MELYSION MELYSION MELYSION »

10.8.09

Chwylio am hwyl yn yr Eisteddfod

Dwi'n nol wrth fy nesg wedi benwythnos yn y Gogledd.

Wedi mi cyraedd ar y Nos Wener a cael pryd o fwyd efo mam a dad, wnes i gyrru i'r Eisteddfod o Benrhyndeudraeth gyda un o fy ffrindiau gorau.

Roedd y ddau ohonym wedi cyffroi wedi wythnos o trefnu ag siarad am y noson.

Camgymeriad 1. Mynd yna yn hwyr ag ddim mynd am beint i dre cyn mynd i Maes B ag sylwi na dyna lle oedd pawb.
Camgymeriad 2. Mynd i Maes B.

Roedd rhaid i mi ddweud roedd y Maes B yn siom fawr i gymharu ag rhai dwi wedi bod i o'r blaen. Fy profiad Maes B cyntaf oedd Eisteddfod Bala yn 1997, ag fel mae llawer dal yn mynnu 'hwnna oedd Eisteddfod gorae erioed!'

Wrth cyraedd Maes B roedd cerddoriaeth yn llenwi'r awyr, ond sylwais yn syth bod yr un caneuon oedd yn cael ei chwarae gan yr un bandiau nol yn Steddfod Abertawe yn 2006 yn dod o Maes B. Mewn tair blynedd mae rhaid bod na well cerddoriaeth wedi cael ei greu tybed?!

Unwaith dalais y 12 punt i mynd i fewn cerddais i fewn i'r babell ag roedd y lle bron yn wag, ag yr rhai roedd yna oedd pobol ifanc dan oed (wnaeth un hogyn 16 trio teimlo fy mron ar un adeg). Doedd na ddim awyrgych hwylus fel dwi'n cofio yn Eisteddfodau o'r gorfennol ag doedd rhan fwyaf o'r staff ddim yn siarad Cymraeg - staff ar y drws nag y rhai ar y bar.

Ella na fel hyn mae Maes B wedi bod erioed ag dwi yn mynd yn hen - ond dwi'n tybio baswn i wedi bod yn fwy hapus yn y maes mytholegol Maes Huw ag yn yfed yn un o'r tafarndau yn y dre.
Diolch byth am y pannad bendigedig y Gorlan oedd yn pleser pur y fore wedyn gyda rhôl bacwn.

Priodol iawn na fy mhrofiad cynta oedd yn Eisteddfod Bala ag nawr yr un terfynol hefyd.

3 comments:

Rhys Llwyd said...

Diolch am y blog! Tyd draw i gigs Cymdeithas yr Iaith blwyddyn nesa, llawer mwy gwaraidd.

Heblaw am fod yn erbyn y gyfraith, doea dim yn bod ar yfed dan oed - dwi wedi gwneud o ac mae pawb wedi wneud o. Y broblem mae'r steddfod yn wynebu ydy mass binge drinking dan oed - maen RHAID i'r steddfod wynebu a sortio hyn allan.

Gwion23 said...

Difyr gweld dy sylwadau Melys.
Fel rhywun oedd yn gweithio yn Maes B ar y nôs wener, dwi wedi synnu 'chydig.
Does dim dadl, mi roedd y criw oedd yno yn ifanc! Mae'n bryd i fi gydnabod fy mod i'n mynd yn hên.

Yn ystod yr amser pan oedd 'y babell bron yn wag"
yr jyn oedd i'w glywed oedd naill ai stwff Huw Stephens yn troelli, neu 'Y Bandana' neu 'The Stilletoes' er, erbyn i The Stilletoes chwarae roedd yn reit brysur.
Fel rhywun oedd yn gweithio yn maes B Abertawe, alla'i ddim cofio gweld y naill fand na'r llall yn chwarae, ond os taw cyfeirio at gerddoriaeth huw wyt ti, wel, mae lan i DJ beth ma'n chware, ond mae Huw Stevens yn adnabyddus fel DJ sy'n flaengar yn y gerddoriaeth newydd mae'n chware.
Erbyn 'RaceHorses' roedd y babell yn llawn, a'r oedran cyffredinol wedi codi mymryn, a fi'n teimlo 'chydig llai o jeriatric!
o ran yr yfed, dwi'n cofio sylwi yn gynnar yn y noson ar ddau blisman yn dod i fewn i edrych am yfwyr o dan oed a chwerthin gan fod y bar yn hollol wag!
Os felly, mae'n rhaid taw yfed ar y stryd yr oedd y diawled bach dan oed. Rhywbeth y mwynhaeais wneud lawer tro yn eisteddfodau'r gorfennol.
O ran rhywun o dan 16 yn trio cyffwrdd bron yn ymddygiad anfaddeuol, dim ots pa oedran, a dylid reportio'r peth.

Difyr hefyd yw edrych ar line up Cymdeithas ar y nos wener. Nifer o fandiau o 2006 yn chwarae!!!
Eniwe, digon o'r tit for tat 'ma!
Mi wnes i fwynhau yn arw.

Melys said...

Ella'r rheswm fod Maes B i weld yn ddistaw oedd yr agosrwydd i ganol y dre ag i gigiau eraill. Yn Abertawe roedd llai o amgylch Maes B felly oedd pawb yn aross yno i fwynhau'r gigs.

Gwion23 - roedd y DJio yn gwych, dwi'n ffan o DJio Huw Stephens, siarad am caneuon rhai o'r fandiau ydw i - mwy o adlewyrchiad yr SRG yw hynna nid Maes B.

Roeddwn i yn y babellyn ystod yr Race Horses, ag er fod yna digon o bobol o flen y llwyfan doedd y babell ddim yn hanner llawn.