MELYSION MELYSION MELYSION »

9.1.10

Gwlad o iâ

8.1.10

Hwyl fawr 2009...Croeso i 2010

Roeddwn i wedi dechrau sgwennu'r nodyn yma dros yr Nadolig, ond gan fod na gymaint o hwyl a sbri i'w gael wnes i anghofio y blog.

"Mae 2009 bron ar ben ag fydd degawd newydd yn dechrau."
Wel, mae 2010 wedi dechrau ag mae hi'n un oer hyd yn hyn.

"Mae'r 'naughties' wedi bod yn 10 mlynedd diddorol yn fy mywyd ag yn hanes y byd."
Gwir iawn, gwir iawn. Ond amser edrych ymlaen. Dwi heb 'di neud addunedau Blwyddyn Newydd ar gyfer 2010, ond dwi wedi sgwennu rhestr o bethau dwi eisiau cyflawni yr flwyddn yma. Er engraifft, cael stamp arall yn y pasport ag fynd i cerdded fwy. Dwi eisiau flogio'n amlach, ond mae'n haws deud na' neud!

"Pwy fuasai'n meddwl pan daeth hanner nos yn 1999 fod pethau fel y maent. Mae gan yr Unol Dalethau arlywydd du, yn 2002 daeth yr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i bodolaeth..."
ag dyna lle orffenais. Mae'r degawd diwethaf wedi bod yn un diddorol, er roedd 2009 yn flwyddyn 'anodd iawn i lawer o bobol. Roeddwn i yn Gymru dros yr Nadolig ag yr Flwyddyn Newydd ag roedd llawer yn dweud bod nhw wedi colli swydd yn 2009. Mae rhai wedi symyd yn ôl i'r Gogledd fel canlyniad ag er bod rhai wedi cael swyddi newydd mae llawer dal yn chwylio am waith. Mae rhai wedi mynd am newid gyrfa neu mynd nôl i'r coleg i astudio. Dwi'n gobeithio fydd 2010 yn blwyddyn lot fwy ffeind.

Beth bynnag, dyma llun o gig yn Tŷ Newydd, Sarn. Noson i'w gofio!