MELYSION MELYSION MELYSION »

11.9.09

Hiraeth 2

Dwi'n eistedd wrth fy nesg yn yfed champagne ag yn edrych allan o'r ffenest yn meddwl am Gymru. Pam, ella bo chi'n ofyn, sa rhywun sydd yn byw yn un o'r dinasoedd mwya creadigol o prydferth yn yfed diod posh yn meddwl am Gogledd Cymru - wel, mae hiraeth yn uffar o beth. Dwi heb di bod adra ers dros mis, ag er fy mod i'n gwneud y daith o Dún Laoghaire i Caergybi mewn pythefnos mae atgofion o ha' yn yr mynyddoedd yn rhythro drwy fy mhen. Dwi hyd yn oed wedi newid y llun sy'n cefndir fy ngyfrifiadur o melysion i'r golygfa o fy hen dŷ yn Meirionnydd.

Yn pob ardal yn 'Werddon dwi wedi ymweld mae un peth yn atgoffa fi o Gymru. Dim copa'r mynyddoedd, sydd yn lot llai na'r Wyddfa, dim lliw y caeau sydd yr un mor wyrdd a Gymru. Y peth sydd yn atgoffa fi o adra yw arwydd bach fyddai'n gweld ar fyrdd Iwerddon - o Westport i dre Kilkenny ag o Kerry i Dundrum dwi wedi gweld yr un peth sydd yn troi fy meddwl yn syth i Gymru:

9.9.09

Tair blynedd o Melysion.

Mae bywyd wedi bod yn eitha' brysur, ag felly mae penblwydd Melysion wedi mynd heibio heb ddim dathliad o gwbwl. Roeddwn i'n gweithio yn yr RDS yr diwrnod wneth fy mlog fach i droi yn 3, ag heb amser i feddwl am flogio.
Dwi'n cofio sefyldlu'r flog mewn swyddfa fach yn Gaernarfon wedi i mi ddarllen am flogiau Cymraeg ar Maes-e. Ar yr amser roeddwn i'n ysgrifennu i'r BBC ag i'r Selar felly roedd flog yn lle addas i cyhoeddi fy ngwaith.

Ers hynny mae llawer wedi newid ag mae gan yr wefan olwg newydd, ag er fy mod i ddim yn cael amser i neud yn rheolaidd, dwi dal i fwynhau sgwennu flogiau yn y Gymraeg - yn wir, mae fy mlogiau saesneg wedi cael ei anghofio erbyn hyn ag Melysion yw'r unig un sydd dal i fod.
Felly penblwydd hapus hwyr Melysion.

19.8.09

Apêl Sesiwn Fawr Dolgellau

Ocsiwn Addewidion gyda Dilwyn Morgan yn gyflwyno.
Dydd Mercher, Medi 16, 2009
7:30yh
Clwb Golff Dolgellau
£2 am rhaglen/ tocyn
01678540699
E-bost: jonesesyllt@tiscali.co.uk

Rhestr Addewidion:

Penwythnos i ddau yn Brynffynnon rhodd Debbie a Steve Holt
Pryd Tri Chwrs ym Mhen MaenUchaf
Llun Print gan yr artist Gareth Jones
Cinio a thaith o amgyllch y Tŷ Cyffredin gyda
Diwrnod o waith TG oddiwrth
Dau docyn i weld Manchester United
Pecyn o lyfrau o waith Bethan Gwanas
Hanner diwrnod o waith yn yr ardd oddiwrth
Hanner Oen
Ewyllys wedi ei wneud gan
Llun portread gyda phensil wedi ei wneud gan
Crys T wedi ei arwyddo gan yr actor Mathew Rhys
Dau Docyn i flasu gwin yn Dylanwad Da
Noson o warchod - Plant yn dderfrydol !
Geiriau Caneuon Dafydd Iwan yn ei lawysgri
A llawer llawer mwy!!!
Dewch yn llu i gefnogi y noson os na fedrwch ddod be am roi bid a r lein.

10.8.09

Chwylio am hwyl yn yr Eisteddfod

Dwi'n nol wrth fy nesg wedi benwythnos yn y Gogledd.

Wedi mi cyraedd ar y Nos Wener a cael pryd o fwyd efo mam a dad, wnes i gyrru i'r Eisteddfod o Benrhyndeudraeth gyda un o fy ffrindiau gorau.

Roedd y ddau ohonym wedi cyffroi wedi wythnos o trefnu ag siarad am y noson.

Camgymeriad 1. Mynd yna yn hwyr ag ddim mynd am beint i dre cyn mynd i Maes B ag sylwi na dyna lle oedd pawb.
Camgymeriad 2. Mynd i Maes B.

Roedd rhaid i mi ddweud roedd y Maes B yn siom fawr i gymharu ag rhai dwi wedi bod i o'r blaen. Fy profiad Maes B cyntaf oedd Eisteddfod Bala yn 1997, ag fel mae llawer dal yn mynnu 'hwnna oedd Eisteddfod gorae erioed!'

Wrth cyraedd Maes B roedd cerddoriaeth yn llenwi'r awyr, ond sylwais yn syth bod yr un caneuon oedd yn cael ei chwarae gan yr un bandiau nol yn Steddfod Abertawe yn 2006 yn dod o Maes B. Mewn tair blynedd mae rhaid bod na well cerddoriaeth wedi cael ei greu tybed?!

Unwaith dalais y 12 punt i mynd i fewn cerddais i fewn i'r babell ag roedd y lle bron yn wag, ag yr rhai roedd yna oedd pobol ifanc dan oed (wnaeth un hogyn 16 trio teimlo fy mron ar un adeg). Doedd na ddim awyrgych hwylus fel dwi'n cofio yn Eisteddfodau o'r gorfennol ag doedd rhan fwyaf o'r staff ddim yn siarad Cymraeg - staff ar y drws nag y rhai ar y bar.

Ella na fel hyn mae Maes B wedi bod erioed ag dwi yn mynd yn hen - ond dwi'n tybio baswn i wedi bod yn fwy hapus yn y maes mytholegol Maes Huw ag yn yfed yn un o'r tafarndau yn y dre.
Diolch byth am y pannad bendigedig y Gorlan oedd yn pleser pur y fore wedyn gyda rhôl bacwn.

Priodol iawn na fy mhrofiad cynta oedd yn Eisteddfod Bala ag nawr yr un terfynol hefyd.

20.7.09

Economi Iwerddon




30.6.09

Diwedd y gân

Roeddwn i'n drist am marwolaeth Michael Jackon gan fy mod i wedi gwrando i'w gerddoriaeth yn tyfu fynny yn ein tŷ yn Minffordd. Roeddwn i yn Cei Eden yn aros am fws efo gwraig fy cefnder pan ffoniodd o'i waith mewn papur newydd i ddweud for Michael Jackson wedi marw. Roedd pobol ar y stryd yn siarad am y newyddion ag oedd glanhäwr stryd yn dweud y newyddion i bobol wrth ysgubo'r palment.
Ia oedd ei fywyd ers y 90au yn drist ag yn llawn helynt, ond roedd o dal yn un o cantorion gorau'r 20fed Ganrif.
Darllenias erthygl heddiw ar wefan The Times gan oedd yn crynodeb da o'i drafferthion ar diwedd ei fywyd: timesonline.co.uk

18.6.09

Y dreigiau werdd

Yn yr obaith o fod yn ffit i gwyliau dwi wedi trefnu yn mis Hydref dwi wedi ymmuno gyda tim 'tag rugby' Cymru Dulyn - sef y Draig Werdd.
Mae'r tim yn cynnwys pobol Cymraeg o'r De ag y fi, yr unig un o'r Gogledd. Mae yna Gwyddelod hefyd ar y tim ac dwy o Seland Newydd ar gael pan mae'r tim yn fyr. Wedi wythnosau o ymarfer yn parc yn Ballsbridge mae'r cystadlauaeth wedi dechrau ag hyd yn hyn mae'r tim wedi enill pob gem!!

Dwi wedi chwarae tair gem ag ar y cyfan dwi wedi helpu'r tim i sgorio ceisiadau ag dwi wrth fy modd ar y cae rygbi unwaith eto.

14.5.09

Ar Dy Feic



Dwi wedi bod yn reidio beic o Ranelagh, lle dwi'n byw, i Ballsbridge. Beic mae pawb yn y tŷ yn rhannu yw hon ond dwi wrth fy modd hefo fo. Mae o'n hen ag ddim yn beic uffernol o dlws, ond mae'n llawn cymeriad. Os fyddech chi ar strydoedd Dulyn edrychwch allan am fi yn canu yn braf yn y glaw ar fy meic.

5.5.09

Sâl fel mochyn

Dwi ddim yn yr hiwmor gorae oherwydd dwi'n sâl unwaith eto - y pedwerydd tro y flwyddyn hon. Dwi yn gwaith ond yn cwbwlhau bron i ddim ag yn cael llwyad o mêl 'Manuka' pryd dwi'n dechrau tagu - mêl sydd i fod i helpu'r proses o wella. Nawr dwi'n deimlo’n bryderus bod y ffliw moch wedi cael fi. Dwi'n darllen y simtomau ar gwahanol wefannau, wel os dyna beth sydd gen i mae'n rhy hwyr nawr, dyw'r llywodraeth yma yn Iwerddon ddim i weld yn neud dim amdano, heblaw am anwybyddu'r broblem fel pob un arall.

Ta waeth, roeddwn i'n Llundain dros y penwythnos yn gweld hen ffrindiau - does dim byd gwell i godi'r calon na treulio amser gyda pobol sydd yn meddwl y byd ohonoch...bechod.

2.4.09

Blwyddyn a hanner yn Iwerddon

Dwi wedi bod yn byw yn Dulyn am flwyddyn a hanner:

Yn yr amser yna dwi wedi…
Wedi cwbwlhau cwrs MA mewn Newyddiadwraeth ag wedi graddio
Byw mewn 2 Tŷ
Gwneud ffrindiau newydd
Colli ffrindiau
Dysgu bach o Wyddeleg
Sgwennu erthyglau i'r Sunday Times
Cael swydd gyda cylchgrawn
Gweld mwy o fy teuly Gwyddelig
Sgwennu stori Cymraeg
Gwario gormod o pres
Yfed lot o Bulmers

Dwi wedi mwynhau fy amser hyd yn hyn ag er bod popeth ddim yn berfaith ar hyn o bryd dwi digon hapus. Ynglyn a colli ffrindiau - oherwydd sefyllfa'r economi yma mae lot o ffrindiau wedi gadael yr wlad - mae dwy wedi mynd ynol i'r Eidal, un o fy ffrindiau gorae wedi mynd nol i'r Unol Dalaethau ag mae un ar fin mynd nol i Gymru. Dwi ddim yn licio gweld nhw'n mynd ond allai dallt efo'r costau byw yma - mae'n hyrt!
Mae Dulyn yn dinas braf ond aruthrol o drud. Taswn i heb waith ni allaf aros yma am fwy na bythefnos, mae'n anodd neud dim heb wario domen o bres. Mae hi'n eitha anodd cyfarfod pobol newydd yma oherwydd mae pobol yn tueddu i nabod ei gilydd ers blynyddoedd - mewn fordd yn union fel Cymru. Ond dwi'n cyfarfod pobol pob dydd - pwy a wyr, ella mae fy ffrind gorau newydd yn byw ar fy stryd!