MELYSION MELYSION MELYSION »

23.1.07

Cysylltiadau Celtaidd

Mae’r mynyddoedd yn wyn a’r aer mor oer allwch chi flasu o. Dwi wrth fy modd efo boreau fel hyn. Roedd cot wen y mynyddoedd yn llachar, yn enwedig yr Wyddfa. Mae hi wedi bod yn aeaf twym i gymharu efo rhai blynyddoedd, ond mae’n edrych fel bod yr oerni wedi cyrraedd!

Yr wythnos yma dwi’n mynd i’r ŵyl
Cysylltiadau Celtaidd yn yr Alban. Dwi’n neud y daith traws-gwlad ar drên, a dwi’n pryderu am y siwrne - tybed os fydd eira yn rhwystro ein siwrne. Does gen i ddim llawer o ots am y ffordd adra ond dwi’n edrych blaen gymaint dydw i ddim eisiau methu dim!

Mae Cysylltiadau Celtaidd gyfle i weld bandiau o bob rhan o’r byd perfformio yn ‘Showcase Scotland’, y prif ddigwyddiad dros yr ŵyl. Wnâi adrodd nôl gyda rhai o fy anturiaethau yn yr Alban yn fuan iawn…

17.1.07

Pobi a Pop

(Torth debyg i'r un wnes i)

Wedi mi fynd adra o'r gwaith wnes i benderfynu gwneud 'soda bread'. Dwi heb neud un ers sbel a dwi'n anghofio pa mor hawdd ydi coginio un.
Roedd y gegin yn edrych fel hunlle ond es i allan am dro yn lle glanhau yn syth.
Ar ôl taith cerdded yn y gwynt a'r glaw roedd y bara yn barod. Ges i gawl cennin a bara ffres fel gwobr am neud yr ymdrech i gadw heini - bendigedig!

Mae'r amser noson gwobrwyo RAP Radio Cymru wedi cyrraedd unwaith eto. Roedd 2006 yn flwyddyn dda i gerddoriaeth Gymraeg felly fydd hi'n ddiddorol i weld pa fandiau wenith ennill. Fel rheol mae nosweithiau gwobrwyo yn bethau diflas dros ben ag yn ddim byd mwy nag pobol yn llongyfarch ei hunain ar faint mae'r diwydiant yn caru nhw ag cyfryngis jest a phiso'i thrôns i weld pobol yn bihafio yn roc a rôl! Ond ga'i weld os ydi rhai Cymraeg yn mynd yn erbyn y drefn!

8.1.07

Dechrau da i '07

Dwi yn fy ngwaith am y tro cyntaf yn 2007.
Roedd hi’n uffar o job cael fy hun allan o’r gwely bore ma’. Neithiwr wnes i osod fy larwm yn fuan achos ges i’r syniad yn fy mhen o godi’n fuan a gwneud llwyth o bethau cyn i mi adael yr ty…ond unwaith eto wnes i adael yn hwyr gyda fy ngwallt fel nyth fran a phethe’n disgyn o fy mag wrth i mi rhedeg i’r car.

Roeddwn i’n drist i glywed am farwolaeth James Brown ar ddiwrnod 'Dolig. Roedd o’n ganwr anhygoel a dwi’n difaru peidio mynd i weld o dra roeddwn i’n byw yn Llundain - ond felly mae bywyd!

4.1.07

Bulmers yn Kerry.

Dwi wedi bod yn y Werddon am wythnos yn mwynhau'r Bulmers a bach o’r Guinness. Roedd brêc bach o fywyd bob dydd yn fendigedig! Er fy mod i wrth fy modd efo’r Nadolig mae’r rhedeg o gwmpas yn paratoi yn waith blinedig!

Wnes i fynd i Killarney gyda ffrindiau o ogledd Cymru i ddathlu’r diwedd 2006 a dechrau’r flwyddyn newydd. Fyddai’n treulio bob blwyddyn newydd yn Iwerddon, bach o newid o’r tafarndai lleol ac mae’n cyfle gweld teulu ar y ffordd adref.

Wnes i dreulio wythnos yn ymlacio, cerdded, reidio ceffylau a mwynhau bywyd. Roedd hi’n lle hynod o groesawus ag yn llawn o bobol yn chwilio am hwyl a sbri i’r oriau man.


Wnes i neud trip o gwmpas y ‘Ring of Kerry’ ar ddiwrnod cynta’ flwyddyn, ag er i mi gael ychydig bach o gwsg y noson cynt wnes i fwynhau gweld y golygfeydd anhygoel a mynd i bentrefi bach a chyfarfod y bobol leol dros beint. Dwi heb ‘di bod i’r ardal ers i mi fod yn blentyn ond dwi wedi dod adref gyda thomen o atgofion melys i wneud i mi wenu yn y tywydd sâl ma’!


BLWYDDYN NEWYDD DDA!!