MELYSION MELYSION MELYSION »

20.3.07

Fy nghalon drom...


Heb di sgwennu yn y blog ers sbel.

Dwi wedi cael pythefnos galed iawn...un o rhai mwy anodd fy mywyd.
Ar nos Sul, pythefnos yn nol, gefais y newyddion trist fod un o fy ffrindiau agos wedi marw mewn damwain yn Tsieina. Roeddwn hi heb di weld hi ers iddi fynd, ond roeddwn i’n e-bostio hi o bryd i bryd ac oeddwn i’n gweld ei lluniau diweddara ar Flickr.

Ers i mi cael y newyddion roeddwn i mor isel ....roedd fy nghalon yn drist. Wnes i gyfarfod y criw o ffrindiau roedd yn nabod Catherine ac roedd hynny’n cysur mawr. Dydd Iau diwethaf roedd y cynhebrwng yn ne Lloegr - diwrnod trist ag caled iawn iawn. Dwi ddim yn hollol iawn eto ond dwi ddim yn teimlo fel bod fy emosiynau ym mhobman fel o'r blaen.

Dwi’n meddwl fod 'na dal dagrau i ddod ond fel mae’r dywediad Saesneg yn dweud ‘life goes on’.

22.2.07

Newyddion Cymru...

Pam fod storïau ar dudalen Newyddion y BBC ag ar BBC News Wales yn wahanol?

Mae rhaid i mi ddarllen y ddwy i gael gwybod beth yw Newyddion Cymru.
Jest rhywbeth bach oeddwn i wedi sylwi ar wrth bori’r we.


Stori bach diddorol - pensiynwraig 81 oed yn cael ASBO.

20.2.07

Boeth ag yn flin.

Mae’r swyddfa fel ffwrnes heddiw!

Mae’i wedi bod yn wythnos gymysg hyd yn hyn. Dwi wedi neud llanast o’r tŷ wrth goginio bwyd neithiwr, Ges i 4 awr adra yn y pawn gan fy mod i’n gweithio gyda’r nos ag yn lle glanhau a neud pethe call wnes i wylio ‘The Shawshank Redemption’ a’r eitemau ar ran bonws y DVD. Dwi’n teimlo fel dwi angen cic fyny tin - sgennai ddim mynydd o gwbwl!

Dwi’n meddwl fod fy Nghymraeg ysgrifenedig yn gwella ers i mi symud nôl i Gymru. Wnes i sgwennu llythyr hir fel rhan o’m ngwaith ond dywedodd rhywun fod o’n llawn o allu iaith. Roedd dwy o bobol wedi sbïo ag cywiro’r llythyr cyn i mi yrru o allan - felly nid y fi yn unig sydd ar fai. Ond mae hi’n ergyd i’m hyder.

Beth bynnag,
mae na penwythnos o rygbi i edrych ymlaen i ag mae hi’n Dydd Mawrth Crempog – yumm!

19.2.07

Gwobrau RAP

Wel, penwythnos prysur arall yn fy myd i. Wnes i godi’ mhac draw i Landudno ar gyfer y gwobrau RAP …dyma fy marn i o'r noson:


Venue Cymru, Llandudno oedd y lleoliad, Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru oedd y digwyddiad ac roeddwn wedi ymbincio yn barod ar gyfer un o nosweithiau mwyaf y flwyddyn yn y sîn roc Gymraeg.

Dyma'r tro cyntaf i mi fynd i'r noson wobrwyo yma a chyrhaeddais gyda meddwl agored gan fy mod wedi bod i hen ddigon o nosweithiau tebyg - rhai hir a diflas!

Roedd rhai o enwau mwyaf y sîn yn barod am noson fawr yn eu gwisgoedd gorau a chafodd llif o ddynion smart a merched tlws eu cyfarch gan y bownsars croesawus ar ddrws Venue Cymru.

Roedd y camerâu yn barod i gymryd lluniau o'r wynebau cyfarwydd cyn iddynt setlo yn eu seddau yn y neuadd fawr ble'r oedd y seremoni ar fin cychwyn.

Cyn i'r seremoni ddechrau roedd poteli gwin ar eu hanner ac roedd yr awyrgylch yn un hwylus dros ben. Yn wir, doedd dim math o ymddygiad roc a rôl i'w weld drwy gydol y nos.

Cyflwynwyr y noson oedd Lisa Gwilym a Dafydd Du a nhw wnaeth gyflwyno set gyntaf y noson sef Cowbois Rhos Botwnnog. Roedd caneuon bywiog ac egnïol y band o Ben Llŷn yn agoriad arbennig i'r noson ac roedd y gynulleidfa yn mwynhau eu cerddoriaeth 'hilbili'.

Un ar ôl y llall, cafodd enillwyr dlysau am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond noson i'r Gogs oedd hi gyda'r rhan fwyaf o'r artistiaid, bandiau a digwyddiad byw y flwyddyn yn dod o ogledd Cymru.

Roedd enillwyr y noson yn sicr yn haeddu'r clod a'r unig artist absennol oedd Mim Twm Llai, cyfansoddwr y flwyddyn - sydd ar hyn o bryd yr ochr draw i'r byd.

Roedd yna lu o berfformiadau byw gan rai fel artist benywaidd y flwyddyn, Swci Boscawen, a chafwyd perfformiad gan y Ffyrc a enillodd ddwy wobr yn ystod y noson.

Genod Droog, enillwyr dwy wobr gan gynnwys band byw'r flwyddyn a orffennodd y noson gyda cherddorfa yn gwmni iddynt ar y llwyfan. Roeddent yn glo hwyliog i'r noson gyda chriw yn dawnsio o flaen y llwyfan o'r dechrau.

Ond cyn i bawb ffoi am y parti roedd cyri ar gael i bawb a siawns i drafod y buddugol a'r anfuddugol cyn mynd ymlaen i ddathlu tan yr oriau man.

Gadewais gydag atgofion da o noson wobrwyo gyfeillgar - noson gall, noson barchus i bawb.


Ond mae'r parti'n stori wahanol....

23.1.07

Cysylltiadau Celtaidd

Mae’r mynyddoedd yn wyn a’r aer mor oer allwch chi flasu o. Dwi wrth fy modd efo boreau fel hyn. Roedd cot wen y mynyddoedd yn llachar, yn enwedig yr Wyddfa. Mae hi wedi bod yn aeaf twym i gymharu efo rhai blynyddoedd, ond mae’n edrych fel bod yr oerni wedi cyrraedd!

Yr wythnos yma dwi’n mynd i’r ŵyl
Cysylltiadau Celtaidd yn yr Alban. Dwi’n neud y daith traws-gwlad ar drên, a dwi’n pryderu am y siwrne - tybed os fydd eira yn rhwystro ein siwrne. Does gen i ddim llawer o ots am y ffordd adra ond dwi’n edrych blaen gymaint dydw i ddim eisiau methu dim!

Mae Cysylltiadau Celtaidd gyfle i weld bandiau o bob rhan o’r byd perfformio yn ‘Showcase Scotland’, y prif ddigwyddiad dros yr ŵyl. Wnâi adrodd nôl gyda rhai o fy anturiaethau yn yr Alban yn fuan iawn…

17.1.07

Pobi a Pop

(Torth debyg i'r un wnes i)

Wedi mi fynd adra o'r gwaith wnes i benderfynu gwneud 'soda bread'. Dwi heb neud un ers sbel a dwi'n anghofio pa mor hawdd ydi coginio un.
Roedd y gegin yn edrych fel hunlle ond es i allan am dro yn lle glanhau yn syth.
Ar ôl taith cerdded yn y gwynt a'r glaw roedd y bara yn barod. Ges i gawl cennin a bara ffres fel gwobr am neud yr ymdrech i gadw heini - bendigedig!

Mae'r amser noson gwobrwyo RAP Radio Cymru wedi cyrraedd unwaith eto. Roedd 2006 yn flwyddyn dda i gerddoriaeth Gymraeg felly fydd hi'n ddiddorol i weld pa fandiau wenith ennill. Fel rheol mae nosweithiau gwobrwyo yn bethau diflas dros ben ag yn ddim byd mwy nag pobol yn llongyfarch ei hunain ar faint mae'r diwydiant yn caru nhw ag cyfryngis jest a phiso'i thrôns i weld pobol yn bihafio yn roc a rôl! Ond ga'i weld os ydi rhai Cymraeg yn mynd yn erbyn y drefn!

8.1.07

Dechrau da i '07

Dwi yn fy ngwaith am y tro cyntaf yn 2007.
Roedd hi’n uffar o job cael fy hun allan o’r gwely bore ma’. Neithiwr wnes i osod fy larwm yn fuan achos ges i’r syniad yn fy mhen o godi’n fuan a gwneud llwyth o bethau cyn i mi adael yr ty…ond unwaith eto wnes i adael yn hwyr gyda fy ngwallt fel nyth fran a phethe’n disgyn o fy mag wrth i mi rhedeg i’r car.

Roeddwn i’n drist i glywed am farwolaeth James Brown ar ddiwrnod 'Dolig. Roedd o’n ganwr anhygoel a dwi’n difaru peidio mynd i weld o dra roeddwn i’n byw yn Llundain - ond felly mae bywyd!

4.1.07

Bulmers yn Kerry.

Dwi wedi bod yn y Werddon am wythnos yn mwynhau'r Bulmers a bach o’r Guinness. Roedd brêc bach o fywyd bob dydd yn fendigedig! Er fy mod i wrth fy modd efo’r Nadolig mae’r rhedeg o gwmpas yn paratoi yn waith blinedig!

Wnes i fynd i Killarney gyda ffrindiau o ogledd Cymru i ddathlu’r diwedd 2006 a dechrau’r flwyddyn newydd. Fyddai’n treulio bob blwyddyn newydd yn Iwerddon, bach o newid o’r tafarndai lleol ac mae’n cyfle gweld teulu ar y ffordd adref.

Wnes i dreulio wythnos yn ymlacio, cerdded, reidio ceffylau a mwynhau bywyd. Roedd hi’n lle hynod o groesawus ag yn llawn o bobol yn chwilio am hwyl a sbri i’r oriau man.


Wnes i neud trip o gwmpas y ‘Ring of Kerry’ ar ddiwrnod cynta’ flwyddyn, ag er i mi gael ychydig bach o gwsg y noson cynt wnes i fwynhau gweld y golygfeydd anhygoel a mynd i bentrefi bach a chyfarfod y bobol leol dros beint. Dwi heb ‘di bod i’r ardal ers i mi fod yn blentyn ond dwi wedi dod adref gyda thomen o atgofion melys i wneud i mi wenu yn y tywydd sâl ma’!


BLWYDDYN NEWYDD DDA!!

4.12.06

Edrych ymlaen at y Nadolig.

Dwi wedi cael, osod, ag ardduno coeden yn barod!
Wnes i dreulio tuag awr yn ceisio cael darn o gelyn oddi'r goeden yn y gwynt a’r glaw - o ganlyniad dwi wedi brifo fy llaw ag celyn gyda llwyth o aeron yn grât y tân! Dydw i ddim yn berson DIY … wedi mi ceisio peintio fy llofft ag cael hanner tun o baent ar lawr. Dydw i ddim yn cael mynd yn agos i frwsh paent ers hynny!

Peth da am yr adeg yma o’r flwyddyn yw’r gwelliant yn rhaglenni teledu. Dwi wedi bod yn gwylio dramâu gan gynnwys ‘Robin Hood’, ond dwi wedi diflasu braidd arno erbyn hyn. Dwi’n edrych ymlaen At gyfres newydd o fy hoff raglen - ER. Dwi wedi gwylio dechrau’r un cyntaf ar ‘You Tube’ achos roeddwn i’n ysu gwybod beth ddigwyddodd i rhai cymeriadau ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf.

Dwi’n trio peidio gwylio gormod o deledu ag darllen mwy. Dwi ar fin dechrau llyfr Dewi Prysor ag yn edrych ymlaen wedi ffrind argymell o.

Dwi am fod yn greadigol a gwneud cardiau 'dolig y flwyddyn yma. Mewn wythnos dwi wedi gwneud 10 cerdyn… ella fydd rhaid i mi gael pecyn rhag ofn dwi heb di gorffen cyn y Nadolig!

9.11.06

Gwnewch bopeth yn Gymraeg!!

Dwi wedi cael swydd newydd a dwi ar fin gorffen yr ail wythnos. Dwi’n gwneud marchnata i theatr leol sydd yn cael ei anwybyddu gan y wasg achos fod theatrau lawer mwy yn yr ardal. Mae’n lle braf i weithio gyda staff cyfeillgar.

Roed rhaid i mi fynd i Lanfair ym Muallt am gyfarfod ddoe. Mae’n drist fod y Gymraeg ddim i’w glywed ar strydoedd pentrefi fel hyn ac nid oes neb yn y siopau yn dallt yr iaith. Dwi wedi cael fy annog i ddechrau ‘popeth yn Gymraeg’ wedi mi wylio cyfres Ifor ap Glyn ac ers i mi dechrau bob sgwrs yn Gymraeg dwi wedi cael rhai ymatebion anfoesgar yn enwedig gan bobol sy’n gweithio yn siopau. Un gwaetha oedd yn Harlech lle wenes i ofyn pris rhywbeth. Yr ateb ges i oedd “ENGLISH!”. Wnes I gerdded allan o’r siop yn syth heb brynu dim! Os wneith pawb sy’n siarad Cymraeg yr un peth ella wneith y bobol flin yma fynd i wersi Cymraeg (dwi’n tybio gwnânt nhw ddim ond rhaid meddwl yn bositif.)