MELYSION MELYSION MELYSION »

30.11.10

Rhesymau dros protestio

Roeddwn i’n siarad ar y radio dros y penwythnos oherwydd fy mod yn un o'r protestwyr a gymerodd i’r strydoedd i brotestio dros llanast economaidd mae’r llywodraeth Gwyddelig a’r banciau wedi creu a'r mesuriadau sydd wedi cael ei dyfeisio i wella’r sefyllfa.

Symudais i Ddulyn yn 2007 i astudio. Roedd yr ddinas yn gwneud yn dda, ond wedi colli llawer o'r hunaniaeth yr wyf yn cofio o fy mhlentyndod. Ond yn y blynyddoedd ers i mi gyrraedd mae pethau wedi troi unwaith eto a gallwch weld y newidiadau ar ein strydoedd, o'r siopau ar gau i'r cynnydd yn y bobl ddigartref yn yr ddinas.

Pan orffenais fy nghwrs yn 2008 cefais swydd ar yr cyflog isaf ac doedd o ddim yn hawdd byw ar yr cyflog yna. Roeddwn i’n gally dalu fy rhent, ond roedd ychydig o arian yn weddill ar gyfer nosweithiau allan neu ar gyfer teithiau yn ôl i Gymru. Ges i swydd arall fel y gallwn i gael fwy o arian ychwanegol, ond roeddwn i’n gweithio 9yb tan 11yh ac yn cyrraedd adref am hanner nos. Dwi erioed wedi bod mor flinedig yn fy mywyd!

Felly, pan glywais fod yr llywodraeth am dorri’r isafswm cyflog roeddwn i yn siomedig iawn. Gallaf ddeall fod yna bobl sydd eisoes yn ei chael yn anodd, ond yn awr bydd yn rhaid iddynt dorri'n ôl ymhellach. Yr wyf yn ddig bod dulliau y llywodraeth Gwyddelig o arbed arian yn ymosod ar y bobl tlotaf yr wlad.


Dyna un o'r rhesymau pam yr oeddwn yn un o'r rhai a gymerodd rhan yn yr brotest ar y ddydd Sadwrn i wneud yn siwr bod y llywodraeth yn gwybod fod y bobl yn deud fod hyn ddim yn dderbyniol.


0 comments: