MELYSION MELYSION MELYSION »

11.9.09

Hiraeth 2

Dwi'n eistedd wrth fy nesg yn yfed champagne ag yn edrych allan o'r ffenest yn meddwl am Gymru. Pam, ella bo chi'n ofyn, sa rhywun sydd yn byw yn un o'r dinasoedd mwya creadigol o prydferth yn yfed diod posh yn meddwl am Gogledd Cymru - wel, mae hiraeth yn uffar o beth. Dwi heb di bod adra ers dros mis, ag er fy mod i'n gwneud y daith o Dún Laoghaire i Caergybi mewn pythefnos mae atgofion o ha' yn yr mynyddoedd yn rhythro drwy fy mhen. Dwi hyd yn oed wedi newid y llun sy'n cefndir fy ngyfrifiadur o melysion i'r golygfa o fy hen dŷ yn Meirionnydd.

Yn pob ardal yn 'Werddon dwi wedi ymweld mae un peth yn atgoffa fi o Gymru. Dim copa'r mynyddoedd, sydd yn lot llai na'r Wyddfa, dim lliw y caeau sydd yr un mor wyrdd a Gymru. Y peth sydd yn atgoffa fi o adra yw arwydd bach fyddai'n gweld ar fyrdd Iwerddon - o Westport i dre Kilkenny ag o Kerry i Dundrum dwi wedi gweld yr un peth sydd yn troi fy meddwl yn syth i Gymru:

9.9.09

Tair blynedd o Melysion.

Mae bywyd wedi bod yn eitha' brysur, ag felly mae penblwydd Melysion wedi mynd heibio heb ddim dathliad o gwbwl. Roeddwn i'n gweithio yn yr RDS yr diwrnod wneth fy mlog fach i droi yn 3, ag heb amser i feddwl am flogio.
Dwi'n cofio sefyldlu'r flog mewn swyddfa fach yn Gaernarfon wedi i mi ddarllen am flogiau Cymraeg ar Maes-e. Ar yr amser roeddwn i'n ysgrifennu i'r BBC ag i'r Selar felly roedd flog yn lle addas i cyhoeddi fy ngwaith.

Ers hynny mae llawer wedi newid ag mae gan yr wefan olwg newydd, ag er fy mod i ddim yn cael amser i neud yn rheolaidd, dwi dal i fwynhau sgwennu flogiau yn y Gymraeg - yn wir, mae fy mlogiau saesneg wedi cael ei anghofio erbyn hyn ag Melysion yw'r unig un sydd dal i fod.
Felly penblwydd hapus hwyr Melysion.