MELYSION MELYSION MELYSION »

20.9.06

Gwynt Stormus y Gogledd

Dwi'n y swyddfa unwaith eto ac mae'r gwynt yn chwythu'n ffyrnig fel plentyn yn cael stranc. Y lle gorau i fod ar diwrnod fel hyn yw o flaen y tân!

Yn edrych nôl ma'r pythefnos wedi bod yn un cymysg - yn sâl efo ffliw, mewn dau parti yn Ring Llanfrothen ag i fynny'r Cnicht ar prynhawn heulog. Dwi wedi bod yn treulio gormod o amser ar e-bay ag yn ceisio gwerthu fy mhethau arno. Dwi wedi neud elw o 30c hyd yn hyn!

Dyw'r hwyl ddim drosodd eto! Y penwythnos yma gennai noson yn Dolgellau, gig yn Mhorthmadog ag mwy o amser ar e-bay!
Dwi wedi cyffroi yn barod!!

18.9.06

Tân y Ddraig yn y Faenol

Noson oer a gwlyb ar ddiwedd mis Awst, ond un o nosweithiau mwyaf gwefreiddiol y dyddiadur byd cerddoriaeth Gymraeg.

Codais i, a miloedd eraill, fy mhac ac anelu am Tân y Ddraig yn y Faenol. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi bod yn yr ŵyl o'r blaen, er mai hon yw'r seithfed i gael ei chynnal bellach.

Ar ôl torri calon am hyd y ciw, synnais mor gyflym yr es i i mewn i'r prif gae. Roedd cryn dipyn o bobol yn eistedd y tu allan yn yfed o ganlyniad i'r gwaharddiad ar ganiau a gwydr. Ar y pryd doedd hyn ddim yn peri problem i mi oherwydd mae hi'n rheol yr ydyn ni wedi hen arfer â hi yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau bellach.


Ond darganfyddais drannoeth mai hon oedd yr unig noson lle gorfodwyd y gwaharddiad yma. Dwi yn cytuno gyda'r reol ond dylai gael ei gweithredu drwy gydol yr ŵyl yn y dyfodol.

Gelwir y noson hon yn noson y werin, ac roedd y werin allan yn un llu. Roedd pobol o bob cenhedlaeth yno'n mwynhau cantorion fel Elin Fflur, The Proclaimers ac Anweledig. Roedd yr hen blant yn rhedeg o gwmpas wedi cynhyrfu'n lân am iddynt gael bod yno.


Profiad gwych oedd gweld Huw Jones yn fyw gyda band ysblennydd a Heather Jones yn ymuno ag o ar y llwyfan. Digrif oedd y merched canol oed yn rhuthro i gael gweld yn well ac yn sgrechian wrth i'w ffefryn ddod ymlaen. Uchafbwyntiau ei berfformiad oedd Dŵr a Dwisio Bod Yn Sais - ymgasglodd y dorf yn y blaen i wneud dawns anhysbys, ond ymunodd pawb yn yr hwyl.


Rhwng pob un o'r bandiau mawr trydanol roedd sets acwstig gwych gan amryw o fandiau fel Brigyn a Dan Amor a gwnaeth hyn i'r amser rhwng pob band fynd heibio'n bleserus ac roedd yn atal diflastod.

Ond The Proclaimers oedd y band a gynhyrfodd y dorf a heidiodd pawb i'r llwyfan. Roedd pawb wedi cyffroi ar y dechrau, ond ciliodd hyn wrth iddynt ganu rhai o'u caneuon arafach. Mewn gwirionedd, dim ond un neu ddwy o ganeuon roedd y rhan fwyaf o bobol yn eu hadnabod, er hynny, pan ddaeth hi'n dro'r '500 miles' adnabyddus, gwallgofodd pawb unwaith eto.

Daeth Anweledig a'r glaw efo nhw o Flaenau Ffestiniog i'r Faenol ac roedd hi'n amhosib i unrhyw un aros yn sych. Ond roedd digon o bobol yn barod i ddawnsio fel mwncïod gwyllt i ganeuon fel Cae yn Nefyn a Dawns Y Glaw, er gwaetha'r drochfa.

Manteisiodd Anweledig ar y cyfle i arddangos rhai o'u caneuon newydd, er i'r prif leisydd, Ceri, gael trafferth cofio ei eiriau. Golygodd broblemau technegol hefyd bod rhaid disgwyl sbelan cyn i'r gerddoriaeth ddechrau ac roedd y band ar goll am beth i'w wneud a'i ddweud yn y cyfamser. Serch hynny roedd eu perfformiad yn llawn hwyl a gwên ac erbyn y diwedd roedd y dorf yn gweiddi am fwy.

Daeth Bryn Terfel allan i gloi'r noson gyda pherfformiad anhygoel o Hen Wlad Fy Nhadau dan y tân gwyllt a oedd yn ddiwedd perffaith i benwythnos llwyddiannus arall yn hanes Gŵyl y Faenol.

7.9.06

Defnydd newydd i faw defaid

Tro nesa fydd rhaid i chi yrru llythur beth am sgwennu ar 'Sheep Poo Paper'.

Mae'r papur yma yn rhoi ystyr newydd i ailgyrchu!

4.9.06

Saith Heddychwr Treth

Dwi wedi bod yn dilyn stori Siân Cwper a'r heddychwr treth ers sbel....

Dweud ei neges yn syml y mae Siân Cwper, fel petai’r peth yn gwbwl amlwg i bawb. Mae’n credu fod rhyfel yn anghywir, felly ddylai hi ddim gorfod cyfrannu ato.

Dyna’r union ddadl oedd gan Waldo Williams hanner can mlynedd yn ôl pan oedd yn gwrthod talu treth incwm yn brotest yn erbyn Rhyfel Corea.

ERTHYGL GOLWG

Mae gig yn Neuadd Hendre, Talybont, Bangor ar Nos Wener Medi 22 am 7:30 i godi arian i fynd a'i achos i Strasbourg.
Dwi'n gobeithio fydd pawb yn gallu dod i cenogi Siân.
Bandiau fydd yno : Estella - Mim Twm Llai- Cowbois Rhos Botwnog - Yr Annioddefol - Di Pravinho - Pwsi Meri Mew - Gwibdaith yr Hen Fran - Ellie Glitch - Simon Heywood

Mwy o wybodaeth : 01248 371116.
£6 ar y drws.

www.peacetaxseven.com

Drothwy'r hydref

Dwi'n teimlo'n afiach.
Mae'r partio dwi 'di neud dros yr hâ wedi troi i fewn i un 'hangover' enfawr.

YCH-A-FI!

Mae'r parti enfawr wedi gorffen; roedd Gwyl Macs yn ffordd wych i gloi'r hâf. Roeddwn i'n teimlo'n lluddedig - doedd y cwrw ddim yn helpu chwaith. Erbyn 11 roeddwn i'n y tent bach ecsentrig electro yn pendwmpian! Diolch byth am Tarw Goch! Wnes i godi i wylio'r Automatic yn gwneud set gwych i gloi'r ŵyl!

Dwi'n edrych 'mlaen i'r hydref; llai o ymwelwyr, fy mhenblwydd, bŵts, lliwiau natur. Wnes i weld yr haul yn machlud ar draeth Harlech neithiwr - anhygoel!! Roedd yr haul yn goch wrth iddo diflannu ar y gorwel ag roedd yr cymylau yn edrych yn piws wrth i'r machlud ei foddi mewn lliw.

Adegau fel rhain sydd yn gwneud bywyd yn hyfryd!