Dwi wedi bod yn chwylio am cwrs nos mewn Gwyddelig yn ardal Dundrum, pan cofiais fod fy hen coleg yn rhedeg cyrsiau am ddim yn yr adeilad ar stryd Aungier. Wnes i gyrru e-bost i cyferiad oedd ar wefan yn holi am y cyrsiau. Roedd yr ateb yn bach o syndod:
"Annwyl ____," oedd dechrau y neges ag yna aeth ymlaen i rhoi manylion y cyrsiau ag wedyn gorffenodd efo "Dymuniadau gorau." Felly, holias fwy am y Cymraeg yn y neges.
"Mae gen i dipyn o Gymraeg," atebodd yr ddynes. "Es i i'r coleg yn Aberystwyth dros 10 mlynedd yn ol ond ers hynny, rwy'n colli y rhan fwyaf o'r iaith."
Hwre! Rhywun arall galla'i siarad Cymraeg efo yn Ddulyn!
26.11.09
Yr iaith ar daith...
Postwyd gan Melys at 26.11.09 0 comments
19.11.09
Chwarae'n troi'n chwerw
Mae rhan fwya o pobol yn cwyno heddiw...o pobol ar y stryd i cyflwynwyr radio, ag nid am y tywydd y tro yma. Does dim dianc o'r cwyno yn gwaith hyd yn oed. Bob hyn a hyn mae rhywun yn dod a'r peth i fynny - "Y twyllwr!"
Y pwnc mae pawb yn trafod yw gêm peldroed rhwng Iwerddon a Ffrainc ag yn fwy penodol Thierry Henry a'i 'handball'.
Welsoch chi'r gêm?
"Henry: 'It was a handball... but I’m not the ref'"
Postwyd gan Melys at 19.11.09 0 comments
16.11.09
Allforion Iwerddon
Mae'n anodd darganfod rhywun sydd heb clywed am JEdward, ag yma yn Iwerddon mae'r ddau o Lucan, ger Ddulyn, ar flaen rhan fwya' o'r papurau newydd. Mae tudalen flaen y Metro yn dweud 'They're Still In It' gyda llun mawr o'r efeilliaid yn perfformio ar y rhaglen.
Mae'r X Factor yn pwnc fawr yn ein cwmni - yn enwedig ymysg y merched sy'n gweithio ar y cylchgrawn 'U' sydd yn anelu at pobol ifanc rhwng 18 -25. Ar y cyfan mae pawb yn meddwl bod nhw'n jôc , ond mae rhai yn dechrau dweud bod na siaws ellith John ag Edward enill y cystadleuaeth!
Roeddwn i ar y rhaglen radio Taro'r Post yr wythnos diwethaf yn siarad am Jedward - fy marn personol amdanyn nhw yw fod y ddau yn dod a bach o'r hwyl i'r rhaglen. Mae rhan fwyaf o'r cystadleuwyr gyda'r run maint o gymeriad â malwen ag heb JEdward fydd pawb wedi blino ar y rhaglen erbyn hyn. (Er dwi di dechrau gwylio Strictly mwy na'r X Factor.)
Er bod yr sioe yn cael ei ddangos ar yr sianel Gwyddelig TV3 nid yw gwylwyr yma yn gallu pleidleisio - felly pobol yn Prydain sydd yn cadw'r Gwyddelod mwya wirion ers Zig and Zag ar y sioe (ag wnaeth Simon Cowell rhyddhau sengl ganddyn nhw).
Wnaeth Simon bygwth gadael Prydain os yw'r ddau yn enill - felly dwi'n cefnogi'r ddwy. Mae telori Leona Lewis ag Shane Ward yn ddigon i'r byd heb i'r sioe cynhyrchu mwy.
Postwyd gan Melys at 16.11.09 0 comments
23.10.09
Siarad dwli ngwyliau
Dwi wedi bod ar fy ngwyliau yn yr Unol Dalaethau ag heb ‘di cael amser i rhoi ‘ffeithiau cwbwl anniddorol ar y we.’
I weld be dwi’n siarad am ewch i'r erthygl yma yn Gwefan Golwg 360
Postwyd gan Melys at 23.10.09 0 comments
11.9.09
Hiraeth 2
Dwi'n eistedd wrth fy nesg yn yfed champagne ag yn edrych allan o'r ffenest yn meddwl am Gymru. Pam, ella bo chi'n ofyn, sa rhywun sydd yn byw yn un o'r dinasoedd mwya creadigol o prydferth yn yfed diod posh yn meddwl am Gogledd Cymru - wel, mae hiraeth yn uffar o beth. Dwi heb di bod adra ers dros mis, ag er fy mod i'n gwneud y daith o Dún Laoghaire i Caergybi mewn pythefnos mae atgofion o ha' yn yr mynyddoedd yn rhythro drwy fy mhen. Dwi hyd yn oed wedi newid y llun sy'n cefndir fy ngyfrifiadur o melysion i'r golygfa o fy hen dŷ yn Meirionnydd.
Yn pob ardal yn 'Werddon dwi wedi ymweld mae un peth yn atgoffa fi o Gymru. Dim copa'r mynyddoedd, sydd yn lot llai na'r Wyddfa, dim lliw y caeau sydd yr un mor wyrdd a Gymru. Y peth sydd yn atgoffa fi o adra yw arwydd bach fyddai'n gweld ar fyrdd Iwerddon - o Westport i dre Kilkenny ag o Kerry i Dundrum dwi wedi gweld yr un peth sydd yn troi fy meddwl yn syth i Gymru:
Postwyd gan Melys at 11.9.09 0 comments
9.9.09
Tair blynedd o Melysion.
Mae bywyd wedi bod yn eitha' brysur, ag felly mae penblwydd Melysion wedi mynd heibio heb ddim dathliad o gwbwl. Roeddwn i'n gweithio yn yr RDS yr diwrnod wneth fy mlog fach i droi yn 3, ag heb amser i feddwl am flogio.
Dwi'n cofio sefyldlu'r flog mewn swyddfa fach yn Gaernarfon wedi i mi ddarllen am flogiau Cymraeg ar Maes-e. Ar yr amser roeddwn i'n ysgrifennu i'r BBC ag i'r Selar felly roedd flog yn lle addas i cyhoeddi fy ngwaith.
Ers hynny mae llawer wedi newid ag mae gan yr wefan olwg newydd, ag er fy mod i ddim yn cael amser i neud yn rheolaidd, dwi dal i fwynhau sgwennu flogiau yn y Gymraeg - yn wir, mae fy mlogiau saesneg wedi cael ei anghofio erbyn hyn ag Melysion yw'r unig un sydd dal i fod.
Felly penblwydd hapus hwyr Melysion.
Postwyd gan Melys at 9.9.09 1 comments
19.8.09
Apêl Sesiwn Fawr Dolgellau
Ocsiwn Addewidion gyda Dilwyn Morgan yn gyflwyno.
Dydd Mercher, Medi 16, 2009
7:30yh
Clwb Golff Dolgellau
£2 am rhaglen/ tocyn
01678540699
E-bost: jonesesyllt@tiscali.co.uk
Rhestr Addewidion:
Penwythnos i ddau yn Brynffynnon rhodd Debbie a Steve Holt
Pryd Tri Chwrs ym Mhen MaenUchaf
Llun Print gan yr artist Gareth Jones
Cinio a thaith o amgyllch y Tŷ Cyffredin gyda
Diwrnod o waith TG oddiwrth
Dau docyn i weld Manchester United
Pecyn o lyfrau o waith Bethan Gwanas
Hanner diwrnod o waith yn yr ardd oddiwrth
Hanner Oen
Ewyllys wedi ei wneud gan
Llun portread gyda phensil wedi ei wneud gan
Crys T wedi ei arwyddo gan yr actor Mathew Rhys
Dau Docyn i flasu gwin yn Dylanwad Da
Noson o warchod - Plant yn dderfrydol !
Geiriau Caneuon Dafydd Iwan yn ei lawysgri
A llawer llawer mwy!!!
Dewch yn llu i gefnogi y noson os na fedrwch ddod be am roi bid a r lein.
Postwyd gan Melys at 19.8.09 0 comments
10.8.09
Chwylio am hwyl yn yr Eisteddfod
Dwi'n nol wrth fy nesg wedi benwythnos yn y Gogledd.
Wedi mi cyraedd ar y Nos Wener a cael pryd o fwyd efo mam a dad, wnes i gyrru i'r Eisteddfod o Benrhyndeudraeth gyda un o fy ffrindiau gorau.
Roedd y ddau ohonym wedi cyffroi wedi wythnos o trefnu ag siarad am y noson.
Camgymeriad 1. Mynd yna yn hwyr ag ddim mynd am beint i dre cyn mynd i Maes B ag sylwi na dyna lle oedd pawb.
Camgymeriad 2. Mynd i Maes B.
Roedd rhaid i mi ddweud roedd y Maes B yn siom fawr i gymharu ag rhai dwi wedi bod i o'r blaen. Fy profiad Maes B cyntaf oedd Eisteddfod Bala yn 1997, ag fel mae llawer dal yn mynnu 'hwnna oedd Eisteddfod gorae erioed!'
Wrth cyraedd Maes B roedd cerddoriaeth yn llenwi'r awyr, ond sylwais yn syth bod yr un caneuon oedd yn cael ei chwarae gan yr un bandiau nol yn Steddfod Abertawe yn 2006 yn dod o Maes B. Mewn tair blynedd mae rhaid bod na well cerddoriaeth wedi cael ei greu tybed?!
Unwaith dalais y 12 punt i mynd i fewn cerddais i fewn i'r babell ag roedd y lle bron yn wag, ag yr rhai roedd yna oedd pobol ifanc dan oed (wnaeth un hogyn 16 trio teimlo fy mron ar un adeg). Doedd na ddim awyrgych hwylus fel dwi'n cofio yn Eisteddfodau o'r gorfennol ag doedd rhan fwyaf o'r staff ddim yn siarad Cymraeg - staff ar y drws nag y rhai ar y bar.
Ella na fel hyn mae Maes B wedi bod erioed ag dwi yn mynd yn hen - ond dwi'n tybio baswn i wedi bod yn fwy hapus yn y maes mytholegol Maes Huw ag yn yfed yn un o'r tafarndau yn y dre.
Diolch byth am y pannad bendigedig y Gorlan oedd yn pleser pur y fore wedyn gyda rhôl bacwn.
Priodol iawn na fy mhrofiad cynta oedd yn Eisteddfod Bala ag nawr yr un terfynol hefyd.
Postwyd gan Melys at 10.8.09 3 comments
20.7.09
30.6.09
Diwedd y gân
Roeddwn i'n drist am marwolaeth Michael Jackon gan fy mod i wedi gwrando i'w gerddoriaeth yn tyfu fynny yn ein tŷ yn Minffordd. Roeddwn i yn Cei Eden yn aros am fws efo gwraig fy cefnder pan ffoniodd o'i waith mewn papur newydd i ddweud for Michael Jackson wedi marw. Roedd pobol ar y stryd yn siarad am y newyddion ag oedd glanhäwr stryd yn dweud y newyddion i bobol wrth ysgubo'r palment.
Ia oedd ei fywyd ers y 90au yn drist ag yn llawn helynt, ond roedd o dal yn un o cantorion gorau'r 20fed Ganrif.
Darllenias erthygl heddiw ar wefan The Times gan oedd yn crynodeb da o'i drafferthion ar diwedd ei fywyd: timesonline.co.uk
Postwyd gan Melys at 30.6.09 0 comments


