Mae’r swyddfa fel ffwrnes heddiw!
Mae’i wedi bod yn wythnos gymysg hyd yn hyn. Dwi wedi neud llanast o’r tŷ wrth goginio bwyd neithiwr, Ges i 4 awr adra yn y pawn gan fy mod i’n gweithio gyda’r nos ag yn lle glanhau a neud pethe call wnes i wylio ‘The Shawshank Redemption’ a’r eitemau ar ran bonws y DVD. Dwi’n teimlo fel dwi angen cic fyny tin - sgennai ddim mynydd o gwbwl!
Dwi’n meddwl fod fy Nghymraeg ysgrifenedig yn gwella ers i mi symud nôl i Gymru. Wnes i sgwennu llythyr hir fel rhan o’m ngwaith ond dywedodd rhywun fod o’n llawn o allu iaith. Roedd dwy o bobol wedi sbïo ag cywiro’r llythyr cyn i mi yrru o allan - felly nid y fi yn unig sydd ar fai. Ond mae hi’n ergyd i’m hyder.
Beth bynnag, mae na penwythnos o rygbi i edrych ymlaen i ag mae hi’n Dydd Mawrth Crempog – yumm!
20.2.07
Boeth ag yn flin.
Postwyd gan Melys at 20.2.07
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
0 comments:
Post a Comment