MELYSION MELYSION MELYSION »

4.12.06

Edrych ymlaen at y Nadolig.

Dwi wedi cael, osod, ag ardduno coeden yn barod!
Wnes i dreulio tuag awr yn ceisio cael darn o gelyn oddi'r goeden yn y gwynt a’r glaw - o ganlyniad dwi wedi brifo fy llaw ag celyn gyda llwyth o aeron yn grât y tân! Dydw i ddim yn berson DIY … wedi mi ceisio peintio fy llofft ag cael hanner tun o baent ar lawr. Dydw i ddim yn cael mynd yn agos i frwsh paent ers hynny!

Peth da am yr adeg yma o’r flwyddyn yw’r gwelliant yn rhaglenni teledu. Dwi wedi bod yn gwylio dramâu gan gynnwys ‘Robin Hood’, ond dwi wedi diflasu braidd arno erbyn hyn. Dwi’n edrych ymlaen At gyfres newydd o fy hoff raglen - ER. Dwi wedi gwylio dechrau’r un cyntaf ar ‘You Tube’ achos roeddwn i’n ysu gwybod beth ddigwyddodd i rhai cymeriadau ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf.

Dwi’n trio peidio gwylio gormod o deledu ag darllen mwy. Dwi ar fin dechrau llyfr Dewi Prysor ag yn edrych ymlaen wedi ffrind argymell o.

Dwi am fod yn greadigol a gwneud cardiau 'dolig y flwyddyn yma. Mewn wythnos dwi wedi gwneud 10 cerdyn… ella fydd rhaid i mi gael pecyn rhag ofn dwi heb di gorffen cyn y Nadolig!

9.11.06

Gwnewch bopeth yn Gymraeg!!

Dwi wedi cael swydd newydd a dwi ar fin gorffen yr ail wythnos. Dwi’n gwneud marchnata i theatr leol sydd yn cael ei anwybyddu gan y wasg achos fod theatrau lawer mwy yn yr ardal. Mae’n lle braf i weithio gyda staff cyfeillgar.

Roed rhaid i mi fynd i Lanfair ym Muallt am gyfarfod ddoe. Mae’n drist fod y Gymraeg ddim i’w glywed ar strydoedd pentrefi fel hyn ac nid oes neb yn y siopau yn dallt yr iaith. Dwi wedi cael fy annog i ddechrau ‘popeth yn Gymraeg’ wedi mi wylio cyfres Ifor ap Glyn ac ers i mi dechrau bob sgwrs yn Gymraeg dwi wedi cael rhai ymatebion anfoesgar yn enwedig gan bobol sy’n gweithio yn siopau. Un gwaetha oedd yn Harlech lle wenes i ofyn pris rhywbeth. Yr ateb ges i oedd “ENGLISH!”. Wnes I gerdded allan o’r siop yn syth heb brynu dim! Os wneith pawb sy’n siarad Cymraeg yr un peth ella wneith y bobol flin yma fynd i wersi Cymraeg (dwi’n tybio gwnânt nhw ddim ond rhaid meddwl yn bositif.)


20.10.06

Diwedd yr wythnos

Mae'r wythnosau diwethaf wedi bof yn ddistaw, heblaw am dathlu fy mhenblwydd. Wnes i fynd allan am pryd o fwyd efo Mam a Dad ag wedyn gwylio DVD efo nhw. Roedd hi'n diwrnod braf achos dwi heb 'di dathlu diwrnod fy mhenblwydd efo fy rhieni ers i mi fod yn 21.

Wnes i fynd i Manceinion ar y penwythnos i dathlu gyda ffrindiau - lot o hwyl! Wnes i wario llwyth yn y siopa hefyd ag rwan rhaid i mi aros adra a ceisio arbed pres : (

Dwi wedi symyd tŷ ac dwi'n gobeithio fydd hyn yn dechrau newydd i mi. Mae'r tŷ yn bendigedig ac rwyn gobeithio gallai defnyddio yr un gair am fy ngyrfa cyn bo hir!

Ar hyn o bryd dwi'n edrych ymlaen i 2007 ac yn sgwennu lawr fy obeithion i'r flwyddyn. Os dwi'n gwybod be dwisio rwan mae gen i'r cyfle i newid pethau yn fy mywyd i helpu mi gyflawni nhw.

18.10.06

UN DIWRNOD MEWN HANES

Dwi wrth fy modd gyda'r flogiau ar y safle 'History Matters'. Mae'r blogiau yn cael ei storio yn y Llyfrgell Brydeinig er mwyn iddo fod ar gael i genedlaethau’r dyfodol. Mae hi'n diddorol i dallen am bywydau pobol eraill arferol fel fi.

Mae yna lle i sgwennu flogiau Cymraeg a rhai Saesneg felly dwi wedi neud un yn bob iaith.

Dyma'r wefan:


www.historymatters.org.uk

7.10.06

'Doniau disglair'

Adolygiad - Pwsi Meri Mew, Y Rei a Derwyddon Dr Gonzo - Tŷ Newydd, Sarn.


Dwi'n teimlo'n lwcus fy mod i'n bodoli yn ystod un o'r adegau bywiocaf yn hanes cerddoriaeth Gymraeg gogledd orllewin Cymru.

Mae'n amlwg o edrych yn ôl ar berfformiadau byw yr haf yma fod cerddoriaeth gyffrous yn fyw ac yn iach yn fy ardal.Derwyddon Dr Gonzo

Yn ddiweddar cefais y fraint o weld tri band eithaf newydd, ac mae dyfodol disglair ar y gorwel i bob un ohonynt.

Pan gyrhaeddais Dŷ Newydd roedd y dafarn yn orlawn, ac aelodau o fandiau eraill ymhlith y gynulleidfa gyffrous. Roedd yr awyrgylch yn groesawgar ac roedd naws parti yn Sarn wrth i bobl drafod y perfformiadau i ddod.

Daeth y dorf ynghyd yn y bar cefn lle roedd Pwsi Meri Mew ar fin dechrau. Cychwynnodd y noson yn arbennig gyda'u set acwstig. Roedd y dorf yn amlwg yn mwynhau pan gododd sawl un ar eu traed i ddawnsio. Hwn oedd y tro cyntaf i mi weld Pwsi Meri Mew a, chyda melodica yn cael ei chwarae mewn gig byw, 'dw i'n gobeithio gweld llawer mwy! Cawsom wledd o ffync gan y band yn ogystal, gyda chaneuon fel 'Y Gnawas'.

Roedd y band nesaf yn paratoi a cherddoriaeth yn parhau yn y cefndir. Bydd llawer o bobl eisoes yn adnabod aelodau Y Rei; Aron Elias, gynt o Pep le Pew ac aelodau Gola Ola, Alex a Rich.

Yn llawn egni a hyder, agorodd y band eu set gyda 'Misirlu', Pulp Fiction a chydiasant yn y dorf gyda rhai o'u caneuon gorau, gan gynnwys fy ffefryn 'Hogan Ddrwg'.

Roedd pawb yn mwynhau eu caneuon - 'Mitsubishi' a 'Psychoprydferth' yn enwedig.

Roedd eu roc egnïol yn plesio'r gynulleidfa a dweud y lleiaf, ac roedd unawd gitâr Aron yn anhygoel, heb sôn am adael y llwyfan gydag un o draciau James Brown.

Mae Y Rei yn mynd o nerth i nerth a 'dw i'n rhagweld dyfodol disglair (ar sail y noson yma'n unig) i'r band unigryw hwn sydd wir yn fy nghyffwrdd.

Roedd gan Derwyddon Dr Gonzo waith i'w wneud os am ddilyn Y Rei. Dw i wedi clywed peth wmbrath am y band ifanc yma o ardal Llanrug, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Ond roedd hi'n amlwg fod llawer o'r dorf wedi dod yn arbennig i'w gweld.

Daeth Brasil i Sarn drwy samba trawiadol Derwyddon Dr Gonzo a'r llwyfan yn orlawn gyda chymaint o aelodau. Ymunodd aelodau meddw o'r gynulleidfa gyda nhw hefyd.

Daeth yr MCs i'r meic yn ystod y gân 'Talwrn y Beirdd' ar ffurf Mr Phormula ac Aron Elias, a rhaid i mi ddweud fy mod i wedi eu mwynhau yn fawr.

Roedd hi'n noson lwyddiannus dros ben gyda pherfformiadau rhyfeddol a gwahanol gan bob band. Roedd y noson arbennig hon o frodorion cerddorol Gwynedd yn llawn egni a mwynhad. Dw i'n falch fy mod yn dod o ardal mor dalentog.

20.9.06

Gwynt Stormus y Gogledd

Dwi'n y swyddfa unwaith eto ac mae'r gwynt yn chwythu'n ffyrnig fel plentyn yn cael stranc. Y lle gorau i fod ar diwrnod fel hyn yw o flaen y tân!

Yn edrych nôl ma'r pythefnos wedi bod yn un cymysg - yn sâl efo ffliw, mewn dau parti yn Ring Llanfrothen ag i fynny'r Cnicht ar prynhawn heulog. Dwi wedi bod yn treulio gormod o amser ar e-bay ag yn ceisio gwerthu fy mhethau arno. Dwi wedi neud elw o 30c hyd yn hyn!

Dyw'r hwyl ddim drosodd eto! Y penwythnos yma gennai noson yn Dolgellau, gig yn Mhorthmadog ag mwy o amser ar e-bay!
Dwi wedi cyffroi yn barod!!

18.9.06

Tân y Ddraig yn y Faenol

Noson oer a gwlyb ar ddiwedd mis Awst, ond un o nosweithiau mwyaf gwefreiddiol y dyddiadur byd cerddoriaeth Gymraeg.

Codais i, a miloedd eraill, fy mhac ac anelu am Tân y Ddraig yn y Faenol. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi bod yn yr ŵyl o'r blaen, er mai hon yw'r seithfed i gael ei chynnal bellach.

Ar ôl torri calon am hyd y ciw, synnais mor gyflym yr es i i mewn i'r prif gae. Roedd cryn dipyn o bobol yn eistedd y tu allan yn yfed o ganlyniad i'r gwaharddiad ar ganiau a gwydr. Ar y pryd doedd hyn ddim yn peri problem i mi oherwydd mae hi'n rheol yr ydyn ni wedi hen arfer â hi yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau bellach.


Ond darganfyddais drannoeth mai hon oedd yr unig noson lle gorfodwyd y gwaharddiad yma. Dwi yn cytuno gyda'r reol ond dylai gael ei gweithredu drwy gydol yr ŵyl yn y dyfodol.

Gelwir y noson hon yn noson y werin, ac roedd y werin allan yn un llu. Roedd pobol o bob cenhedlaeth yno'n mwynhau cantorion fel Elin Fflur, The Proclaimers ac Anweledig. Roedd yr hen blant yn rhedeg o gwmpas wedi cynhyrfu'n lân am iddynt gael bod yno.


Profiad gwych oedd gweld Huw Jones yn fyw gyda band ysblennydd a Heather Jones yn ymuno ag o ar y llwyfan. Digrif oedd y merched canol oed yn rhuthro i gael gweld yn well ac yn sgrechian wrth i'w ffefryn ddod ymlaen. Uchafbwyntiau ei berfformiad oedd Dŵr a Dwisio Bod Yn Sais - ymgasglodd y dorf yn y blaen i wneud dawns anhysbys, ond ymunodd pawb yn yr hwyl.


Rhwng pob un o'r bandiau mawr trydanol roedd sets acwstig gwych gan amryw o fandiau fel Brigyn a Dan Amor a gwnaeth hyn i'r amser rhwng pob band fynd heibio'n bleserus ac roedd yn atal diflastod.

Ond The Proclaimers oedd y band a gynhyrfodd y dorf a heidiodd pawb i'r llwyfan. Roedd pawb wedi cyffroi ar y dechrau, ond ciliodd hyn wrth iddynt ganu rhai o'u caneuon arafach. Mewn gwirionedd, dim ond un neu ddwy o ganeuon roedd y rhan fwyaf o bobol yn eu hadnabod, er hynny, pan ddaeth hi'n dro'r '500 miles' adnabyddus, gwallgofodd pawb unwaith eto.

Daeth Anweledig a'r glaw efo nhw o Flaenau Ffestiniog i'r Faenol ac roedd hi'n amhosib i unrhyw un aros yn sych. Ond roedd digon o bobol yn barod i ddawnsio fel mwncïod gwyllt i ganeuon fel Cae yn Nefyn a Dawns Y Glaw, er gwaetha'r drochfa.

Manteisiodd Anweledig ar y cyfle i arddangos rhai o'u caneuon newydd, er i'r prif leisydd, Ceri, gael trafferth cofio ei eiriau. Golygodd broblemau technegol hefyd bod rhaid disgwyl sbelan cyn i'r gerddoriaeth ddechrau ac roedd y band ar goll am beth i'w wneud a'i ddweud yn y cyfamser. Serch hynny roedd eu perfformiad yn llawn hwyl a gwên ac erbyn y diwedd roedd y dorf yn gweiddi am fwy.

Daeth Bryn Terfel allan i gloi'r noson gyda pherfformiad anhygoel o Hen Wlad Fy Nhadau dan y tân gwyllt a oedd yn ddiwedd perffaith i benwythnos llwyddiannus arall yn hanes Gŵyl y Faenol.

7.9.06

Defnydd newydd i faw defaid

Tro nesa fydd rhaid i chi yrru llythur beth am sgwennu ar 'Sheep Poo Paper'.

Mae'r papur yma yn rhoi ystyr newydd i ailgyrchu!

4.9.06

Saith Heddychwr Treth

Dwi wedi bod yn dilyn stori Siân Cwper a'r heddychwr treth ers sbel....

Dweud ei neges yn syml y mae Siân Cwper, fel petai’r peth yn gwbwl amlwg i bawb. Mae’n credu fod rhyfel yn anghywir, felly ddylai hi ddim gorfod cyfrannu ato.

Dyna’r union ddadl oedd gan Waldo Williams hanner can mlynedd yn ôl pan oedd yn gwrthod talu treth incwm yn brotest yn erbyn Rhyfel Corea.

ERTHYGL GOLWG

Mae gig yn Neuadd Hendre, Talybont, Bangor ar Nos Wener Medi 22 am 7:30 i godi arian i fynd a'i achos i Strasbourg.
Dwi'n gobeithio fydd pawb yn gallu dod i cenogi Siân.
Bandiau fydd yno : Estella - Mim Twm Llai- Cowbois Rhos Botwnog - Yr Annioddefol - Di Pravinho - Pwsi Meri Mew - Gwibdaith yr Hen Fran - Ellie Glitch - Simon Heywood

Mwy o wybodaeth : 01248 371116.
£6 ar y drws.

www.peacetaxseven.com

Drothwy'r hydref

Dwi'n teimlo'n afiach.
Mae'r partio dwi 'di neud dros yr hâ wedi troi i fewn i un 'hangover' enfawr.

YCH-A-FI!

Mae'r parti enfawr wedi gorffen; roedd Gwyl Macs yn ffordd wych i gloi'r hâf. Roeddwn i'n teimlo'n lluddedig - doedd y cwrw ddim yn helpu chwaith. Erbyn 11 roeddwn i'n y tent bach ecsentrig electro yn pendwmpian! Diolch byth am Tarw Goch! Wnes i godi i wylio'r Automatic yn gwneud set gwych i gloi'r ŵyl!

Dwi'n edrych 'mlaen i'r hydref; llai o ymwelwyr, fy mhenblwydd, bŵts, lliwiau natur. Wnes i weld yr haul yn machlud ar draeth Harlech neithiwr - anhygoel!! Roedd yr haul yn goch wrth iddo diflannu ar y gorwel ag roedd yr cymylau yn edrych yn piws wrth i'r machlud ei foddi mewn lliw.

Adegau fel rhain sydd yn gwneud bywyd yn hyfryd!

29.8.06

Wedi cynhyrfu'n lân

Mae bob asgwrn yn brifo ag mae'r stumog ddim yn iawn.
Dyma beth yw canlyniad Gwyl Y Banc... diwrnod yn fwy i meddwi'n wirion. Dwi yn meddwl fy mod i wedi mynd dros ben llestri ar nos Sul. Bai fi am creu cocktails yn bob tafarn drwy gymysgu llwyth o wahanol diodydd mewn un gwydr - byth eto...BYTH ETO!!


Dyma oedd fy ngeiriau ar Dydd Mawrth. Nawr wedi tri diwrnod o dim diodydd meddwol dwi'n barod am penwythnos yn
Gwyl Macs. Dwi'n edrych mlaen i weld bach o hip hop gan Chef a Sleifar, Swci Boscawen, Radio Lux, y beatboxer Killa Kela, Nicky Wire a'r Automatic!! Dwi'n teimlo fel hogan bach ar fîn mynd i'r siop da-da gorau y byd (wel yn Cymru eniwê).



25.8.06

Galon Drom


Prynhawn Wener, ar ôl andros o wythnos hir.

Yr unig peth sydd yn mynd drwy fy meddwl yw "beth arall all fynd o'i le?"
Ers Dydd Sul dwi wedi cloi goridadu car yn y bŵt, ffiwsio'r cawod, cael llythur aflwyddiannus am swydd, anghofio goriadau gwaith, cael llythur blin o'r banc, cael fy'n nginio 'di llechio i'r sbwriel gan aelod arall o staff (camgymeriad), fynd ar goll yn Wrecsam, tollti saws coch dros y car....ag mwy! Dwi wedi blino ag wedi bod yn agos i dagrau sawl gwaith ~ dwi'n haeddu peint ta be!

Ond rhaid bod yn positif - dwi wedi gweld ffim gwych -
Like Water for Chocolate (Como agua para chocolate) , cael CDs newydd ag darllen a mwynhau 'A Long Way Down' gan Nick Hornby.

Neithiwr wnes i a ffrind penderfynu mynd i lan y môr.
Roedd hi'n noson mor braf roedd rhaid i mi fynd a'r camera:

23.8.06

Hel Meddyliau

Dydd Mercher.....

Dwi'n y swyddfa eto yn hel meddyliau am beth i wneud dros y gaeaf. Erbyn diwedd mis Awst fydd hi'n he bryd i mi gael uffar o 'detox' a mynd i'r gym yn lle meddwl amdano. Chwarae teg, dwi wedi bod yn cerdded milltiroedd dros yr hâf diolch i'r tywydd braf.

Dwi am ceisio sgwennu llyfr dros y blwyddyn nesaf - ond mae yna gwi'r i'r dywediad "Haws dweud na gwneud". Dwi wedi dechrau sawl stori ond dwi'n colli diddordeb ar ol dipin gan bod gymaint o petha eraill yn llenwi fy mhen.

Dwi wedi sgwennu tair blog ers i mi dechrau Melysion ddoe. Ar hyn o bryd allai sgwennu pan dwi'n y gwaith, ond gawn ni weld faint fwy fyddai yma!

22.8.06

'Hillbilly punk'

Adolygiad - Cowbois Rhos Botwnnog / Bob, Tŷ Newydd, Sarn, 4/6/2006




"Mae Tŷ Newydd Sarn wedi cael enw fel un o lefydd gorau gogledd orllewin Cymru i weld bandiau byw. Dydi'r dafarn sydd ynghanol Pen Llŷn ddim yn edrych yn wahanol i unrhyw dafarn arall yng nghefn gwlad Cymru, ond y tu mewn ceir noson o gerddoriaeth Gymraeg ar ei gorau.

Wedi gyrru ar hyd y lonydd troellog tu hwnt i Bwllheli roedd gweld Tŷ Newydd yn olwg cysurlon. Roedd criw o ddynion wedi ymgynnull wrth y drws a chefais wên fawr gan un oedd yn edrych yn chwil a dweud y lleiaf! Y tu mewn roedd y lle yn llawn pobl yn dathlu ac yn groesawus iawn i'r ddau ddiethryn. Er i'r noson ddechrau ychydig yn hwyr roedd pawb yn ddigon hapus yn sgwrsio a mwynhau'r parti pen-blwydd oedd yn digwydd yno.

Mewn chwinc roedd aelod o'r staff yn bloeddio fod y band cyntaf am ddechrau. Diflanodd pawb, gan gynnwys finnau, i mewn i'r ystafell gefn i sŵn offerynau BOB. Mae'r band ifanc yma yn dechrau cael ei ystyried fel un o'r bandiau gorau sydd wedi dod ar y sîn yn ddiweddar drwy eu cerddoriaeth roc caled sydd yn ffinio ar punk. Uchafbwynt eu perfformaid oedd y sengl gafaelgar a hwyliog 'Defaid' - roeddwn i'n dal i ganu'r gytgan wrth yrru am adref! Er nad oedd ymateb y dorf yn arbennig, doedd hynny ddim yn lleihau egni'r band. Wedi dweud hynny hoffwn i fod wedi gweld mymryn mwy o rocio ar y llwyfan gan rai o'r aelodau.

I'r rheini ohonon ni oedd wedi eistedd yng nghongl bellaf yr ystafell, roedd seibiant bach rhwng y ddau fand yn braf. Ar ol peint sydyn roedd Twm Colt, Edgar Sgarled a Dei Morlo wedi cyrraedd ar eu ceffylau dychmygol o Fotwnnog ac yn barod ar y lwyfan. Mae hillbilly punk Cowbois Rhos Botwnnog wedi cael llwyth o sylw yn ddiweddar, yn enwedig am eu perfformiadau byw; ac nid oedd y noson yma'n siom. O'r dechrau roedd pobl yn dawnsio i gerddoriaeth nodweddiadol Cowbois Rhos Botwnnog. Mae'n anodd peidio eistedd yn eich unfan pan fo caneuon fel 'Y Moch' a 'Cadfridog Cariad' yn chwarae. Drwy'r ystafell roedd pobl o bob oedran yn nodio eu pennau i bob curiad y drwm ac roedd y rhan fwyaf o'r dorf yn canu'r geiriau i ffefrynnau fel 'Musus Glaw'. Roedd hi'n noson llawn hwyl, diod, dawnsio a cherddoriaeth at ddant pawb.

Mae'n anhygoel meddwl fod y band yma wedi gwneud eu perfformiad cyntaf ychydig dros flwyddyn yn ôl oherwydd safon uchel eu perfformaid. Mae'n glir fod y band yma yn dechrau ar daith wefreiddiol ym myd roc a phop Cymru ac mae ganddynt ddigon o gefnogwyr i'w dilyn ar eu taith i'r brig."

Y Blog Cyntaf

Wedi i mi ddrallen blogs Cymraeg dwi'n meddwl mae'n hen bryd i mi gael blog fy hyn.

Fel y welwch mae fy'n Ngymraeg i'n bell o fod yn perfaith ond dwi'n gobeithio gwella yn y misoedd nesa'. Dwi'n siarad Cymraeg fel un o fy ieithoedd cyntaf (siarad saesneg i mam - Gwyddal - a Cymraeg i dad) ond dwi heb di byw yn Cymru ers 1998 pan es i'r prifysgol. Ond nawr mae hiraeth wedi do a fi ynol i Gymru.

Mae hi'n prynhawn dydd Mawrth ar diwedd mis Awst. Mae'r gwynt yn oer ond mae'r ffenest yn agored. Mae'r byd yn ddistaw...am nawr.