MELYSION MELYSION MELYSION »

11.7.12

Amser yn hedfan

Fel y welwch - tydw i heb wedi bod yn sgwennu i'm mlog. Ychydig iawn o bobl oedd yn ei ddarllen, ac ar ôl sbel wnes i ddigaloni.

Dwi dal yn Nulyn ac yn dal i weithio fel newyddiadurwr. Dwi wedi symud ty (eto - fy chweched tŷ mewn pedair blynedd), a wyf yn dal i fwynhau popeth sydd gan Iwerddon i'w gynnig.

Roeddwn i wrth fy mod wrth fy modd pan enillodd Cymru y Chwe Gwlad, ac partiodd y Cymru yma fel pe baem yng Nghaerdydd.

Gallwch ddilyn fy helyntion ar Twitter: www.twitter.com/AngharadW

27.7.11

Amy Winehouse 1983 - 2011

Cysga'n dawel Amy.

Dyma'r cyfweliad wnes i gyda Amy yn 2004


1.2.11

Cymru v Lloegr 2011

6.12.10

Cyllideb caled

Dim ond oriau sydd i fynd tan fydd yr llywodraeth yma yn Iwerddon yn cyhoeddi yr cyllideb. Mae hyn yn cyllideb sydd angen arbed arian i dalu am y llanast economaidd sydd yn Iwerddon - ac mae hyn yn swm sylweddol. Un peth sy'n sicr, bydd hyn yr fydd o arbed arian yn cosbi y tlawd ag yn effeithio dyfodol Iwerddon.


1.12.10

Eira mawr

Mae eira trwm wedi disgyn dros y dyddiau diwethaf ac mae Dulyn mewn anhrefn o ganlyniad. Roeddwn i gartref heddiw ac dyma'r llun tynnais o'r eira tu allan i'r tŷ. Ar hyn o bryd dwi'n caru'r eira, ond mae'r eira i fod i bara am wythnos arall felly gawn ni weld os fydda'i mor hoff ohono wedi 7 diwrnod o annibendod.

30.11.10

Rhesymau dros protestio

Roeddwn i’n siarad ar y radio dros y penwythnos oherwydd fy mod yn un o'r protestwyr a gymerodd i’r strydoedd i brotestio dros llanast economaidd mae’r llywodraeth Gwyddelig a’r banciau wedi creu a'r mesuriadau sydd wedi cael ei dyfeisio i wella’r sefyllfa.

Symudais i Ddulyn yn 2007 i astudio. Roedd yr ddinas yn gwneud yn dda, ond wedi colli llawer o'r hunaniaeth yr wyf yn cofio o fy mhlentyndod. Ond yn y blynyddoedd ers i mi gyrraedd mae pethau wedi troi unwaith eto a gallwch weld y newidiadau ar ein strydoedd, o'r siopau ar gau i'r cynnydd yn y bobl ddigartref yn yr ddinas.

Pan orffenais fy nghwrs yn 2008 cefais swydd ar yr cyflog isaf ac doedd o ddim yn hawdd byw ar yr cyflog yna. Roeddwn i’n gally dalu fy rhent, ond roedd ychydig o arian yn weddill ar gyfer nosweithiau allan neu ar gyfer teithiau yn ôl i Gymru. Ges i swydd arall fel y gallwn i gael fwy o arian ychwanegol, ond roeddwn i’n gweithio 9yb tan 11yh ac yn cyrraedd adref am hanner nos. Dwi erioed wedi bod mor flinedig yn fy mywyd!

Felly, pan glywais fod yr llywodraeth am dorri’r isafswm cyflog roeddwn i yn siomedig iawn. Gallaf ddeall fod yna bobl sydd eisoes yn ei chael yn anodd, ond yn awr bydd yn rhaid iddynt dorri'n ôl ymhellach. Yr wyf yn ddig bod dulliau y llywodraeth Gwyddelig o arbed arian yn ymosod ar y bobl tlotaf yr wlad.


Dyna un o'r rhesymau pam yr oeddwn yn un o'r rhai a gymerodd rhan yn yr brotest ar y ddydd Sadwrn i wneud yn siwr bod y llywodraeth yn gwybod fod y bobl yn deud fod hyn ddim yn dderbyniol.


22.11.10

Iwerddon 22/11/2010

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi dyddiad etholiad ar gyfer mis Ionawr 2011 wedi cyhoeddiad gan plaid clymblaid, y Blaid Werdd, gan ddweud y bydd yr blaid yn gadael yr llywodraeth ac yn gorfodi etholiad yn gynnar ym mis Ionawr.


Mae'n debyg bydd Fianna Fail a Brian Cown allan o'r Dáil,ond nid cyn gyllideb sydd, o arwyddion cynnar bydd, taro y tlawd galetaf.

Nawr y cwestiwn yw; pwy fydd Taoiseach nesaf Iwerddon?

_______________

Ymatebion pobl yn Iwerddon:

"we didnt even make it to a hundred years of sovereignty"
"Brian cowen is dead and gone as far as most people are concerned."
"Brian Cowen needs to realise that EVERYTHING is his fault!"
"Just checked my wallet there and my Euro notes are starting to slowly disappear Back To The Future-style"
"Christmas is coming, the goose is getting fat, please give Ireland £7bn so greedy bankers can get fat"

21.11.10

Diwrnod du yn hanes Iwerddon

Mae'r llywodraeth Gwyddelig wedi cadarnhau eu bod yn mynd i dderbyn cymorth gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol. Ond mae'r llywodraeth yn annog - peidiwch â galw hyn yn 'Bailout'.

Mae pobl Iwerddon wedi gwylltio, ag mae hyn yn glir os ydych yn darllen Twitter. Gallwn ddisgwyl protestiadau yr wythnos hon, ond yr wyf yn ofni ei fod ychydig rhy hwyr.

Mae'n amser i Brian Cowan i ymddiswyddo ac yn cymryd cyfrifoldeb am y llanast yma.

Bydd y diwrnodau a'r wythnosau nesaf yn rhai o'r mwyaf terfysglyd yn hanes Iwerddon.




20.11.10

Gruff Rhys 15/11/10 - Y Sugar Club, Dulyn

Gruff Rhys & H Hawkline


17.11.10

Ddyledion Iwerddon

Dylai pawb wedi clywed am sefyllfa economaidd Iwerddon erbyn hyn (er roedd un ddynes yn gwaith ddim ‘di clywed).

Rydw i newydd dathlu y trydydd pen-blwydd ers i mi gyrraedd ar yr ynys werdd yma, ac yn yr amser yna mae’r sefyllfa economaidd wedi mynd o ddrwg i llanast rhyngwladol.

(I weld lle mae pob dim yn mynd o'i le gallwchbwrw golwg ar y BBC yn erthygl am y sefyllfa.)

Nid yw bywyd y tu mewn i'r swigen mor ddrwg. Mae cyflogau yn dal i fod yn uwch nag yn y Prydain, person di-waith yn ei gael, fodd bynnag, ni ellir sefyllfa yma parhau fel hyn.
Mae llywodraeth Iwerddon gwario yn ystod yr adegau da ac ddim yn buddsoddi ar gyfer diwrnod glawog fel yr rhai sydd yn bodoli heddiw. Maent hefyd yn gadael i fanciau gael i ffwrdd â llofruddiaeth ac wedyn i sicrhau y banciau – ag Iwerddon oedd yr wlad gyntaf yn y byd i wneud hynny.

Fy marn i yw bod y llywodraeth Gwyddelig wedi pydru i'r craidd, ac er bod y llywodraeth Cymru ag Llundain yn bell o fod yn berffaith, rwy'n amau y byddent yn mynd i ffwrdd gyda hanner y pethau mae Fianna Fáil wedi gwneud. Beth bynnag, nid yw pob bys yn rhoid yr bai ar Brian Cowan, roedd Bertie Ahern gyda ran fawr i'w chwarae yn dinistrio’r economi Gwyddelig a llwyddo i gadael yn ddi-bai am yr sefyllfa mae Iwerddon mewn heddiw.

Felly, ar hyn o bryd o'r tu mewn i'r wlad dydi pethau yn ymddangos i fod yn rhy ddrwg, ond mae pawb yn barod i bethau waethygu cyn iddynt wella.