MELYSION MELYSION MELYSION »

8.3.10

Noson Croeso Cymru

Bydd Côr Meibion Cymry Dulyn yn cynnal eu "Noson Croeso Cymru" ar nos Wener, 12 Mawrth, y noson cyn y gêm rygbi rhwng Iwerddon a Chymru. Bydd hon yn cymryd lle yng ngwesty'r Grand Canal, Grand Canal Street, Dulyn 4. Cynnigir adloniant yn y Gasworks Bar o 9yh ymlaen. Mae'r pris mynediad yn 8 Ewro, sydd yn cynnwys un ddiod am ddim.
Croeso cynnes i bawb!

Os ydych chi wedi gwella ar ôl holl weithgareddau'r noson gynt, gallwch glywed Jonathan Davies cyn y gêm yn rhoi sesiwn Holi ac Ateb am ddim yng Ngwesty'r Arlington, wrth Bont O'Connell am 11yb ar fore'r Sadwrn, 13 Mawrth.

http://www.draigwerdd.org/Cymraeg.htm

5.3.10

Siglo'r rhyngrwyd

Dwi wedi bod yn defnyddio Twitter ers diwedd 2009, ag dwi wrth fy modd.
Dwi'n meddwl am beth dwi am bostio ar wahanol adegau yn ystod y dydd: wrth aros am fws, mynd i'r arfarchnad - hyd yn oed yn gwaith. Yr foment yma, wrth sgwennu'r geririau yma, dwi'n meddwl am pethau i ddweud.
(Bach yn sad ella)

Diolch byth fy mod i wedi blino arno ychydig, ag yn defnyddio Twitter mwy fel lle i gweld be sy'n digwydd yn y byd ag yn enwedig beth sydd yn digwydd yn Iwerddon.

Un o'r pethau fwya' ym myd Twitter Iwerddon yw Crystal Swing.
Mae'n debyg fydd rhan fwyaf o bobol heb 'di clywed o'r band yma, ond mae nhw'n dechrau cael sylw tu allan i'r Y
nys Werdd - mae hyd yn oed Ellen DeGeneres wedi postio linc iddyn nhw! Gallwch fwynhau Crystal Swing ar You Tube neu darllen amdanynt yma: www.crystalswing.com

4.3.10

Strancio!

Mae gwleidyddiaeth yn Iwerddon wedi bod yn llawn blerwch ag sgandal yn yr wythnosau diwethaf. Yn gyntaf wnaeth George Lee ymadael y plaid Fine Gael. Roedd Lee wedi gadael ei swydd fel golygydd economaidd yn RTÉ i rhedeg fel TD (Teachta Dála) ag enillodd ei sedd yn hawdd. Roedd Lee yn teimlo fod o ddim yn cael dylanwad ar polisiau economaidd y plaid ag gadewodd llawn ysblander. Roedd yr wasg wedi cynhyrfu gyda'r newyddion, felly pan dechreuodd fwy o pobol gadael roedd nhw wrth eu bodd. Ers hynny, mae'r Plaid Werdd wedi colli Déirdre de Búrca, Willie O'Dea [am awgrymu fod cysylltiadau rhwng cynghorydd Sinn Féin ag puteindy] ag wedyn Trevor Sargent [dros llythyr sgwenodd i gardaí ynglyn a ymchwyliad troseddol]. Mae pawb nawr yn gofyn pwy fydd nesa?

1.3.10

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!!

Wnes i gwenud cyfweliad bore' ma gyda BBC Radio Cymru am sut dwi'n dathlu draw yn Iwerddon ag am dathliadau Sant Pádraig.

Yma yn Nulyn, cafwyd noson llawn hwyl ar Nos Wener pan daeth y cymdeithas Cymraeg (www.draigwerdd.org) at ein gilydd mewn tafarn wrth ochor y camlas i dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Roedd adloniant ar y noson yn Côr Meibion Cymry Dulyn, ag wedyn eisteddodd pawb i wylio gêm Ffrainc v Cymru (wnawn ni ddim sôn am hynny). Roedd criw o tua 10 o'r rhai ifanc (gan gynnwys minnau) wedi gorffen y noson mewn clwb gerllaw ag wnes i wir fwynhau'r noson.

I weld lluniau rhai o'r Cymru yn Iweddon ewch i weld lluniau Aled Thomas:
www.flickr.com