MELYSION MELYSION MELYSION »

26.7.10

Oes 'na bobol?

Mae'r blog yma ar fin dathlu 5 mlynedd mewn bodolaeth.

Ar y dechrau roedd fy mlog yn lle i postio adolygiadau gigs Cymraeg ag i ysgrifennu am yr byd o'm cwmpas. Yn yr 5 mlynedd ers i mi dechrau flogio yn yr Gymraeg mae rhai o fy hoff flogiau wedi cau lawr ond dwi wedi ceisio cadw hwn i fynd.

Yn diweddar rwyf wedi dechrau blog Saesneg i fynd efo fy nhyfrif ar Twitter ag yn yr mis diwethaf mae mwy o pobol wedi gadael sylwadau yno nag ydw i wedi cael mewn 5 mlynedd o flogio yma.

Dwi'n darllen rhai flogiau drwy Blogiadur.com ag wedi rhoi sylwadau ar rhai ohonyn nhw ond dydw heb clywed llawer am beth mae pobol yn meddwl o fy mlogiau. Ella dwi ddim yn aelod o'r byd o blogwyr, ella mae pobol yn meddwl fod fy mlog yn ddiflas, ella mae'r cymmuned o blogwyr Cymraeg yn ddiog...pwy a wyr. Heb sylwadau does gen i ddim syniad pwy sy'n darllen Melysion, ond ers i mi ychwanegu 'Google Analytics' alla'i weld fod pobol yn dod i'r flog.

Dydw i ddim yn chwylio am llwyth o darllenwyr er mwyn i mi deimlo'n boblogaidd, ond dydw i ddim eisiau meddwl bod neb yn darllen beth rwy'n sgwennu.

Beth yw profiadau blogwyr Cymraeg eraill?

10.7.10

Sesiwn Fach 2010


8.7.10

Dathlu yn Dulyn...

Mae'r tymor 'tag rygbi' ar ben.

Wedi digon o llwyddiant, croesawu aelodau newydd, dathlu ein lwyddianau ag trafod ein methiannau daeth yr tîm Cymru Ddulyn yn drydydd. Hwre!

Dyma'r cwpan enillodd yr tîm wedi ni enill ein gêm olaf.