MELYSION MELYSION MELYSION »

8.3.10

Noson Croeso Cymru

Bydd Côr Meibion Cymry Dulyn yn cynnal eu "Noson Croeso Cymru" ar nos Wener, 12 Mawrth, y noson cyn y gêm rygbi rhwng Iwerddon a Chymru. Bydd hon yn cymryd lle yng ngwesty'r Grand Canal, Grand Canal Street, Dulyn 4. Cynnigir adloniant yn y Gasworks Bar o 9yh ymlaen. Mae'r pris mynediad yn 8 Ewro, sydd yn cynnwys un ddiod am ddim.
Croeso cynnes i bawb!

Os ydych chi wedi gwella ar ôl holl weithgareddau'r noson gynt, gallwch glywed Jonathan Davies cyn y gêm yn rhoi sesiwn Holi ac Ateb am ddim yng Ngwesty'r Arlington, wrth Bont O'Connell am 11yb ar fore'r Sadwrn, 13 Mawrth.

http://www.draigwerdd.org/Cymraeg.htm

0 comments: