MELYSION MELYSION MELYSION »

19.2.07

Gwobrau RAP

Wel, penwythnos prysur arall yn fy myd i. Wnes i godi’ mhac draw i Landudno ar gyfer y gwobrau RAP …dyma fy marn i o'r noson:


Venue Cymru, Llandudno oedd y lleoliad, Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru oedd y digwyddiad ac roeddwn wedi ymbincio yn barod ar gyfer un o nosweithiau mwyaf y flwyddyn yn y sîn roc Gymraeg.

Dyma'r tro cyntaf i mi fynd i'r noson wobrwyo yma a chyrhaeddais gyda meddwl agored gan fy mod wedi bod i hen ddigon o nosweithiau tebyg - rhai hir a diflas!

Roedd rhai o enwau mwyaf y sîn yn barod am noson fawr yn eu gwisgoedd gorau a chafodd llif o ddynion smart a merched tlws eu cyfarch gan y bownsars croesawus ar ddrws Venue Cymru.

Roedd y camerâu yn barod i gymryd lluniau o'r wynebau cyfarwydd cyn iddynt setlo yn eu seddau yn y neuadd fawr ble'r oedd y seremoni ar fin cychwyn.

Cyn i'r seremoni ddechrau roedd poteli gwin ar eu hanner ac roedd yr awyrgylch yn un hwylus dros ben. Yn wir, doedd dim math o ymddygiad roc a rôl i'w weld drwy gydol y nos.

Cyflwynwyr y noson oedd Lisa Gwilym a Dafydd Du a nhw wnaeth gyflwyno set gyntaf y noson sef Cowbois Rhos Botwnnog. Roedd caneuon bywiog ac egnïol y band o Ben Llŷn yn agoriad arbennig i'r noson ac roedd y gynulleidfa yn mwynhau eu cerddoriaeth 'hilbili'.

Un ar ôl y llall, cafodd enillwyr dlysau am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond noson i'r Gogs oedd hi gyda'r rhan fwyaf o'r artistiaid, bandiau a digwyddiad byw y flwyddyn yn dod o ogledd Cymru.

Roedd enillwyr y noson yn sicr yn haeddu'r clod a'r unig artist absennol oedd Mim Twm Llai, cyfansoddwr y flwyddyn - sydd ar hyn o bryd yr ochr draw i'r byd.

Roedd yna lu o berfformiadau byw gan rai fel artist benywaidd y flwyddyn, Swci Boscawen, a chafwyd perfformiad gan y Ffyrc a enillodd ddwy wobr yn ystod y noson.

Genod Droog, enillwyr dwy wobr gan gynnwys band byw'r flwyddyn a orffennodd y noson gyda cherddorfa yn gwmni iddynt ar y llwyfan. Roeddent yn glo hwyliog i'r noson gyda chriw yn dawnsio o flaen y llwyfan o'r dechrau.

Ond cyn i bawb ffoi am y parti roedd cyri ar gael i bawb a siawns i drafod y buddugol a'r anfuddugol cyn mynd ymlaen i ddathlu tan yr oriau man.

Gadewais gydag atgofion da o noson wobrwyo gyfeillgar - noson gall, noson barchus i bawb.


Ond mae'r parti'n stori wahanol....

0 comments: