Rwyf wedi bod yn byw yma yn Ddulyn ers 3 mlynedd. Yr diwrnod wnes i dal yr llong o Gaergybi doeddwn i ddim ‘di ystyred fydda’i dal yma yn 2010. Roeddwn i wedi meddwl dod i’r ddinas i astudio tra roeddwn i’n byw yn Llundain – dwi’n caru Llundain, ag roeddwn i wrth fy modd yn byw yno, ond roedd o’n bell o adra ag doedd gen i ddim teulu yno.
Mae Mam yn wreiddiol o Dulyn ond wedi byw yn Cymru ers 27 mlynedd ers iddi symyd i Meirionnydd pan gafodd Dad swydd yn yr ardal. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ag yn defnyddio fo yn ei bywyd pob dydd.
Beth, bynnag…Mae rhan fwyaf o teulu Mam dal yma, felly gen i domen o cefnderoedd yn yr ddinas sydd yr un oed a fi. Dyna un o’r rhesymau mwyaf dros symyd yma, ag ynol yn 2007 roedd yr economi dal yn iach (stori gwahanol erbyn hyn).
Pan symudais yma roedd un o fy ffrindiau agos yn byw yma felly roeddwn i’n siarad Cymraeg yn dyddiol, ond roedd rhaid i’r ffrind symyd ag felly aeth fy nefnydd o’r iaith i lawr yn sylweddol.
Pan oeddwn yn byw yn Lloegr, darganfyddais fod yn well bod yn ngwmni y Cymru yn ystod y gêmau rygbi – naill ai i dathlu ein llwyddiant neu i yfed wedi colled. Pan symudais i Ddulyn darganfyddais yr Gymdeithas Draig Werdd yma ag drwy nhw wnes i gyfarfod o dwy o’m frindiau agos yma sy’n siarad Cymraeg. Mae’r Gymdeithas yn 90% yn dynion o’r De sydd wedi syrthio mewn cariad gyda merched o’r Werddon (bechod), ond dydi’r rhan fwyaf ddim yn siarad Cymraeg. Ond mae yna gymuned fach braf o Gymru yma, ag mae yna rhai o’r hennoed sydd wedi treulio rhan fwyaf o’i bywydau ar ochor yma o’r Mor iwerddon ond dal i siarad Cymraeg ag yn cany yn yr Côr Meibion.
Yr rhai sydd yn pleser fawr i gyfarfod yw’r Gwyddelod sydd wedi dysgu Cymraeg. Mae ei acen yn wych, ag dim ond pan mae gair saesneg yn disgyn i fewn i’r sgwrs oes modd clywed ei acen Gwyddelig. Mae’n acen hyfryd, ag mae gan siaradwyr Gwyddeleg parch mawr i’r Cymru ag y ffordd rydym yn cofleidio ein iaith. Mae’r agwedd o di-siaradwyr Gwyddeleg tuag at ei iaith ei hunain o fy mrofiad i yn llawn amarch, ag mae llythyrau wedi bod yn llenwi’r papurau yn diweddar o blaid torri gwersi Gwyddelig o’ r cwricwlwm. Rwyf hyd yn oed wedi cael Gwyddelod yn dweud wrthaf fod yr iaith Gymraeg wedi marw, ag yn waeth byth fod ni’n ‘West Brits’…wel, gallwch chi dychmygu fy amateb i.
Ond, serch hynny mae yr rhan fwyaf o bobol yn llawn diddordeb am Cymru a’r iaith ag mae aelodau o’r swyddfa yn dysgu geiriau pob wythnos (cacen a paned yw’r ffefryn hyd yn hyn).
Felly, mae modd siarad Cymraeg yn bywyd bob dydd yma yn Iwerddon, ag mae’r rhyngrwyd yn galluogi mi i gyfarthrebu yn yr Gymraeg i fy ffrindiau yn bob rhan o’r byd.
11.9.10
Cymru yn Iwerddon
Postwyd gan Melys at 11.9.10 0 comments
1.9.10
Barri Griffiths: Y Reslar
Dwi eisiau rhoi 'plug' bach i'r rhaglen yma. Mae Barri yn brawd 'fach' i un o fy ffrindiau gorae ag dwi wedi gweld ei daith o dechrau yn yr byd reslo i lle mae o heddiw.
Dwi'n gwybod fod ei deulu a'i adal yn hynod falch o'i llwyddiant:
Portread o reslar proffesiynol ar S4C
Fe gawn ni olwg o’r newydd ar y reslar proffesiynol o Gymru, Barri Griffiths, mewn rhaglen ddogfen ddifyr ar S4C nos Fercher, 1 Medi.
Bu camerâu cwmni Antena yn dilyn y cawr chwe troedfedd chwe modfedd a 21 stôn o Dremadog, Gwynedd wrth iddo baratoi i fynd i America i ennill ei fara menyn fel reslar gyda’r WWE, y cwmni reslo mwyaf yn y byd.
Yn y rhaglen Barri Griffiths: Y Reslar, cawn weld sut y cafodd Barri y cyfle anhygoel yma a byddwn yn dilyn ei fywyd yn ystod y misoedd allweddol hynny cyn iddo symud i Tampa Bay, Florida.
Mae Barri bellach yn Florida ers rhai misoedd ac eisoes wedi ennill un o’r teitlau pwysicaf yno, sef y FCW Florida Heavyweight Champion.
Barri Griffiths: Y Reslar, Nos Fercher,1 Medi, 21/30, S4C.
Ail ddarllediad; 16/00, Dydd Sul, Medi 5
Postwyd gan Melys at 1.9.10 0 comments
10.7.10
Sesiwn Fach 2010
Postwyd gan Melys at 10.7.10 0 comments
Labeli: Cymru, Dolgellau, festival, Sesiwn Fach, Sesiwn Fawr, Wales
1.4.09
Distawrydd yr haf
Weles i fod y gwobrau RAP ymlaen y flwyddyn hon. Wel, mae na angen rhywbeth i lenwi'r bwlch mae'r diffyg ŵyliau wedi gadael. Clywais gan ffrind fod Gŵyl Car Gwyllt di cael ei canslo y flwyddyn hon - er nid ydw wedi gweld cadarnhad o hyn.
Dwi wedi clywed digon o cwyno o Gymru fod yr sîn roc Gymraeg yn eitha diflas ar hyn o bryd ag o be dwi wedi clywed ar C2 mae rhaid i mi cytuno. Ond mae gennai obaith fod na fandiau diddorol newydd i ddod yn y dyfodol agos.
Dwi heb di cael amser i clywed albwm newydd yr Super Furries, ond dwi wedi clywed bod nhw'n chwarae gŵyl yn Bundoran, Sir Donegal. Mae ffrind yn trio perswadio mi i fynd ag er fy mod i'n trio safio bach o pres am gwyliau i Los Angeles dwi'n meddwl fod hi'n debyg iawn fyddai'n mynd.
Ar nodyn arall mae hi'n Ebrill y 1af. Ges i e-bost efo'r linc yma bore 'ma. Gwych!
26.3.09
Cymru yn Iwerddon ar ôl Grand Slam
Ella bod pawb yn Gymru yn dal i dod dioddef o'r penwythnos, fe es i lawr i Gaerdydd i wylio'r gem a bois bach, dwi heb di cael gymait o hwyl ers amser maith!
Dwi nawr nol yn Iwerddon ag er fod hi bron yn wythnos ers yr gem fawr mae pawb dal i son am y pencampwriaeth ag mae'r papurau dal i son am eu llwyddiant.Chwarae teg, mae 61 flynedd yn amser hir i aros am eich tim i gael Grand Slam tra bod eich cymdogion yn Gymru wedi cael dwy ers dechrau'r mileniwm. Hefyd rwy'n meddwl fod hi wedi cymeryd wythnos i wynebu realiti'r sefyllfa - doedd o ddim yn breuddwyd...do wnaethom ni enill!
O'r Metro :
Are you a Welsh resident in Ireland? Are you sick and tired of hearing us all going on about our Grand Slam success? If so call 1800 1715 1715 1715 to talk to someone now!
Postwyd gan Melys at 26.3.09 0 comments
5.3.09
Dim Sesiwn Fawr i Dolgellau
Fydd hi ddim yn dod yn sioc mawr i llawer o bobol, ond mae trefnwyr Sesiwn Fawr wedi cadarnhau fydd yr ŵyl ddim yn cael ei cynnal y flwyddyn yma.
Dywedodd Ywain Myfyr i'r BBC:"Y sefyllfa ydi fod ganddom ni ddyled - mae ganddom ni gredydwyr - a'r teimlad felly ydi y gallai cynnal gŵyl yn 2009 gael ei weld fel masnachu anghyfreithlon. Does gan y pwyllgor na'r cyfarwyddwyr ddim bwriad i roi'r gorau iddi. Ry'n ni'n gobeithio y byddwn ni'n ôl yn 2010 hefo Sesiwn Fawr, ond yn sicr mi fydd hi'n wahanol."
Mae'n drist iawn fod y Sesiwn ddim yn cael ei chynnal yn Nolgellau eleni. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor o 2006 i 2007 ag wnes i fwynhau'r profiad ag wnes i neud ffrindiau da gyda'r pobol eraill oedd yn rhan o drefu'r ŵyl . Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yr wythnos nesa i lansio cronfa apêl i'r Sesiwn felly dangoswch eich cefnogaeth i'r Sesiwn Fawr - cyfarfod cyhoeddus yn Nhŷ Siamas, Dolgellau am 7.30pm nos Fawrth, Mawrth 10 - lansio cronfa apêl i godi arian i'r Sesiwn Fawr.
Postwyd gan Melys at 5.3.09 0 comments

