MELYSION MELYSION MELYSION »

17.11.10

Ddyledion Iwerddon

Dylai pawb wedi clywed am sefyllfa economaidd Iwerddon erbyn hyn (er roedd un ddynes yn gwaith ddim ‘di clywed).

Rydw i newydd dathlu y trydydd pen-blwydd ers i mi gyrraedd ar yr ynys werdd yma, ac yn yr amser yna mae’r sefyllfa economaidd wedi mynd o ddrwg i llanast rhyngwladol.

(I weld lle mae pob dim yn mynd o'i le gallwchbwrw golwg ar y BBC yn erthygl am y sefyllfa.)

Nid yw bywyd y tu mewn i'r swigen mor ddrwg. Mae cyflogau yn dal i fod yn uwch nag yn y Prydain, person di-waith yn ei gael, fodd bynnag, ni ellir sefyllfa yma parhau fel hyn.
Mae llywodraeth Iwerddon gwario yn ystod yr adegau da ac ddim yn buddsoddi ar gyfer diwrnod glawog fel yr rhai sydd yn bodoli heddiw. Maent hefyd yn gadael i fanciau gael i ffwrdd â llofruddiaeth ac wedyn i sicrhau y banciau – ag Iwerddon oedd yr wlad gyntaf yn y byd i wneud hynny.

Fy marn i yw bod y llywodraeth Gwyddelig wedi pydru i'r craidd, ac er bod y llywodraeth Cymru ag Llundain yn bell o fod yn berffaith, rwy'n amau y byddent yn mynd i ffwrdd gyda hanner y pethau mae Fianna Fáil wedi gwneud. Beth bynnag, nid yw pob bys yn rhoid yr bai ar Brian Cowan, roedd Bertie Ahern gyda ran fawr i'w chwarae yn dinistrio’r economi Gwyddelig a llwyddo i gadael yn ddi-bai am yr sefyllfa mae Iwerddon mewn heddiw.

Felly, ar hyn o bryd o'r tu mewn i'r wlad dydi pethau yn ymddangos i fod yn rhy ddrwg, ond mae pawb yn barod i bethau waethygu cyn iddynt wella.

0 comments: