Mewn llai na wythnos fe fydd hi’n ddiwrnod Pethau Bychain.
Ar y 3ydd o Fedi mae'n amser ddathlu’r iaith Gymraeg arlein ac annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.
Gallwch fod yn rhan o'r ddiwrnod ag dangos eich cyfraniad drwy gwneud addewid yma:
Pethau Bychain
29.8.10
Pethau Bychain
Postwyd gan Melys at 29.8.10 0 comments
Labeli: Cymraeg, pethau bychain, pethaubychain, wefan
22.8.10
26.7.10
Oes 'na bobol?
Mae'r blog yma ar fin dathlu 5 mlynedd mewn bodolaeth.
Ar y dechrau roedd fy mlog yn lle i postio adolygiadau gigs Cymraeg ag i ysgrifennu am yr byd o'm cwmpas. Yn yr 5 mlynedd ers i mi dechrau flogio yn yr Gymraeg mae rhai o fy hoff flogiau wedi cau lawr ond dwi wedi ceisio cadw hwn i fynd.
Yn diweddar rwyf wedi dechrau blog Saesneg i fynd efo fy nhyfrif ar Twitter ag yn yr mis diwethaf mae mwy o pobol wedi gadael sylwadau yno nag ydw i wedi cael mewn 5 mlynedd o flogio yma.
Dwi'n darllen rhai flogiau drwy Blogiadur.com ag wedi rhoi sylwadau ar rhai ohonyn nhw ond dydw heb clywed llawer am beth mae pobol yn meddwl o fy mlogiau. Ella dwi ddim yn aelod o'r byd o blogwyr, ella mae pobol yn meddwl fod fy mlog yn ddiflas, ella mae'r cymmuned o blogwyr Cymraeg yn ddiog...pwy a wyr. Heb sylwadau does gen i ddim syniad pwy sy'n darllen Melysion, ond ers i mi ychwanegu 'Google Analytics' alla'i weld fod pobol yn dod i'r flog.
Dydw i ddim yn chwylio am llwyth o darllenwyr er mwyn i mi deimlo'n boblogaidd, ond dydw i ddim eisiau meddwl bod neb yn darllen beth rwy'n sgwennu.
Beth yw profiadau blogwyr Cymraeg eraill?
10.7.10
Sesiwn Fach 2010
Postwyd gan Melys at 10.7.10 0 comments
Labeli: Cymru, Dolgellau, festival, Sesiwn Fach, Sesiwn Fawr, Wales
8.7.10
Dathlu yn Dulyn...
Mae'r tymor 'tag rygbi' ar ben.
Wedi digon o llwyddiant, croesawu aelodau newydd, dathlu ein lwyddianau ag trafod ein methiannau daeth yr tîm Cymru Ddulyn yn drydydd. Hwre!
Dyma'r cwpan enillodd yr tîm wedi ni enill ein gêm olaf.
Postwyd gan Melys at 8.7.10 0 comments
3.6.10
Chwarae o gwmpas
Mae'r tymor 'tag rygbi' wedi dechrau unwaith eto. Pedair gêm i fewn i'r tymor ag mae'r Cymru Ddulyn wedi enill un, cael dwy gêm gyfartal ag wedi colli un.
Gallwch dilyn ein tîm ar y wefan IRFU Tag Rugby
Postwyd gan Melys at 3.6.10 0 comments
28.5.10
Cwmwl aur
Rwy'n teithio i Gymru yn ddigon amal ag gan fod fy ngartref yn yr gogledd, y cwch yw'r ffordd fwya' addas i mi defnyddio.
Mae'r cwmwl o lwch a lludw wedi cynhyddu yr nifer o bobol sydd yn teithio o Iwerddon i Gymru wedi cynhyddu'n sylweddol ag ar fy siwrne diweddar roedd yr cwch yn llawn.
Roedd o'n amser eithaf drwg i ddod a'r 'vomit comet' sef yr Stena Lynx ynol i Caergybi. Dim ond 500 o bobol mae'r Lynx yn dal, felly gyda'r nifer o teithwyr yn cynhyddu roedd yn amser i'r HSS Stena Explorer dychwelyd.
Mae'r HSS yn ffordd gwych o teithio dros yr môr, gyda digon o le ag yn weddol cyffyrddus tra roedd yr Lynx yn fach ag yn fwy fel bws nag cwch. Ond, fel y dywediad "Mae gan pob cwmwl leinin arian" mae gan yr cwmwl o lwch un aur!
Postwyd gan Melys at 28.5.10 0 comments
15.5.10
Yr capel Cymraeg
Does ddim llawer o pobol yn gwybod am yr Capel Cymraeg sy'n Talbot Street yn ganol Dulyn - yr unig gapel Gymraeg a fu yn Iwerddon. Erbyn hyn mae'r capel yn siop, er mae'n bosib gweld gweddillion yr hen capel (fel a welwch uchod).
Adeiladwyd capel yn Talbot Street yn 1838 i gwasanaethu yr forwyr Cymreig ag daeth y capel o dan awdurdod Henaduriaeth Môn. Am gyfnod bu'r adeilad yn siop esgidiau, wedyn yn neuadd snwcer, ond erbyn hyn mae’r adeilad mewn adfeiliad ag mae’r Chymdeithas Cymraeg yn Iwerddon, Y Draig Werdd, yn gobeithio cael yr adeilad ar yr rhestr o adeiladau rhestredig.
I darllen mwy ewch i FACEBOOKPostwyd gan Melys at 15.5.10 0 comments
8.3.10
Noson Croeso Cymru
Bydd Côr Meibion Cymry Dulyn yn cynnal eu "Noson Croeso Cymru" ar nos Wener, 12 Mawrth, y noson cyn y gêm rygbi rhwng Iwerddon a Chymru. Bydd hon yn cymryd lle yng ngwesty'r Grand Canal, Grand Canal Street, Dulyn 4. Cynnigir adloniant yn y Gasworks Bar o 9yh ymlaen. Mae'r pris mynediad yn 8 Ewro, sydd yn cynnwys un ddiod am ddim.
Croeso cynnes i bawb!
Os ydych chi wedi gwella ar ôl holl weithgareddau'r noson gynt, gallwch glywed Jonathan Davies cyn y gêm yn rhoi sesiwn Holi ac Ateb am ddim yng Ngwesty'r Arlington, wrth Bont O'Connell am 11yb ar fore'r Sadwrn, 13 Mawrth.
http://www.draigwerdd.org/Cymraeg.htm
Postwyd gan Melys at 8.3.10 0 comments
5.3.10
Siglo'r rhyngrwyd
Dwi wedi bod yn defnyddio Twitter ers diwedd 2009, ag dwi wrth fy modd.
Dwi'n meddwl am beth dwi am bostio ar wahanol adegau yn ystod y dydd: wrth aros am fws, mynd i'r arfarchnad - hyd yn oed yn gwaith. Yr foment yma, wrth sgwennu'r geririau yma, dwi'n meddwl am pethau i ddweud. (Bach yn sad ella)
Diolch byth fy mod i wedi blino arno ychydig, ag yn defnyddio Twitter mwy fel lle i gweld be sy'n digwydd yn y byd ag yn enwedig beth sydd yn digwydd yn Iwerddon.
Un o'r pethau fwya' ym myd Twitter Iwerddon yw Crystal Swing.
Mae'n debyg fydd rhan fwyaf o bobol heb 'di clywed o'r band yma, ond mae nhw'n dechrau cael sylw tu allan i'r Ynys Werdd - mae hyd yn oed Ellen DeGeneres wedi postio linc iddyn nhw! Gallwch fwynhau Crystal Swing ar You Tube neu darllen amdanynt yma: www.crystalswing.com
Postwyd gan Melys at 5.3.10 0 comments


