Dwi eisiau rhoi 'plug' bach i'r rhaglen yma. Mae Barri yn brawd 'fach' i un o fy ffrindiau gorae ag dwi wedi gweld ei daith o dechrau yn yr byd reslo i lle mae o heddiw.
Dwi'n gwybod fod ei deulu a'i adal yn hynod falch o'i llwyddiant:
Portread o reslar proffesiynol ar S4C
Fe gawn ni olwg o’r newydd ar y reslar proffesiynol o Gymru, Barri Griffiths, mewn rhaglen ddogfen ddifyr ar S4C nos Fercher, 1 Medi.
Bu camerâu cwmni Antena yn dilyn y cawr chwe troedfedd chwe modfedd a 21 stôn o Dremadog, Gwynedd wrth iddo baratoi i fynd i America i ennill ei fara menyn fel reslar gyda’r WWE, y cwmni reslo mwyaf yn y byd.
Yn y rhaglen Barri Griffiths: Y Reslar, cawn weld sut y cafodd Barri y cyfle anhygoel yma a byddwn yn dilyn ei fywyd yn ystod y misoedd allweddol hynny cyn iddo symud i Tampa Bay, Florida.
Mae Barri bellach yn Florida ers rhai misoedd ac eisoes wedi ennill un o’r teitlau pwysicaf yno, sef y FCW Florida Heavyweight Champion.
Barri Griffiths: Y Reslar, Nos Fercher,1 Medi, 21/30, S4C.
Ail ddarllediad; 16/00, Dydd Sul, Medi 5
0 comments:
Post a Comment