MELYSION MELYSION MELYSION »

2.4.09

Blwyddyn a hanner yn Iwerddon

Dwi wedi bod yn byw yn Dulyn am flwyddyn a hanner:

Yn yr amser yna dwi wedi…
Wedi cwbwlhau cwrs MA mewn Newyddiadwraeth ag wedi graddio
Byw mewn 2 Tŷ
Gwneud ffrindiau newydd
Colli ffrindiau
Dysgu bach o Wyddeleg
Sgwennu erthyglau i'r Sunday Times
Cael swydd gyda cylchgrawn
Gweld mwy o fy teuly Gwyddelig
Sgwennu stori Cymraeg
Gwario gormod o pres
Yfed lot o Bulmers

Dwi wedi mwynhau fy amser hyd yn hyn ag er bod popeth ddim yn berfaith ar hyn o bryd dwi digon hapus. Ynglyn a colli ffrindiau - oherwydd sefyllfa'r economi yma mae lot o ffrindiau wedi gadael yr wlad - mae dwy wedi mynd ynol i'r Eidal, un o fy ffrindiau gorae wedi mynd nol i'r Unol Dalaethau ag mae un ar fin mynd nol i Gymru. Dwi ddim yn licio gweld nhw'n mynd ond allai dallt efo'r costau byw yma - mae'n hyrt!
Mae Dulyn yn dinas braf ond aruthrol o drud. Taswn i heb waith ni allaf aros yma am fwy na bythefnos, mae'n anodd neud dim heb wario domen o bres. Mae hi'n eitha anodd cyfarfod pobol newydd yma oherwydd mae pobol yn tueddu i nabod ei gilydd ers blynyddoedd - mewn fordd yn union fel Cymru. Ond dwi'n cyfarfod pobol pob dydd - pwy a wyr, ella mae fy ffrind gorau newydd yn byw ar fy stryd!

1.4.09

Distawrydd yr haf

Weles i fod y gwobrau RAP ymlaen y flwyddyn hon. Wel, mae na angen rhywbeth i lenwi'r bwlch mae'r diffyg ŵyliau wedi gadael. Clywais gan ffrind fod Gŵyl Car Gwyllt di cael ei canslo y flwyddyn hon - er nid ydw wedi gweld cadarnhad o hyn.
Dwi wedi clywed digon o cwyno o Gymru fod yr sîn roc Gymraeg yn eitha diflas ar hyn o bryd ag o be dwi wedi clywed ar C2 mae rhaid i mi cytuno. Ond mae gennai obaith fod na fandiau diddorol newydd i ddod yn y dyfodol agos.
Dwi heb di cael amser i clywed albwm newydd yr Super Furries, ond dwi wedi clywed bod nhw'n chwarae gŵyl yn Bundoran, Sir Donegal. Mae ffrind yn trio perswadio mi i fynd ag er fy mod i'n trio safio bach o pres am gwyliau i Los Angeles dwi'n meddwl fod hi'n debyg iawn fyddai'n mynd.


Ar nodyn arall mae hi'n Ebrill y 1af. Ges i e-bost efo'r linc yma bore 'ma. Gwych!

26.3.09

Cymru yn Iwerddon ar ôl Grand Slam

Ella bod pawb yn Gymru yn dal i dod dioddef o'r penwythnos, fe es i lawr i Gaerdydd i wylio'r gem a bois bach, dwi heb di cael gymait o hwyl ers amser maith!
Dwi nawr nol yn Iwerddon ag er fod hi bron yn wythnos ers yr gem fawr mae pawb dal i son am y pencampwriaeth ag mae'r papurau dal i son am eu llwyddiant.Chwarae teg, mae 61 flynedd yn amser hir i aros am eich tim i gael Grand Slam tra bod eich cymdogion yn Gymru wedi cael dwy ers dechrau'r mileniwm. Hefyd rwy'n meddwl fod hi wedi cymeryd wythnos i wynebu realiti'r sefyllfa - doedd o ddim yn breuddwyd...do wnaethom ni enill!

O'r Metro :

Are you a Welsh resident in Ireland? Are you sick and tired of hearing us all going on about our Grand Slam success? If so call 1800 1715 1715 1715 to talk to someone now!

5.3.09

Dim Sesiwn Fawr i Dolgellau

Fydd hi ddim yn dod yn sioc mawr i llawer o bobol, ond mae trefnwyr Sesiwn Fawr wedi cadarnhau fydd yr ŵyl ddim yn cael ei cynnal y flwyddyn yma.

Dywedodd Ywain Myfyr i'r BBC:

"Y sefyllfa ydi fod ganddom ni ddyled - mae ganddom ni gredydwyr - a'r teimlad felly ydi y gallai cynnal gŵyl yn 2009 gael ei weld fel masnachu anghyfreithlon. Does gan y pwyllgor na'r cyfarwyddwyr ddim bwriad i roi'r gorau iddi. Ry'n ni'n gobeithio y byddwn ni'n ôl yn 2010 hefo Sesiwn Fawr, ond yn sicr mi fydd hi'n wahanol."
Mae'n drist iawn fod y Sesiwn ddim yn cael ei chynnal yn Nolgellau eleni. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor o 2006 i 2007 ag wnes i fwynhau'r profiad ag wnes i neud ffrindiau da gyda'r pobol eraill oedd yn rhan o drefu'r ŵyl . Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yr wythnos nesa i lansio cronfa apêl i'r Sesiwn felly dangoswch eich cefnogaeth i'r Sesiwn Fawr - cyfarfod cyhoeddus yn Nhŷ Siamas, Dolgellau am 7.30pm nos Fawrth, Mawrth 10 - lansio cronfa apêl i godi arian i'r Sesiwn Fawr.

26.2.09

Cipolwg ar Golwg

Os fyddech yn eich siop bapur lleol heddiw cymerwch 'olwg yn y cylchgrawn Golwg i weld erthygl am fy ngwaith.

"Rhoi sgandal i ferched Iwerddon – y Gymraes sy’n olgydd cylchgrawn Women’s Way yn Nulyn"


Wnaeth yr newyddiadurwraig talentog Non Tudur wneud y cyfweliad, er nid hon yw'r profil cynta dwi wedi cael yn y Cylchgrawn.
Roedd'na darn yn y cylchgrawn amdamaf ynol yn 2003. Ers hynny mae fy mywyd wedi newid tipin - dwi wedi mynd o weithio yn y sin cerddoriaeth, i gweithio mewn radio, i cylchgrawn Cymraeg, i'r Sunday Times ag nawr i Woman's Way.

Dwi heb 'di weld o eti, felly gadewch i mi wybod os 'di o'n edrych yn dda.

21.2.09

Penwythnos yn Gymru

Dwi adra yn y Gogledd am benwythnos.
Dwi'm yn bwriadu neud llawer:

- treulio amser efo'r teuly
- mynd i weld ffrindau
- gwneud bach o cerdded
- cael digon o cwsg

Roedd hi'n niwlog dros ben ddoe felly doedd ddim golwg o'r Wyddfa o'r Cob rhwng Minffordd a Porthmadog. Dwi'n gobeithio wellith y tywydd heddiw.

18.2.09

Gwrando i Gymru drwy'r cyfrifiadur.

O'r diwedd dwi'n nol ar y we pan dwi adra felly gennai fwy o amser i flogio.
Dwi wedi bod yn gwrando i Radio Cymru, wel C2 i fod yn fwy penodol. Wnes i fwynhau gwrando i rhaglen Huw Stephens neithiwr 17/2 ag i'w gwestai Katell Keineg. Dwi'n edrych ymlaen i clywed mwy ganddi.

6.2.09

Llond tŷ o helynt

'Dwi wedi bod yn gweithio i cylchgrawn ferched am 4 mis nawr ag dwi'n dechrau bod yn arbenigwr ar sgwennu am addurniadau y ty. Sut dwi wedi mynd o sgwennu am cerddoriaeth i erthyglau am newid golwg y ty am ychydig o bres, dwn i ddim.

Ta waeth...ar ein llawr ni yn y swyddfa mae na 6 cylchgrawn - yr rhan fwyaf i ferched. Mae'r staff yn 98% yn ferched, ag fel y dychmygwch nid yw cael lot o ferched mewn un ystafell ddim yn syniad da. Dwi wedi darganfod dros y flynyddoedd na merched yw gelynion ei hunain - ma nhw'n dweud pethau tu ol i cefn ei gilydd ag os yw un yn neud yn dda mae nhw'n cael ei rhoi lawr gan pob dynes arall yn lle llongyfarch nhw. Hefyd, os yw merch mewn unrhyw ffordd yn wahanol i'r merched eraill mae nhw'n cael ei pigo allan fel yr un mae pawb yn casau. Dwi o'r farn na merched sa'n rhedeg y byd tasa nhw ond yn cydweithio, ond dwi'n nabod digon o dynion sa'n anghytuno (yr Gwyddal dwi'n byw efo am un engraifft).

5.2.09

Dyddiadur Dwynwen ar iPlayer

Dyddiadur Dwynwen
Cyfres yn dathlu Diwrnod Cariadon Cymru wrth geisio cael hyd i gariadon i ddeuddeg o bobl sengl drwy Gymru:

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00hbf8c/Dyddiadur_Dwynwen_04_02_2009/

4.2.09

Melysion i'r glust.

Flwyddyn ynol wnaeth ffrind perswadio mi gymeryd rhan mewn rhaglen i Radio Cymru am chwylio am cariad yn Dulyn. Wel, heno yw'r noson fawr. Fe fydd yr rhaglen ar Radio Cymru heno:

18:03 Dyddiadur Dwynwen
Cyfres yn dathlu Diwrnod Cariadon Cymru wrth geisio cael hyd i gariadon i ddeuddeg o bobl sengl drwy Gymru.

Aaaaaaargh!!