MELYSION MELYSION MELYSION »

5.3.10

Siglo'r rhyngrwyd

Dwi wedi bod yn defnyddio Twitter ers diwedd 2009, ag dwi wrth fy modd.
Dwi'n meddwl am beth dwi am bostio ar wahanol adegau yn ystod y dydd: wrth aros am fws, mynd i'r arfarchnad - hyd yn oed yn gwaith. Yr foment yma, wrth sgwennu'r geririau yma, dwi'n meddwl am pethau i ddweud.
(Bach yn sad ella)

Diolch byth fy mod i wedi blino arno ychydig, ag yn defnyddio Twitter mwy fel lle i gweld be sy'n digwydd yn y byd ag yn enwedig beth sydd yn digwydd yn Iwerddon.

Un o'r pethau fwya' ym myd Twitter Iwerddon yw Crystal Swing.
Mae'n debyg fydd rhan fwyaf o bobol heb 'di clywed o'r band yma, ond mae nhw'n dechrau cael sylw tu allan i'r Y
nys Werdd - mae hyd yn oed Ellen DeGeneres wedi postio linc iddyn nhw! Gallwch fwynhau Crystal Swing ar You Tube neu darllen amdanynt yma: www.crystalswing.com

0 comments: