MELYSION MELYSION MELYSION »

24.6.08

Amy Winehouse



Rwy'n ffan mawr o cerddoriaeth Amy Winehouse ag mae'n gwenud fi'n drist i weld y stad mae hi mewn.

Wnes i gyfarfod Amy Winehouse yn 2003 ag fe filmiodd Wedi 7 yr cyfweliad wnes i gyda'r merch ifanc o Camden oedd newydd rhyddahu ei albwn cyntaf 'Frank'. Roedd y merch tlws ag (eithaf) cyfeillgar yn hollol wahanol i'r dynes trist ag sâl sydd yn pennawdau'r newyddion heddiw.

Dwi'n gobeithio fydd hi'n dechrau cael y cymorth mae hi angen a gawn ni clywed fwy am ei cerddoriaeth ag nid ei bywyd personol ag geith hi'r llonydd i wella.






Gweplyfr yn Gymraeg

Efalli mae lot o bobol wedi gwybod am hyn erstalwm, ond dwi newydd darganfod fod Gweplyfr ar gael yn y Gymraeg!

Nawr allai darllen fy negeseuon, chwylio am ffrindiau ag cael prociadau.

Mae'r rhaglen ar gael yma : www.facebook.com/translations/

Mae Facebook wedi agor eu rhaglen gyfieithu fewnol i’r Gymraeg. Mae’r wefan sydd ag 8 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU yn unig wedi derbyn digon o geisiadau i warantu agor y system gyfieithu ar y cyd i’r Gymraeg. Bydd defnyddwyr yn gallu cyfieithu holl destun y wefan fesul un, a phleidleisio ar y cyfieithiadau gorau, gan geisio cael cytundeb democrataidd ar y ffyurf gorau.
(blog mercator.)

23.6.08

Hiraeth

Blwyddyn ynol roeddwn i'n teimlo bach yn 'wan wedi penwythnos yn Gwyl Car Gwyllt.
Y flwyddyn yma roeddwn i'n cerdded strydoedd Dylun yn y glaw.

Heddiw mae gennai bach o hiraeth, yn enwedig ar ol gwylio 'The Edge Of Love'. Mae'r lleoliadau yn Gymru ble mae'r ffilm wedi cael ei wneud yn rhai o fy hoff lefydd - Cei Newydd ag Aberaeron.
Wnes i fwynhau'r ffilm. Dydi Keira K ddim yn fy hoff actores, ond chwarae teg doedd ei acen hi ddim yn uffernol, ag wnaeth hi tro da ar ganu Myfanwy.

Roedd yr adolygiad yn yr 'Sunday Times' yn digon teg yn fy marn i. Ffilm da i wylio ar brynhawn Sul oer ag gwlyb.

Ble mae'r haul wedi mynd?

12.6.08

Bod ar Wylie

Dwi wedi bod yn teithio Sbaen, Morocco ag Portiwgal felly dwi heb di cael amser i flogio.

Doedd gan rhan fwyaf o bobol syniad lle oedd Cymru er fy mod i'n dweud "Pays de Galles" ag "Soy Galésa" drosodd a drosodd.

Yn Tangiers, Morocco am 3 y bore wedi taith ar fys o Fes roeddwn i a'r ffrind yn ceisio dod o hyd i gwesty. Stopiodd tacsi o'n flaen ni ag dyna fu'r gyrrwr yn erfyn arnom i ddod i fewn. "It's not safe" medda fo wrth ysgwyd ei ben.

Gofynodd: "Where are you from."
"Wales" : dywedais.
"Iechyd Da!": medda fo....
Syndod!
Yma...yn Morocco am 3 y bore roedd dyn bach oedd wedi dysgu bach o Gymraeg ar y we. Byd bach!


16.5.08

Ydw i'n Gelt?




Dwi yn Gymru am wythnos, ag un llawn o tywydd braf ydi hi hefyd.
Dwi wrth fy modd yn mynd ar y Cob i Borthmadog ar adegau fel hyn, mae'r mynyddoedd yn edrych yn mawreddog ag yn brydferth ar yr un tro.

Dwi wedi gwylio bach o S4C ac roeedwn i'n ffodus i weld O Flaen Dy Lygaid: Ydw i'n Gelt?

Wnes i fwynhau'r rfhaglen, ag roedwn i'n meddwl fod y ddwy gymerodd rhan yn dda iawn, Prysor yn enwedig. Fel dywedodd rhai ar maes-e fyddai gwahaniaeth oedran o oleiaf 50 mlynedd er mwyn cael gyferbyniad effeithiol - Dewi Prysor ag Caryl Pari Jones :)

Faswn i'n hoffi gweld be fasa'r profion DNA yn dangos am etifeddiaeth enetig fi (ond gyda'r profion yn costio dros £150 dwi ddim am cael un ar hyn o bryd.)

Mae Dad yn gymro o ardal Dwyfor ag mae Mam yn dod o Dulyn felly dwi'n ystyried fy hyn fel Gelt, felly dydw i ddim angen prawf i fy hunaniaeth...ond tybed beth fuasai gwyddonieth yn dweud.

28.4.08

Milis

Dwi rhy brysyr ar y foment i gwneud gwersi Gaeleg (dwi'n dechrau gwersi yn yr Hydref)
Serch hynny, rwyf wedi bod yn dysgu geiriau Gwyddelig.
Rhaid i mi cyfaddef bod un neu ddau wedi dod o'r hysbyseb yma:





An bhfuil cead agam dul amach go dti an leithreas- Can I go to the bathroom
Agus madra rua- And a fox
Is maith liom caca milis- I like cake
Agus Sharon Ni Bheolain/ Sharon Ni BheolainTa geansai orm: I'm wearing a jumper/ I have a jumper on
Ta scamall sa speir- There are clouds in the sky
Tabhair dom an caca milis- Give me the cake
Ciunas- quiet
Bothar- road
Cailin- girl
Bainne- milk

20.4.08

Sêr y môr


Seren môr ar draeth Greystones yn Sir Wicklow



8.4.08

AFFRICA I DDOLGELLAU ~ Sesiwn Fawr Dolgellau

Sesiwn Fawr Dolgellau

Gorffennaf 18 & 19, 2008


Mae trefnwyr Seswin Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi rhestr yr artisiaid a fydd yn ymddangos yn yr ŵyl a gynhelir ar Orffennaf 18 ac 19 eleni. Mae’r rhestr gyda’r mwyaf cyffrous eto ac yn restr syn cynnig rhywbeth i bawb o bob oed. Prif fand y Sesiwn Fawr eleni fydd y Gwyddelod anhygoel The Saw Doctors, a’u cerddoriaeth hwyliog hwy fydd yn dod a gweithgareddau i ben ar nos Sadwrn, hyn yn benllanw i ddeuddydd o gerddoriaeth anhygoel.

Bydd thema Affricanaidd i’r Sesiwn eleni gyda dim llai na phedwar band o’r cyfandir yn ymddangos ar y llwyfannau. Daw’r Bedouin Jerry Can Band ardal anialwch y Sahara a maent yn creu eu cerddoriaeth trwy ddefnyddio, ymysg pethau eraill, deunyddai wedi ei darganfod yn yr anialwch. Rhyddhawyd y cd Soul Science gan Justin Adams a Juldeh Camara yn ddiweddar a derbyniodd froliant mawr yn y wasg ac yn sicr bydd yn un o cd y flwyddyn yn siartiau cerddoriaeth byd. Daw Juldeh Camara o Ghana tra mae Justin Adams wedi gwneud enw mawr iddo’i hun trwy chwarae’i gitar gyda, ymhlith eraill, yr enwog Robert Plant. Datgeinydd ar y kora, y delyn Affricanaidd, yw N’Faly Kouyate sy’n enwog am ei ran yn y band Afro Celt Sound System, ond eleni daw N’faly a’i fand Dunyakan i’r Sesiwn. Bydd y gantores o’r Aifft Natacha Atlas yn uchafbwynt ar y prif lwyfan nos Wener. Bu Natacha Atlas yn prif leisydd y band Transglobal Undergroud tan yn ddiweddar

Pob blwyddyn daw cerddoriaeth y byd i Ddolgellau a dyw eleni ddim gwahanol yn ogystal a’r seiniau Affricanaidd gallch fwynhau rhythmau salsa gan Grupo Fantasma o Texas a’r Buena Risca Social Clwb o Gaerdydd ac os mae bluegrass sy’n mynd a’ch ffansi peidied a methu’r Coal Porters, neu’r blues, yna Lisa Mills amdani.

Ond fel arfer mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn cynnig y gorau o gerddoriaeth y sin yng Nghymru ac eleni cewch fwynhau Huw Chiswell, Bryn Fôn, Sibrydion, Gwibdaith Hen Fran, Steve Eaves, Lowri Evans, Cowbois Rhos Botwnnog a Celt. Efallai mai’r pluen fwyaf yn het y Sesiwn Fawr elni yw’r ffaith eu bod wedi preswadio Endaf Emlyn i berfformio’n fyw unwaith eto. Bu’r cerddor yn dawel ers dyddiau Jip yn yr 80au. Yn ei set ar gyfer y Sesiwn eleni bydd yn perfformio caneuon oddi ar ei albym ddylanwadol Salem, albym na chafodd ei pherffromio’n fyw o’r blaen. Bydd perfformaid o Salem yn sir Feirionnydd nid yn unig yn ddigwyddiad cerddorol o bwys ond yn un hanesyddol, digwyddiad y byddwch eisiau dweud ‘roeddwn i yno.’

Uchafbwynt arall yn sicr fydd ymddangosiad yr hen rocyrs Man sydd wedi bod yn gigio ers 40 mlynedd. Mwynhaodd y band o ardal Abertawe a Llanelli gryn enwogrwydd yn y 70au a braf fydd eu gweld ar lwyfan y Sesiwn.

Dros y blynyddoedd mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi ymfalchio mewn datblygiadau cyffrous i’r wyl ac eleni fe welir llwyfan dawns am y tro cyntaf yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Bydd amrywiol wethgareddau i’w mwynhau yma. Yn y prynhawn gallwch fwynhau twmpath efo’r Bandarall ond gyda’r nos bydd y rhythmau yn newid ac yn cynhyrfu cryn dipyn gyda setiau dj gan Dyl Mei a’r Byd Mawr a set gan yr anhygoel Skilda o Lydaw.

Bydd tocynnau ar gyfer y Sesiwn Fawr yn mynd ar werth dydd Mawrth, Mawrth 25ain a gellir eu sicrhau o’r wefan ar www.sesiwnfawr.com neu trwy ffonio 08712301314. Mae’r tocynnau ar werth ar yr un pris a llynedd sef dydd Gwener £22, dydd Sadwrn £25 a thocyn penwythnos am £42.

3.4.08

Ffarwel Bertie

Mae Patrick Bartholomew "Bertie" Ahern yn mynd...ar y 6ed o Mai.


Mae Bertie wedi bod yn pennaeth Fianna Fáil ers 1994 ag yn Taoiseach ers 1997 ag, chwarae teg, yn yr amser yna mae'r gwlad wedi mynd o nerth i nerth.

Yn y misoedd diwethaf mae storiau am twyll ac arferion llwgr yn cyfrifon Bertie wedi bod ar dudalen blaen bob papur newydd Gwyddelig.

Yn ei araith o flaen yr 'Government Buildings' dywedodd:


"I know in my heart of hearts I have done no wrong and wronged no-one. My decision is motivated by what is best for the people. It is a personal decision. I will not allow issues related to my own person to dominate the people and the body politic."



Wedi stori ar ol stori am diffygion yn cyfrifon Bertie roeddwn i'n meddwl fasa pawb yn falch ei fod o'n gadael, ond ers iddo gwneud yr cyhoeddiad mae pawb wedi bod yn edrych ynol ar ei hoff Taoiseach ag mae unryw sylwadau ar ei diffygion yn cael ei gwrthwynebu...hmm ar adegau fel hyn dwi'n cael fy atgoffa fy mod i ddim yn Prydain ddim mwy - lle mae pawb yn cwyno am ei arweinyddion pryd y gallent.

20.3.08

Campus

Hwre! Cymru'n cael y Gamp Llawn!!

Cymru: 29 Ffrainc : 12

(NEWYDDION)

Roeddwn i yn gwylio'r gem mewn tafarn yn Dulyn. Roedd pawb yn cefnogi Cymru, er dim ond 2 ohonom oedd yn gwysgo coch.

Roedd dathlu yn mynd ymlaen i'r oriau man y bore.