Dwi wedi cael swydd newydd a dwi ar fin gorffen yr ail wythnos. Dwi’n gwneud marchnata i theatr leol sydd yn cael ei anwybyddu gan y wasg achos fod theatrau lawer mwy yn yr ardal. Mae’n lle braf i weithio gyda staff cyfeillgar.
Roed rhaid i mi fynd i Lanfair ym Muallt am gyfarfod ddoe. Mae’n drist fod y Gymraeg ddim i’w glywed ar strydoedd pentrefi fel hyn ac nid oes neb yn y siopau yn dallt yr iaith. Dwi wedi cael fy annog i ddechrau ‘popeth yn Gymraeg’ wedi mi wylio cyfres Ifor ap Glyn ac ers i mi dechrau bob sgwrs yn Gymraeg dwi wedi cael rhai ymatebion anfoesgar yn enwedig gan bobol sy’n gweithio yn siopau. Un gwaetha oedd yn Harlech lle wenes i ofyn pris rhywbeth. Yr ateb ges i oedd “ENGLISH!”. Wnes I gerdded allan o’r siop yn syth heb brynu dim! Os wneith pawb sy’n siarad Cymraeg yr un peth ella wneith y bobol flin yma fynd i wersi Cymraeg (dwi’n tybio gwnânt nhw ddim ond rhaid meddwl yn bositif.)
9.11.06
Gwnewch bopeth yn Gymraeg!!
Postwyd gan Melys at 9.11.06
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comments:
Da iawn chdi!
Allet ti dychmygu teulu o China'n symud i Loegr er mwyn agor siop neu fwyty ac yn cyfarth 'CHINESE' wrth y cwsmeriaid pan mae nhw'n mentro siarad Saesneg iddynt.
Dalia ati.. falle un dydd fydd pawb sy'n siarad yr iaith yn cael tatw o ddraig ar eu talcen neu rhywbeth!
Post a Comment