MELYSION MELYSION MELYSION »

4.3.10

Strancio!

Mae gwleidyddiaeth yn Iwerddon wedi bod yn llawn blerwch ag sgandal yn yr wythnosau diwethaf. Yn gyntaf wnaeth George Lee ymadael y plaid Fine Gael. Roedd Lee wedi gadael ei swydd fel golygydd economaidd yn RTÉ i rhedeg fel TD (Teachta Dála) ag enillodd ei sedd yn hawdd. Roedd Lee yn teimlo fod o ddim yn cael dylanwad ar polisiau economaidd y plaid ag gadewodd llawn ysblander. Roedd yr wasg wedi cynhyrfu gyda'r newyddion, felly pan dechreuodd fwy o pobol gadael roedd nhw wrth eu bodd. Ers hynny, mae'r Plaid Werdd wedi colli Déirdre de Búrca, Willie O'Dea [am awgrymu fod cysylltiadau rhwng cynghorydd Sinn Féin ag puteindy] ag wedyn Trevor Sargent [dros llythyr sgwenodd i gardaí ynglyn a ymchwyliad troseddol]. Mae pawb nawr yn gofyn pwy fydd nesa?

0 comments: