MELYSION MELYSION MELYSION »

22.2.07

Newyddion Cymru...

Pam fod storïau ar dudalen Newyddion y BBC ag ar BBC News Wales yn wahanol?

Mae rhaid i mi ddarllen y ddwy i gael gwybod beth yw Newyddion Cymru.
Jest rhywbeth bach oeddwn i wedi sylwi ar wrth bori’r we.


Stori bach diddorol - pensiynwraig 81 oed yn cael ASBO.

20.2.07

Boeth ag yn flin.

Mae’r swyddfa fel ffwrnes heddiw!

Mae’i wedi bod yn wythnos gymysg hyd yn hyn. Dwi wedi neud llanast o’r tŷ wrth goginio bwyd neithiwr, Ges i 4 awr adra yn y pawn gan fy mod i’n gweithio gyda’r nos ag yn lle glanhau a neud pethe call wnes i wylio ‘The Shawshank Redemption’ a’r eitemau ar ran bonws y DVD. Dwi’n teimlo fel dwi angen cic fyny tin - sgennai ddim mynydd o gwbwl!

Dwi’n meddwl fod fy Nghymraeg ysgrifenedig yn gwella ers i mi symud nôl i Gymru. Wnes i sgwennu llythyr hir fel rhan o’m ngwaith ond dywedodd rhywun fod o’n llawn o allu iaith. Roedd dwy o bobol wedi sbïo ag cywiro’r llythyr cyn i mi yrru o allan - felly nid y fi yn unig sydd ar fai. Ond mae hi’n ergyd i’m hyder.

Beth bynnag,
mae na penwythnos o rygbi i edrych ymlaen i ag mae hi’n Dydd Mawrth Crempog – yumm!

19.2.07

Gwobrau RAP

Wel, penwythnos prysur arall yn fy myd i. Wnes i godi’ mhac draw i Landudno ar gyfer y gwobrau RAP …dyma fy marn i o'r noson:


Venue Cymru, Llandudno oedd y lleoliad, Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru oedd y digwyddiad ac roeddwn wedi ymbincio yn barod ar gyfer un o nosweithiau mwyaf y flwyddyn yn y sîn roc Gymraeg.

Dyma'r tro cyntaf i mi fynd i'r noson wobrwyo yma a chyrhaeddais gyda meddwl agored gan fy mod wedi bod i hen ddigon o nosweithiau tebyg - rhai hir a diflas!

Roedd rhai o enwau mwyaf y sîn yn barod am noson fawr yn eu gwisgoedd gorau a chafodd llif o ddynion smart a merched tlws eu cyfarch gan y bownsars croesawus ar ddrws Venue Cymru.

Roedd y camerâu yn barod i gymryd lluniau o'r wynebau cyfarwydd cyn iddynt setlo yn eu seddau yn y neuadd fawr ble'r oedd y seremoni ar fin cychwyn.

Cyn i'r seremoni ddechrau roedd poteli gwin ar eu hanner ac roedd yr awyrgylch yn un hwylus dros ben. Yn wir, doedd dim math o ymddygiad roc a rôl i'w weld drwy gydol y nos.

Cyflwynwyr y noson oedd Lisa Gwilym a Dafydd Du a nhw wnaeth gyflwyno set gyntaf y noson sef Cowbois Rhos Botwnnog. Roedd caneuon bywiog ac egnïol y band o Ben Llŷn yn agoriad arbennig i'r noson ac roedd y gynulleidfa yn mwynhau eu cerddoriaeth 'hilbili'.

Un ar ôl y llall, cafodd enillwyr dlysau am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond noson i'r Gogs oedd hi gyda'r rhan fwyaf o'r artistiaid, bandiau a digwyddiad byw y flwyddyn yn dod o ogledd Cymru.

Roedd enillwyr y noson yn sicr yn haeddu'r clod a'r unig artist absennol oedd Mim Twm Llai, cyfansoddwr y flwyddyn - sydd ar hyn o bryd yr ochr draw i'r byd.

Roedd yna lu o berfformiadau byw gan rai fel artist benywaidd y flwyddyn, Swci Boscawen, a chafwyd perfformiad gan y Ffyrc a enillodd ddwy wobr yn ystod y noson.

Genod Droog, enillwyr dwy wobr gan gynnwys band byw'r flwyddyn a orffennodd y noson gyda cherddorfa yn gwmni iddynt ar y llwyfan. Roeddent yn glo hwyliog i'r noson gyda chriw yn dawnsio o flaen y llwyfan o'r dechrau.

Ond cyn i bawb ffoi am y parti roedd cyri ar gael i bawb a siawns i drafod y buddugol a'r anfuddugol cyn mynd ymlaen i ddathlu tan yr oriau man.

Gadewais gydag atgofion da o noson wobrwyo gyfeillgar - noson gall, noson barchus i bawb.


Ond mae'r parti'n stori wahanol....