef fwyaf y diwrnod nesa (dwi’m yn enwi neb)!

24.7.07

Sesiwn Fawr Iawn

Dwi wedi blino ar y glaw ma. Am 4 o'r gloch ar brynhawn dydd Gwener roeddwn i wedi digalonni. Roedd y nefoedd wedi agor unwaith eto ac roedd drysau Sesiwn Fawr yn agor mewn awr a hanner. Roedd fy meddwl i'n llawn o ddelweddau o Sesiwn Fach iawn gyda minnau yn blaen y dorf yn ceisio creu awyrgylch o barti. Ond, fe ddaeth y bobol er gwaethaf y glaw. Ar y nos Wener daeth dros 1,500 o bobl i fwynhau’r perfformiadau syfrdanol. Erbyn dydd Sadwrn roedd y glaw wedi cilio a daeth 3,500 i fwynhau'r ŵyl.

Mae'n nyts i feddwl mai dim ond flwyddyn ynol roeddwn i wedi cael lliw haul yn y Sesiwn a threuliais y diwrnod yn eistedd tu allan. Y flwyddyn hon roedd y swyddfa docynnau, Tŷ Siamas a'r ystafell werdd yn cael gorchwyl rhag y glaw.

Dwi'n edrych ymlaen at Sesiwn Fawr 2008 yn barod!

15.7.07

Tesco ~ Dyw tipyn bach ddim digon da!

Ddoe, wnes i ymuno ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn Tesco Porthmadog.

Dydw i ddim yn ffan fawr o Tesco - mae gan y cwmni fonopoli yn Prydain ag yn tyfu bob diwrnod. Mae yna arwyddion Cymraeg yn Tesco Porthmadog, ond, mae'r arwyddion gyda'r cynigon arbennig, pamffledi'r siop, gwefan, labeli cynnyrch ddim ar gael yn ddwyieithog - ag yn wir dyw tipyn bach ddim digon da!


Mae rheolwyr Tesco Porthmadog i gyd yn Saesneg ac wedi symud i mewn i'r ardal tra mae pobol leol yn gweithio yn y swyddi sydd yn talu llawer llai. Mae 'na lawr o fewnfudwyr yn gweithio ar y tiliau ag ddim yn trio siarad Cymraeg - fel dwedes i mewn hen flog dwi dal i siarad efo nhw yn y Gymraeg (a la Ifor ap Glyn). Dwi yn credu fod Tesco wedi dod a swyddi i mewn i’r ardal, ond dwi hefyd yn credu fod o yn cael niwed ar siopau bach lleol ac felly yn affeithio ar swyddi pobol eraill.


Ella wneith y protest ddim owns o wahaniaeth, ond o leiaf mae yna dal bobol yn barod i sefyll i fyny am y pethau maent yn creu mewn.