
Gruff Rhys & H HawklineBywyd merch Gymraeg o Meirionnydd

Gruff Rhys & H HawklinePostwyd gan Melys at 20.11.10 0 comments
Labeli: Cymraeg, Dulyn, Gruff Rhys, Iwerddon
Dwi eisiau rhoi 'plug' bach i'r rhaglen yma. Mae Barri yn brawd 'fach' i un o fy ffrindiau gorae ag dwi wedi gweld ei daith o dechrau yn yr byd reslo i lle mae o heddiw.
Dwi'n gwybod fod ei deulu a'i adal yn hynod falch o'i llwyddiant:
Portread o reslar proffesiynol ar S4C
Fe gawn ni olwg o’r newydd ar y reslar proffesiynol o Gymru, Barri Griffiths, mewn rhaglen ddogfen ddifyr ar S4C nos Fercher, 1 Medi.
Bu camerâu cwmni Antena yn dilyn y cawr chwe troedfedd chwe modfedd a 21 stôn o Dremadog, Gwynedd wrth iddo baratoi i fynd i America i ennill ei fara menyn fel reslar gyda’r WWE, y cwmni reslo mwyaf yn y byd.
Yn y rhaglen Barri Griffiths: Y Reslar, cawn weld sut y cafodd Barri y cyfle anhygoel yma a byddwn yn dilyn ei fywyd yn ystod y misoedd allweddol hynny cyn iddo symud i Tampa Bay, Florida.
Mae Barri bellach yn Florida ers rhai misoedd ac eisoes wedi ennill un o’r teitlau pwysicaf yno, sef y FCW Florida Heavyweight Champion.
Barri Griffiths: Y Reslar, Nos Fercher,1 Medi, 21/30, S4C.
Ail ddarllediad; 16/00, Dydd Sul, Medi 5
Postwyd gan Melys at 1.9.10 0 comments
Mewn llai na wythnos fe fydd hi’n ddiwrnod Pethau Bychain.
Ar y 3ydd o Fedi mae'n amser ddathlu’r iaith Gymraeg arlein ac annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.
Gallwch fod yn rhan o'r ddiwrnod ag dangos eich cyfraniad drwy gwneud addewid yma:
Pethau Bychain
Postwyd gan Melys at 29.8.10 0 comments
Labeli: Cymraeg, pethau bychain, pethaubychain, wefan
Mae'r blog yma ar fin dathlu 5 mlynedd mewn bodolaeth.
Ar y dechrau roedd fy mlog yn lle i postio adolygiadau gigs Cymraeg ag i ysgrifennu am yr byd o'm cwmpas. Yn yr 5 mlynedd ers i mi dechrau flogio yn yr Gymraeg mae rhai o fy hoff flogiau wedi cau lawr ond dwi wedi ceisio cadw hwn i fynd.
Yn diweddar rwyf wedi dechrau blog Saesneg i fynd efo fy nhyfrif ar Twitter ag yn yr mis diwethaf mae mwy o pobol wedi gadael sylwadau yno nag ydw i wedi cael mewn 5 mlynedd o flogio yma.
Dwi'n darllen rhai flogiau drwy Blogiadur.com ag wedi rhoi sylwadau ar rhai ohonyn nhw ond dydw heb clywed llawer am beth mae pobol yn meddwl o fy mlogiau. Ella dwi ddim yn aelod o'r byd o blogwyr, ella mae pobol yn meddwl fod fy mlog yn ddiflas, ella mae'r cymmuned o blogwyr Cymraeg yn ddiog...pwy a wyr. Heb sylwadau does gen i ddim syniad pwy sy'n darllen Melysion, ond ers i mi ychwanegu 'Google Analytics' alla'i weld fod pobol yn dod i'r flog.
Dydw i ddim yn chwylio am llwyth o darllenwyr er mwyn i mi deimlo'n boblogaidd, ond dydw i ddim eisiau meddwl bod neb yn darllen beth rwy'n sgwennu.
Beth yw profiadau blogwyr Cymraeg eraill?
Dwi wedi bod yn reidio beic o Ranelagh, lle dwi'n byw, i Ballsbridge. Beic mae pawb yn y tŷ yn rhannu yw hon ond dwi wrth fy modd hefo fo. Mae o'n hen ag ddim yn beic uffernol o dlws, ond mae'n llawn cymeriad. Os fyddech chi ar strydoedd Dulyn edrychwch allan am fi yn canu yn braf yn y glaw ar fy meic.
Postwyd gan Melys at 14.5.09 0 comments
Dyddiadur Dwynwen
Cyfres yn dathlu Diwrnod Cariadon Cymru wrth geisio cael hyd i gariadon i ddeuddeg o bobl sengl drwy Gymru:
http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00hbf8c/Dyddiadur_Dwynwen_04_02_2009/
Postwyd gan Melys at 5.2.09 0 comments
Labeli: BBC, Cymraeg, Dyddiadur Dwynwen, Radio Cymru