MELYSION MELYSION MELYSION »

11.9.10

Cymru yn Iwerddon

Rwyf wedi bod yn byw yma yn Ddulyn ers 3 mlynedd. Yr diwrnod wnes i dal yr llong o Gaergybi doeddwn i ddim ‘di ystyred fydda’i dal yma yn 2010. Roeddwn i wedi meddwl dod i’r ddinas i astudio tra roeddwn i’n byw yn Llundain – dwi’n caru Llundain, ag roeddwn i wrth fy modd yn byw yno, ond roedd o’n bell o adra ag doedd gen i ddim teulu yno.

Mae Mam yn wreiddiol o Dulyn ond wedi byw yn Cymru ers 27 mlynedd ers iddi symyd i Meirionnydd pan gafodd Dad swydd yn yr ardal. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ag yn defnyddio fo yn ei bywyd pob dydd.

Beth, bynnag…Mae rhan fwyaf o teulu Mam dal yma, felly gen i domen o cefnderoedd yn yr ddinas sydd yr un oed a fi. Dyna un o’r rhesymau mwyaf dros symyd yma, ag ynol yn 2007 roedd yr economi dal yn iach (stori gwahanol erbyn hyn).

Pan symudais yma roedd un o fy ffrindiau agos yn byw yma felly roeddwn i’n siarad Cymraeg yn dyddiol, ond roedd rhaid i’r ffrind symyd ag felly aeth fy nefnydd o’r iaith i lawr yn sylweddol.
Pan oeddwn yn byw yn Lloegr, darganfyddais fod yn well bod yn ngwmni y Cymru yn ystod y gêmau rygbi – naill ai i dathlu ein llwyddiant neu i yfed wedi colled. Pan symudais i Ddulyn darganfyddais yr Gymdeithas Draig Werdd yma ag drwy nhw wnes i gyfarfod o dwy o’m frindiau agos yma sy’n siarad Cymraeg. Mae’r Gymdeithas yn 90% yn dynion o’r De sydd wedi syrthio mewn cariad gyda merched o’r Werddon (bechod), ond dydi’r rhan fwyaf ddim yn siarad Cymraeg. Ond mae yna gymuned fach braf o Gymru yma, ag mae yna rhai o’r hennoed sydd wedi treulio rhan fwyaf o’i bywydau ar ochor yma o’r Mor iwerddon ond dal i siarad Cymraeg ag yn cany yn yr Côr Meibion.

Yr rhai sydd yn pleser fawr i gyfarfod yw’r Gwyddelod sydd wedi dysgu Cymraeg. Mae ei acen yn wych, ag dim ond pan mae gair saesneg yn disgyn i fewn i’r sgwrs oes modd clywed ei acen Gwyddelig. Mae’n acen hyfryd, ag mae gan siaradwyr Gwyddeleg parch mawr i’r Cymru ag y ffordd rydym yn cofleidio ein iaith. Mae’r agwedd o di-siaradwyr Gwyddeleg tuag at ei iaith ei hunain o fy mrofiad i yn llawn amarch, ag mae llythyrau wedi bod yn llenwi’r papurau yn diweddar o blaid torri gwersi Gwyddelig o’ r cwricwlwm. Rwyf hyd yn oed wedi cael Gwyddelod yn dweud wrthaf fod yr iaith Gymraeg wedi marw, ag yn waeth byth fod ni’n ‘West Brits’…wel, gallwch chi dychmygu fy amateb i.

Ond, serch hynny mae yr rhan fwyaf o bobol yn llawn diddordeb am Cymru a’r iaith ag mae aelodau o’r swyddfa yn dysgu geiriau pob wythnos (cacen a paned yw’r ffefryn hyd yn hyn).
Felly, mae modd siarad Cymraeg yn bywyd bob dydd yma yn Iwerddon, ag mae’r rhyngrwyd yn galluogi mi i gyfarthrebu yn yr Gymraeg i fy ffrindiau yn bob rhan o’r byd.

0 comments: