MELYSION MELYSION MELYSION »

8.4.08

AFFRICA I DDOLGELLAU ~ Sesiwn Fawr Dolgellau

Sesiwn Fawr Dolgellau

Gorffennaf 18 & 19, 2008


Mae trefnwyr Seswin Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi rhestr yr artisiaid a fydd yn ymddangos yn yr ŵyl a gynhelir ar Orffennaf 18 ac 19 eleni. Mae’r rhestr gyda’r mwyaf cyffrous eto ac yn restr syn cynnig rhywbeth i bawb o bob oed. Prif fand y Sesiwn Fawr eleni fydd y Gwyddelod anhygoel The Saw Doctors, a’u cerddoriaeth hwyliog hwy fydd yn dod a gweithgareddau i ben ar nos Sadwrn, hyn yn benllanw i ddeuddydd o gerddoriaeth anhygoel.

Bydd thema Affricanaidd i’r Sesiwn eleni gyda dim llai na phedwar band o’r cyfandir yn ymddangos ar y llwyfannau. Daw’r Bedouin Jerry Can Band ardal anialwch y Sahara a maent yn creu eu cerddoriaeth trwy ddefnyddio, ymysg pethau eraill, deunyddai wedi ei darganfod yn yr anialwch. Rhyddhawyd y cd Soul Science gan Justin Adams a Juldeh Camara yn ddiweddar a derbyniodd froliant mawr yn y wasg ac yn sicr bydd yn un o cd y flwyddyn yn siartiau cerddoriaeth byd. Daw Juldeh Camara o Ghana tra mae Justin Adams wedi gwneud enw mawr iddo’i hun trwy chwarae’i gitar gyda, ymhlith eraill, yr enwog Robert Plant. Datgeinydd ar y kora, y delyn Affricanaidd, yw N’Faly Kouyate sy’n enwog am ei ran yn y band Afro Celt Sound System, ond eleni daw N’faly a’i fand Dunyakan i’r Sesiwn. Bydd y gantores o’r Aifft Natacha Atlas yn uchafbwynt ar y prif lwyfan nos Wener. Bu Natacha Atlas yn prif leisydd y band Transglobal Undergroud tan yn ddiweddar

Pob blwyddyn daw cerddoriaeth y byd i Ddolgellau a dyw eleni ddim gwahanol yn ogystal a’r seiniau Affricanaidd gallch fwynhau rhythmau salsa gan Grupo Fantasma o Texas a’r Buena Risca Social Clwb o Gaerdydd ac os mae bluegrass sy’n mynd a’ch ffansi peidied a methu’r Coal Porters, neu’r blues, yna Lisa Mills amdani.

Ond fel arfer mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn cynnig y gorau o gerddoriaeth y sin yng Nghymru ac eleni cewch fwynhau Huw Chiswell, Bryn Fôn, Sibrydion, Gwibdaith Hen Fran, Steve Eaves, Lowri Evans, Cowbois Rhos Botwnnog a Celt. Efallai mai’r pluen fwyaf yn het y Sesiwn Fawr elni yw’r ffaith eu bod wedi preswadio Endaf Emlyn i berfformio’n fyw unwaith eto. Bu’r cerddor yn dawel ers dyddiau Jip yn yr 80au. Yn ei set ar gyfer y Sesiwn eleni bydd yn perfformio caneuon oddi ar ei albym ddylanwadol Salem, albym na chafodd ei pherffromio’n fyw o’r blaen. Bydd perfformaid o Salem yn sir Feirionnydd nid yn unig yn ddigwyddiad cerddorol o bwys ond yn un hanesyddol, digwyddiad y byddwch eisiau dweud ‘roeddwn i yno.’

Uchafbwynt arall yn sicr fydd ymddangosiad yr hen rocyrs Man sydd wedi bod yn gigio ers 40 mlynedd. Mwynhaodd y band o ardal Abertawe a Llanelli gryn enwogrwydd yn y 70au a braf fydd eu gweld ar lwyfan y Sesiwn.

Dros y blynyddoedd mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi ymfalchio mewn datblygiadau cyffrous i’r wyl ac eleni fe welir llwyfan dawns am y tro cyntaf yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Bydd amrywiol wethgareddau i’w mwynhau yma. Yn y prynhawn gallwch fwynhau twmpath efo’r Bandarall ond gyda’r nos bydd y rhythmau yn newid ac yn cynhyrfu cryn dipyn gyda setiau dj gan Dyl Mei a’r Byd Mawr a set gan yr anhygoel Skilda o Lydaw.

Bydd tocynnau ar gyfer y Sesiwn Fawr yn mynd ar werth dydd Mawrth, Mawrth 25ain a gellir eu sicrhau o’r wefan ar www.sesiwnfawr.com neu trwy ffonio 08712301314. Mae’r tocynnau ar werth ar yr un pris a llynedd sef dydd Gwener £22, dydd Sadwrn £25 a thocyn penwythnos am £42.

0 comments: