MELYSION MELYSION MELYSION »
Showing posts with label IMF. Show all posts
Showing posts with label IMF. Show all posts

21.11.10

Diwrnod du yn hanes Iwerddon

Mae'r llywodraeth Gwyddelig wedi cadarnhau eu bod yn mynd i dderbyn cymorth gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol. Ond mae'r llywodraeth yn annog - peidiwch รข galw hyn yn 'Bailout'.

Mae pobl Iwerddon wedi gwylltio, ag mae hyn yn glir os ydych yn darllen Twitter. Gallwn ddisgwyl protestiadau yr wythnos hon, ond yr wyf yn ofni ei fod ychydig rhy hwyr.

Mae'n amser i Brian Cowan i ymddiswyddo ac yn cymryd cyfrifoldeb am y llanast yma.

Bydd y diwrnodau a'r wythnosau nesaf yn rhai o'r mwyaf terfysglyd yn hanes Iwerddon.