MELYSION MELYSION MELYSION »

26.7.10

Oes 'na bobol?

Mae'r blog yma ar fin dathlu 5 mlynedd mewn bodolaeth.

Ar y dechrau roedd fy mlog yn lle i postio adolygiadau gigs Cymraeg ag i ysgrifennu am yr byd o'm cwmpas. Yn yr 5 mlynedd ers i mi dechrau flogio yn yr Gymraeg mae rhai o fy hoff flogiau wedi cau lawr ond dwi wedi ceisio cadw hwn i fynd.

Yn diweddar rwyf wedi dechrau blog Saesneg i fynd efo fy nhyfrif ar Twitter ag yn yr mis diwethaf mae mwy o pobol wedi gadael sylwadau yno nag ydw i wedi cael mewn 5 mlynedd o flogio yma.

Dwi'n darllen rhai flogiau drwy Blogiadur.com ag wedi rhoi sylwadau ar rhai ohonyn nhw ond dydw heb clywed llawer am beth mae pobol yn meddwl o fy mlogiau. Ella dwi ddim yn aelod o'r byd o blogwyr, ella mae pobol yn meddwl fod fy mlog yn ddiflas, ella mae'r cymmuned o blogwyr Cymraeg yn ddiog...pwy a wyr. Heb sylwadau does gen i ddim syniad pwy sy'n darllen Melysion, ond ers i mi ychwanegu 'Google Analytics' alla'i weld fod pobol yn dod i'r flog.

Dydw i ddim yn chwylio am llwyth o darllenwyr er mwyn i mi deimlo'n boblogaidd, ond dydw i ddim eisiau meddwl bod neb yn darllen beth rwy'n sgwennu.

Beth yw profiadau blogwyr Cymraeg eraill?

5 comments:

Rhys Wynne said...

Dw i'n darllen y blog, and falle na ddonosith o yn yr ystadegau gan mod i'n darlen dy flog drwy Ddarllenydd RSS (bloglines) ac felly ddim yn ymweld รข'r blog.

Mae diffyg sylwadau yn gallu digaloni rhywun, ac mawe weid ei drafod sawl tro - dyma drfodaeth reit dwys.
http://henrechflin.blogspot.com/2007/08/blogio-yn-yr-heniaith.html

Mae'r byd blogiau Cymraeg wedi gwasgaru mwy rwan dw i'n credu, lle aer talwm reodd 'pawb' yn darllen blog pawb arall ac yn gadael sylw fel anogaeth. Rwan mae pobl yn yn blogio os ydy pwnc yn cofnod o ddiddordeb iddyn nhw.

Cath said...

Rwyt ti'n iawn - ychydig o sylwadau y bydda'i'n eu cael (ond diolch am dy un di). Jyst yn gobeithio bod y bobl sydd yn ei ddarllen yn cael rhyw hwyl/gwybodaeth mas ohono fe. Hefyd yn teimlo bod ysgrifennu blog o gwbl yn Gymraeg yn rhywbeth pwysig.

Emma Reese said...

Mae nifer o flogwyr Cymraeg lleyg sy'n postio'n ddieithriad yn lleihau'n sylweddol fel chi'n dweud. Efallai bod gynnyn nhw bethau gwell i'w gwneud yn eu bywydau. I mi, cyfle i sgrifennu Cymraeg ydy fy mlog; fe wna i barhau cyhyd ag y medra i. Wedi dweud hynny, byddai sylw neu ddau'n fy nghalonogi heb os.

Cytuno'n llwyr, Cath. Dan ni'n cyfrannu at yr iaith Gymraeg drwy'n blogiau ni.

Nwdls said...

Haia

Dwinna'n darllen dy flog trwy ddarllennydd RSS. Mae hynny hefyd yn atal fi rhag rhoi sylwadau.

Dwi wedi mwynhau darllen am dy brofiadau di yn Iwerddon.

Dwi wedi dechrau gwefan fideobobdydd.com i ddod a mwy sylw i fideos Cymraeg. Trafodwyd yn y meetup Hacio'r Iaith yn y Steddfod y bydda rhywbeth tebyg ar gyfer cofnodion blog difyr yn dda hefyd.

Sgen i ddim yr amser i'w wneud ond dwi'n credu byddai'n werth chweil. Ti di trio tynny dy gofnodion di drwodd i dy feed Twitter a Facebook trwy ddefnyddio Twitterfeed? Werth trio os ti am dynnu traffig i dy flog.

Ma'n digalonni rhywun pan bod lefel darllenwyr yn fach a thawel, ond mae blogio yn beth hunanol yn y bon ac yn werth ei wneud. Sa jest yn neis tasa na ffordd o gael chydig mwy o sylw iddyn nhw.

Ella bod modd cyfuno feeds RSS a creu fan page ar Facebook?

Carl Morris said...

Newydd wedi tanysgrifio!

Dw i'n hoffi dy flog ond dw i ddim yn hoffi'r ffurflen sylwadau - oes gyda ti opsiynau? Mae'n cynnig opsiwn Cyfrif Google yn unig. Beth am y bobol heb Gyfrif Google? Dw i'n hoffi'r opsiwn enw ac URL. Dw i ddim yn nabod Blogger yn dda achos dw i'n defnyddio WordPress fel arfer.