MELYSION MELYSION MELYSION »

9.9.09

Tair blynedd o Melysion.

Mae bywyd wedi bod yn eitha' brysur, ag felly mae penblwydd Melysion wedi mynd heibio heb ddim dathliad o gwbwl. Roeddwn i'n gweithio yn yr RDS yr diwrnod wneth fy mlog fach i droi yn 3, ag heb amser i feddwl am flogio.
Dwi'n cofio sefyldlu'r flog mewn swyddfa fach yn Gaernarfon wedi i mi ddarllen am flogiau Cymraeg ar Maes-e. Ar yr amser roeddwn i'n ysgrifennu i'r BBC ag i'r Selar felly roedd flog yn lle addas i cyhoeddi fy ngwaith.

Ers hynny mae llawer wedi newid ag mae gan yr wefan olwg newydd, ag er fy mod i ddim yn cael amser i neud yn rheolaidd, dwi dal i fwynhau sgwennu flogiau yn y Gymraeg - yn wir, mae fy mlogiau saesneg wedi cael ei anghofio erbyn hyn ag Melysion yw'r unig un sydd dal i fod.
Felly penblwydd hapus hwyr Melysion.

1 comments:

Emma Reese said...

Penblwydd hapus hwyr i ti! Mae fy mlog newydd droi'n ddwy flwydd oed. Ymarfer fy Nghymraeg ydy'r prif amcan. Ac eto dw i'n mwynhau ei sgwennu'n fawr hefyd.